Ystyriwch y lili

Y lili wen fach a ddaw i’m meddwl i wrth glywed geiriau Iesu Grist yn y Bregeth ar y Mynydd, ‘Ystyriwch lili’r maes’. Go brin mai am yr eirlysiau y soniai Iesu chwaith. Mae’n bosibl mai cyfeirio’n gyffredinol a wnâi at flodau gwyllt. Does dim rhaid gwybod at ba flodau’n union yr oedd yn cyfeirio er mwyn deall ystyr ei eiriau. Ond ar ddechrau’r gwanwyn, cystal i ni feddwl am y lili wen fach ag am yr un blodyn arall wrth ystyried neges Iesu.

Ymddangosiad yr eirlysiau yw un o arwyddion cyntaf deffro’r gwanwyn bob blwyddyn. Roedd eu gweld wedi ymwthio trwy’r pridd, a hyd yn oed trwy weddill dail pydredig yr hydref, yn rhyfeddod eleni eto. Mor eiddil yr olwg, mor brydferth a chywrain, ac eto mor gryf ac mor gyforiog o fywyd. Daethant eto’n ernes o’r gwanwyn newydd y buom yn disgwyl amdano.

Mae Iesu’n ein hatgoffa mai Duw sy’n rhoi bywyd i’r blodau. Mae yna egni rhyfeddol ym myd natur, ac ym mhob eirlys bychan mae’r egni hwn ar waith yn sicrhau tyfiant a phrydferthwch. Ac eto, fe ddywed Iesu, ‘Nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu’. Dweud a wna nad y blodyn ei hun sy’n gyfrifol am y tyfiant, ond Duw. Nid oes gan hyd yn oed y brenin Solomon, gyda’i gyfoeth a’i foethusrwydd diarhebol, wisg mor brydferth â gwisg ‘blodau’r maes’. Ac y mae hynny, medd Iesu, am fod Duw yn rhoi bywyd iddynt ac yn eu cynnal.

Gellid tybio mai cyflwyno gwers natur y mae Iesu yn y rhan hon o’r Bregeth gan ei fod yn sôn hefyd am ‘adar yr awyr’ ac am ‘laswellt y maes’. Mae’n pwysleisio mai’r Arglwydd Dduw yw Crëwr a Chynhaliwr byd natur a’i holl ryfeddod. Ond nid dyna’r prif beth y mae am ei ddangos chwaith gan mai defnyddio gofal Duw am fyd natur a wna er mwyn dangos a phrofi gofal Duw amdanom ni ei bobl.

Mae’n sôn am fyd natur ac am ofal Duw amdano er mwyn dangos nad oes angen i ni bryderu am unrhyw beth. Yr ydym ni’n fwy gwerthfawr yng ngolwg Duw na phethau mwyaf hardd a chywrain y Cread. Mae Duw’n deall ein holl anghenion, ac yn darparu ar ein cyfer. Mae Iesu’n dweud wrthym am ymddiried yn ein Tad nefol sy’n gwybod fod arnom angen bwyd a diod a dillad. At ddiwedd yr adran hon o’r Bregeth, mae Iesu’n dangos fod pawb yn ceisio’r pethau hyn, ond bod rhaid i’w ddilynwyr ef geisio pethau eraill ac amgenach.

‘Ceisiwch yn gyntaf,’ meddai, ‘deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef.’ Yn hytrach na threulio’n hamser yn poeni am bethau ac am yr hyn a all ddigwydd, fe ddylem geisio dod â’n holl fywyd dan awdurdod Duw, er mwyn iddo Ef deyrnasu ac er mwyn i bob dim yn ein bywyd ni ac ym mywyd ein cymdeithas fod yn gyfiawn yn ei olwg Ef. Cawn ein hannog i geisio hyn, gan gofio’r un pryd mai pethau a roir gan Dduw yw’r rhain hefyd.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 15 Mawrth, 2015

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: