Charlie Hebdo

thSXVQPCBC

Gwaetha’r modd, nid rhegfeydd oedd y penawdau a ddisgrifiai’r ‘bloody siege’ yn Ffrainc ddydd Gwener. Byddai llond papur newydd o regfeydd wedi bod ganmil gwell na’r hyn a gafwyd mewn archfarchnad ym Mharis ac ar stad ddiwydiannol ar gyrion y ddinas yn nhref Dammartin-en-Goele. Wedi tridiau gwaedlyd roedd ugain o bobl wedi eu lladd: deuddeg ohonynt yn swyddfeydd y cylchgrawn Charlie Hebdo ddydd Mercher; plismones ar ochr stryd ddydd Iau; pedwar o wystlon yn yr archfarchnad ddydd Gwener; ac yn ôl pob tebyg y ddau frawd a fu’n gyfrifol am ladd y deuddeg, ynghyd â’r dyn a laddodd y pump arall. Gwarchae gwaedlyd a thridiau trist.

Fe gondemniwyd y llofruddiaethau hyn gan lywodraeth a phobl Ffrainc ynghyd â llywodraethau a chyfryngau a phobl ar draws y byd. Fel y gellid disgwyl, mae arweinwyr crefyddol, yn cynnwys Cristnogion ac Iddewon a Moslemiaid, hefyd wedi condemnio’r ymosodiadau ciaidd hyn. A da hynny.

Ond beth a wnawn ni? Gallwn ninnau gondemnio’r lladd. Gallwn weddïo dros y bobl a ddioddefodd yn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf. Gallwn hefyd weddïo y bydd pobl sy’n cynllwynio’r math hwn o gyflafan yn cael eu hatal, a hyd yn oed yn cael gras i gefnu ar y fath lwybr.

Wrth gondemnio’r hyn a ddigwyddodd i staff Charlie Hebdo, mae miliynau o bobl yn awyddus hefyd i ddangos eu cefnogaeth i egwyddor ‘rhyddid y wasg’ a ‘rhyddid mynegiant’ yr oedd y cylchgrawn hwn mor danbaid drosti wrth fynnu cyhoeddi’r cartwnau a oedd yn dychanu crefydd Islam a’i phroffwyd Mohammed. Gwelwyd pobl yn herio’r terfysgwyr trwy arddel y geiriau a’r logo ‘Je suis Charlie’ er mwyn uniaethu â’r bobl a laddwyd a chefnogi’r egwyddor bwysig hon. Yn sicr, roedd y miloedd a wnaeth hyn ar strydoedd Paris yn cyhoeddi’n ddewr na fyddan nhw na’u cymdeithas yn ildio i fygythiadau’r terfysgwyr.

Gallwn ddeall a gwerthfawrogi hynny. Ond nid yw’r rhyddid mynegiant hwn yn golygu bod pobl yn cael dweud beth a fynnon nhw bob amser. Mewn cymdeithas wâr, mae pobl ar brydiau’n dewis peidio â dweud rhai pethau: peidio â dweud anwiredd; peidio â dweud rhai pethau a fydd yn achosi loes i eraill; a hyd yn oed beidio â dweud pethau sy’n sicr o greu helynt rhwng pobl a’i gilydd. Gallem ddadlau bod gennym hawl i ddweud yr holl bethau hyn, ond dewiswn beidio â’u dweud am wahanol resymau. Mae’n dda cofio nad ofn terfysgwyr yw’r unig reswm dros ddewis peidio â dweud neu wneud rhai pethau. I’r Cristion, yn sicr, mae rhyddid mynegiant, sef ein hawl i ddweud a fynnom, yn mynd law yn llaw â’r ddyletswydd sydd arnom i ddefnyddio geiriau’n ofalus, er lles i eraill, ac er gogoniant Duw bob amser.

Dof nôl at ein hymateb fel Cristnogion i ymosodiadau ar ein ffydd y tro nesaf.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 11 Ionawr, 2015

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: