Emmanuel Macron yw Gweinidog Yr Economi yn Llywodraeth Ffrainc, a’i enw ef a gysylltir â deddf newydd a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ddydd Sadwrn diwethaf. Mae Monsieur Macron yn hyderus y bydd y ddeddf yn hwb enfawr i dwf economi Ffrainc dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n rhaid iddi gael cefnogaeth y Senedd-dŷ (sef Ail Dŷ Senedd Ffrainc), ond gan na all hwnnw wrthod deddf a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y mae i bob pwrpas wedi ei phasio. Mae a wnelo’r ddeddf hon â sawl maes, yn cynnwys newidiadau i broffesiwn cyfreithwyr a notarïaid, a diwygio trefn tribiwnlysoedd diwydiannol. Ond y peth mwyaf dadleuol amdani yw’r hyn a ddywed am agor siopau ar y Sul. Bydd gan siopau mawr hawl i agor am 12 Sul y flwyddyn yn hytrach na’r 5 presennol. Caiff siopau yn yr ‘ardaloedd twristaidd’ agor bob Sul; a bydd ganddynt hefyd hawl i aros yn agored tan hanner nos bob dydd. Fe ddaw’r rheolau newydd hyn â newid enfawr i Ffrainc, lle mae’r rhan fwyaf o’r siopau ynghau ar y Sul ar hyn o bryd. Llwyddwyd i basio’r ddeddf er gwaethaf gwrthwynebiad gweithwyr ac undebau a llawer o bobl sy’n credu mai arwydd o ormes byd busnes yw’r alwad i agor y siopau ar y Sul. Mae’r cyfan yn ein hatgoffa o’r trafod a fu yng Nghymru a Lloegr cyn pasio’r Ddeddf Masnachu ar y Sul yn 1994. Mae pobl yn Ffrainc heddiw’n poeni am hawliau gweithwyr, yn union fel yr oedd pobl yn poeni yma bryd hynny. Yn ôl a welaf fi, mae mwy o sail gymdeithasol a gwleidyddol nag o sail grefyddol i’r gwrthwynebiad i’r ddeddf hon yn Ffrainc. Y peth gwirioneddol drist am y stori yw ei bod yn tanlinellu’r celwyddau a lyncwyd gan lawer ohonom ugain mlynedd yn ôl. Un o ddadleuon mawr y bobl oedd o blaid agor y siopau ar y Sul oedd bod rhaid i ni yng Nghymru a Lloegr gamu i’r byd modern a bod yn debyg i’n cymdogion Ewropeaidd a oedd, yn ôl a ddywedwyd wrthym, wedi hen arfer â siopa ar y Sul. Mor ddiweddar ag ugain mlynedd yn ôl, nid oeddem mor gyfarwydd ag yr ydym heddiw â theithio, ac yn sicr doedden ni ddim yn medru mynd ar y We i weld pa siopau ym mha wlad oedd yn agored ar y Sul. Oherwydd hynny, o bosibl, fe weithiodd y twyll. Aeth y Sul yn ddiwrnod siopa mewn amser byr iawn. Allwn ni ddim newid hynny. Ond yr hyn y medrwn ei wneud yw gwneud y Sul yn ddiwrnod arbennig trwy ei wneud yn ddydd o orffwys ac yn ddydd y deuwn arno gydag eraill i addoli Duw a’i Fab Iesu. Rhaid osgoi’r deddfoldeb sy’n gwneud y Sul yn unig yn ddydd o beidio â gwneud pethau. Ond gall cadw’r Sul fod yn un ffordd o ddangos ein ffydd Gristnogol heddiw. Boed pob Sul yn arbennig a gwahanol, nid am fod deddf gwlad na thraddodiad crefyddol yn mynnu hynny, ond am ein bod ni ein hunain yn mynnu hynny er mwyn Iesu.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 22 Chwefror, 2015