Wn i ddim faint o gardiau a blodau y bydd pobl wedi eu rhoi i’w hanwyliaid heddiw, na faint o brydau bwyd neu focsys siocled fydd wedi eu rhannu a’u bwyta. Wn ddim chwaith faint o bobl sy’n gyfarwydd â’r stori am y ferch a roddodd ei henw i’r Dydd Gŵyl Santes Dwynwen a ddethlir ar y pumed ar hugain o Ionawr bob blwyddyn. Stori drist yw honno mewn gwirionedd am ferch ifanc a syrthiodd mewn cariad ac a ddioddefodd ac a ddymunodd beidio â phriodi wedi hynny. Ond er ei siom bersonol, daeth Dwynwen i ddeisyfu bendith Duw ar gariadon. Hi, meddir, yw santes cariadon Cymru, a rhoddwyd mwy a mwy o sylw i’w dydd gŵyl y blynyddoedd diwethaf hyn. Heddiw, felly, fe glywn ni lawer ar y teledu a’r radio am Dwynwen a’r Ŵyl. Fe glywn lawer hefyd mae’n debyg am y ‘cariad pur’ hwnnw ‘sydd fel y dur, yn para tra bo dau’.
Beth bynnag a ddywedwn am y cariad a ddethlir heddiw â cherdd a cherdyn a chusan, mae gennym yn yr Efengyl gariad mwy a gwell i’w gyhoeddi ac i ddiolch amdano. Ac un peth sy’n sicr yn dangos rhyfeddod cariad Duw yw’r ffaith mai cariad yw hwn ‘sy’n para tra bo Un’. Oherwydd cariad unochrog yn ei hanfod yw cariad Duw. Ac yn ei hanfod wrth gwrs, fel y dywed Ioan wrthym, ‘cariad yw Duw’ (1 Ioan 4:8). Nid yw cariad Duw atom yn dibynnu ar yr hyn ydym ni nac ar yr hyn a wnawn ni. Mae Duw yn ein caru am ei fod yn dewis gwneud hynny. Mae’n ein caru heb i ni haeddu hynny. Mae’n ein caru er gwaetha’r ffaith fod yna bob math o resymau dros iddo beidio â gwneud hynny. Mae’r Duw Mawr yn caru am mai cariad ydyw.
Mor wahanol yw gwir gariad pur Duw i’r cariad ‘sy’n para tra bo dau’. Ar ei orau, gall y math o gariad a ddethlir heddiw ein hatgoffa o gariad Duw. Ond nid yr un peth ydyw. Rydym ni’n caru am fod rhywbeth – prydferthwch golwg, neu anwyldeb, neu harddwch cymeriad, neu’r pethau rhyfeddaf o bosibl – wedi ennyn y cariad hwnnw. Ond mae Duw’n caru er nad oes dim ynom sy’n ennyn ei gariad.
Ac y mae cariad Duw yn para nid ‘tra bo dau’ ond ‘tra bo Un’. Gall y cariad mwyaf eirias oeri, a hynny am bob math o resymau. Mae serch cariadon yn sicr yn marw os nad yw’r ddau’n ei deimlo a’i ddangos. Ond mae cariad Duw’n para am nad yw’n dibynnu ar ein cariad ni ato Ef. Mae Duw eisiau i ni ei garu; mae Duw’n rhoi gras i ni i’w garu; mae gennym fel Cristnogion awydd i’w garu. Ond nid dyna sail ei gariad Ef atom.
Bydd cofio hynny’n ein gwneud ni’n ostyngedig. Feiddiwn ni ddim am un eiliad feddwl ein bod yn haeddu cariad Duw. Bydd hefyd yn ein gwneud yn ddiolchgar am gariad unochrog ac eithafol Duw sydd wedi gwneud iddo roi ei Fab Iesu Grist yn aberth trosom ar Galfaria. A bydd yn ein gwneud yn bobl sy’n fwy awyddus fyth i garu Duw am iddo Ef yn gyntaf ein caru ni.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 25 Ionawr, 2015