Roedd pleidlais llywyddiaeth FIFA nos Wener yn dipyn o bantomeim. Wedi blynyddoedd o ddadlau poeth ynghylch llygredd honedig yr ‘elusen’ hon sy’n rheoli pêl-droed y byd, ac ar ddiwedd wythnos a welodd nifer o bobl fwyaf amlwg y mudiad yn cael eu harestio a’u cyhuddo o droseddau ariannol, fe ail etholwyd Sepp Blatter yn Llywydd am y pedair blynedd nesaf. (Siawns nad yw’r ffaith bod FIFA, sy’n ymdrin â mwy na biliwn o bunnoedd bob blwyddyn, yn cael ei gyfrif yn elusen yn awgrymu bod rhywbeth mawr o’i le o fewn y mudiad hwn.)
I’r anghyfarwydd, neu i’r rhai sy’n gweld y byd trwy lygaid Ewropeaidd, roedd ethol Blatter dan y fath gwmwl yn gryn ddirgelwch. Ond er gwaethaf pob llygredd ariannol a phob ymelwa personol honedig, mae’r ffaith fod FIFA, dan arweiniad Blatter, wedi rhoi arian sylweddol i ddatblygu pêl-droed mewn llawer o wledydd yn esbonio teyrngarwch cymdeithasau pêl-droed y gwledydd hynny iddo. Na, doedd gan ei wrthwynebydd fawr o obaith i’w ddisodli.
Ac felly, ymddiriedwyd y dasg o roi trefn ar FIFA a’i waredu oddi wrth yr elfennau llygredig y mae hyd yn oed Blatter erbyn hyn yn cydnabod sy’n rhan ohono, i’r union ddyn a fu’n rheoli’r mudiad ers 16 o flynyddoedd. Wn i ddim oll am argyhoeddiadau neu ddiffyg argyhoeddiad crefyddol Mr Blatter, ond fe ddysgais gryn dipyn am ei ddiwinyddiaeth. A deud y gwir, mae elfennau cyfarwydd iawn yn ei ddiwinyddiaeth. Dowch i mi nodi tri pheth i ddangos hynny.
Yn gyntaf, mynnodd Blatter trwy’r wythnos mai ‘lleiafrif bychan’ o fewn FIFA a’r byd pêl-droed sy’n llygredig. Nos Wener, fe’i clywyd yn dweud nad yw ef, mwy na neb arall, yn berffaith; ond doedd hynny ddim yn golygu ei fod yn cydnabod unrhyw fai. Dyma ddiwinyddiaeth boblogaidd pobl sy’n cydnabod nad ydyn nhw’n berffaith ond na allan nhw dderbyn am un eiliad yr hyn a ddywed y Beibl am bob un ohonom yn llygredig ac euog yng ngolwg Duw. Mae’r syniad o ‘bechod gwreiddiol’ yn ddieithr i Blatter.
Yn ail, mae Blatter yn credu y gall o ei hun lanhau FIFA a’i waredu o’r llanast y mae ynddo. Mae’n hyderus nad oes modd ei feio fo am unrhyw beth, ac yn mynnu mai fo yw’r dyn i docio a phuro FIFA. Mae’r ymdeimlad o angen am gymorth a gwaredigaeth o’r tu allan i ni ein hunain yn ddieithr iawn i Blatter.
Ac yn drydydd, wrth sôn am ‘ddod â chwch FIFA yn ôl i’r lan’ soniodd Blatter am gael ‘Duw neu Allah neu bwy bynnag yw’r ysbryd rhyfeddol sydd yn y byd’ i’w helpu. Yn amlwg, mae’r syniad o un Duw, y gwir a’r bywiol Dduw, yn ddieithr i Blatter.
Mwy nag un duw; cyfiawnhad trwy weithredoedd; a gwadu pechod gwreiddiol: dyna ddiwinyddiaeth Blatter!
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Mai, 2015