A hithau’n ddiwedd Mehefin mae pobl yn amlwg yn meddwl am wyliau’r haf, a gallwn ddychmygu’r cyffro y mae pobl yn ei deimlo wrth gychwyn ar eu gwyliau i wahanol rannau o’r byd. Yn aml iawn, bydd atgofion a lluniau’r gwyliau’n cynnal pobl am fisoedd wedi iddyn nhw ddychwelyd adref. Ond weithiau, mae gwyliau’n troi’n chwerw a’r atgofion yn erchyll.
Felly y bydd hi i gannoedd o bobl y bu raid iddyn nhw ddychwelyd adref o Tiwnisia yr wythnos ddiwethaf wedi’r ymosodiad a laddodd o leiaf 38 o bobl ar y traeth yn Sousse. Ni wyddys eto faint yn union ohonyn nhw sy’n dod o wledydd Prydain, ond cadarnhawyd eisoes bod o leiaf 15. Mae pobl o Gymru ymhlith y rhai a anafwyd, os nad ymhlith y rhai a laddwyd hyd yn oed. Roedd yna Gymry yn sicr ymhlith y miloedd a ddychwelodd o Tunisia ac ymhlith y bobl sy’n dal yn y wlad yn aros i ddod adref.
Ddylai cyflafan o’r fath ddim bod yn waeth yn ein golwg oherwydd ei bod yn cyffwrdd â phobl ein gwlad ni ein hunain. Wedi’r cwbl, mae bywyd pob person mor werthfawr â’i gilydd, pwy bynnag ydyw ac o ble bynnag y daw. O fewn oriau i’w gilydd, clywsom am ladd 27 o bobl mewn mosg yn Kuwait ac am weithred derfysgol bosibl arall pan laddwyd gŵr mewn ffatri yn Ffrainc. Ond ar yr hyn a ddigwyddodd yn Sousse y bu’r sylw pennaf gennym, a hynny mae’n rhaid cydnabod am ei bod yn naturiol i ni ymateb yn gryfach pan ddaw’r pethau hyn yn nes atom. Gweddïwn dros bawb a ddioddefodd ddydd Gwener: y bobl a anafwyd a’r teuluoedd a gollodd anwyliaid.
Mae’n anodd iawn dychmygu poen ac ofnau’r bobl a ddaliwyd yng nghanol y saethu ar draeth Sousse. Yn naturiol, bydd llawer yn teimlo’n chwerw, a rhai yn teimlo’n chwerw tuag at Dduw. Bydd llawer yn profi dychryn ac ofn am gyfnod hir iawn. Bydd rhai wedi eu dryllio’n llwyr ac yn ei chael yn anodd os nad yn amhosibl dod dros y sioc a’r golled. Gweddïwn dros y bobl hyn heddiw, gan eu cyflwyno i ofal Duw Dad sy’n deall pob chwerwder ac ofn a dryswch, ac sy’n medru dod atom yn ein hofnau i’n hymgeleddu a’n cysuro.
Yn nes adref, clywsom am ddamwain ffordd angheuol ger Aberdaron, lle bu farw merch fach chwech oed ddoe. Gan mai yn Swydd Rhydychen y mae ei chartref, mae’n debyg mai ar ei gwyliau yr oedd hithau hefyd, a bod gwyliau haf wedi troi’n hunllef i deulu arall. Gweddïwn heddiw dros y teulu hwnnw hefyd, a thros bob teulu arall y gwyddom am eu profedigaethau a’u gofidiau, beth bynnag yw’r achos.
Ymhen tair wythnos bydd yn wyliau’r ysgol. Gweddïwn am ddiogelwch i’n plant dros y gwyliau, a gweddïwn y bydd y gwyliau’n gyfnod o ymlacio a mwynhau i holl blant ein hardal, i bawb o’n cydnabod, ac i ninnau.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Mehefin, 2015