Mae rhai pethau’n dân ar fy nghroen. Ac un ohonyn nhw yw’r holl sôn a fu trwy’r wythnos am y gemau rygbi yn Stadiwm y Mileniwm ddoe. Nid bod unrhyw beth o’i le ar hanner can mil o bobl yn dod at ei gilydd i fwynhau dwy gêm rygbi rhwng timau rhanbarthol y De, cofiwch. Yr hyn a’m corddai oedd yr enw a roddwyd i’r digwyddiad. Ac erbyn amser cinio ddoe, roeddwn wedi hen flino ar y cyfeiriadau diddiwedd at ‘Ddydd y Farn’, a gwaeth na hynny ‘Dydd y Farn III’.
Wn i ddim pwy yn ei ddoethineb a roes yr enw i’r digwyddiad. Pam ‘Dydd y Farn’? Yr argraff a gawn i oedd nad oedd neb yn siŵr iawn o’r rheswm. Ai dydd barn i’r timau oedd o? Go brin, gan nad oedd canlyniadau’r gemau’n debygol o wneud gwahaniaeth o bwys i safleoedd y timau yn eu cynghrair. Ai dydd barn i’r chwaraewyr ydoedd o ran y cyfle arbennig i wneud argraff ar Warren Gatland yn y gobaith o ennill lle yn nhîm Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn nes ymlaen eleni?
Beth bynnag am hynny, hon oedd y drydedd flwyddyn i’r Undeb Rygbi gynnal dwy gêm rhwng y timau hyn yr un diwrnod, ar ôl ei gilydd ac ar yr un cae. A dyna wrth gwrs sy’n esbonio’r syniad o’r ‘trydydd Dydd y Farn’ yr oedd pawb ohonom yn cael ein hannog i edrych ymlaen ato a’i ddathlu. Ac oedd, roedd yr anogaeth fynych i ‘ddathlu Dydd y Farn’ yn dân pellach ar fy nghroen.
Plîs, plîs, plîs, Undeb Rygbi Cymru, rhowch enw newydd i’r diwrnod hwn erbyn y flwyddyn nesaf. Oherwydd y mae’r fath beth â ‘Dydd y Farn’, ac nid oes a wnelo hwnnw ddim oll â hwyl ar gae rygbi. Dydd y Farn yw’r diwrnod hwnnw a benodwyd gan Dduw ar gyfer barnu’r byd. Nid dydd i edrych ymlaen yn ysgafn ato mo hwnnw, ond dydd i’w ofni. Doedd neb yn gwneud hynny’n fwy amlwg na Iesu Grist ei hun pan ddywedai am y rhai a fyddai’n gwrthod ei neges, y cai ‘Sodom lai i’w ddioddef yn Nydd y Farn na thi’ (Mathew 11:24). Dydd ofnadwy fydd hwnnw: ‘Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol’ (2 Pedr 3:7).
Dyma’r dydd y gwneir yn amlwg bob pechod a bai, ac y gelwir pawb i gyfrif gerbron y Barnwr Mawr. Ie, un dydd, pan fernir y byw a’r meirw. Fydd yna ddim ail a thrydydd Dydd y Farn, gan y bydd y cyfan yn cael ei benderfynu ar yr un dydd hwn. Ond er na allwn groesawu Dydd y Farn, fe fydd yna trwy ras Duw ddathlu o fath y dydd mawr hwnnw. Oherwydd fel y dywed Ioan, bydd gan bawb sy’n ymddiried yn Iesu Grist fel Gwaredwr ‘hyder yn Nydd y Farn’ (1 Ioan 4:17). A sail yr hyder hwnnw yw bod Duw wedi ein caru, a’i fod trwy ei fab Iesu Grist yn ein cyfrif yn ddieuog ac yn deilwng o gael bod gydag ef am byth.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul, 26 Ebrill, 2015