
Mwy o hanes y noson: http://www.gronyn.org/CIC
Fideo Cwpan CIC: https://youtu.be/p0wzaLX009w
(Wedi i chi weld y fideo byddwch yn deall pam fod rhaid i’r Gweinidog fynd i ffwrdd am wythnos neu ddwy nes bydd y sgandal wedi tawelu!)
Mwy o hanes y noson: http://www.gronyn.org/CIC
Fideo Cwpan CIC: https://youtu.be/p0wzaLX009w
(Wedi i chi weld y fideo byddwch yn deall pam fod rhaid i’r Gweinidog fynd i ffwrdd am wythnos neu ddwy nes bydd y sgandal wedi tawelu!)
Yn y gyfres ‘Cymru: Dal i Gredu?’ a welwyd ar S4C y tair nos Sul diwethaf roedd y cyflwynydd Gwion Hallam yn datgan nad ydyw bellach yn credu yn Nuw er iddo fod yn Gristion brwd ar un cyfnod. Roedd yn ceisio gweld hefyd i ba raddau y mae pobl Cymru bellach wedi peidio â chredu yn Nuw.
Roedd y gyfres yn codi cwestiynau o bwys ynglŷn â chredu mewn unrhyw fath o dduw, ond yn arbennig o gofio cefndir Cristnogol Gwion, ynglŷn â chredu yn y Duw a’i datguddiodd ei hun yn y Beibl ac yn ei Fab Iesu Grist. Ar y naill law, mae Iesu’n dweud na all pobl fod yn golledig unwaith iddynt gredu ynddo. Ar y llaw arall, mae’n dweud bod modd i bobl ymddangos yn Gristnogion ond heb fod felly mewn gwirionedd. Byddai dweud fy mod wedi mwynhau’r gyfres yn anghywir, gan ei bod wastad yn drist clywed am bobl sydd wedi cefnu ar Grist. Mae’r cyflwynydd hwn yn gwybod digon am y Ffydd Gristnogol i ddeall pam y byddwn i a’m tebyg yn dweud hynny.
Un cwestiwn a ofynnai oedd, a fyddai wedi bod yn llai tebygol o gefnu ar ffydd pe byddai ei Gristnogaeth wedi bod yn ‘llai eithafol’. Dau beth y daeth i fethu â’u credu, meddai, oedd uffern ac atgyfodiad Iesu. Tybed a fyddai crefydd fwy rhyddfrydol, heb bwyslais mawr ar gredoau sylfaenol y Beibl, wedi ei gwneud yn haws iddo ddal ei afael mewn rhyw fath o ffydd? Roedd wedi dod yn fwyfwy anodd dal gafael yn y credoau a’r ysbryd cenhadol cryf a ddeuai gyda’r credoau hynny.
O bosibl fod y pethau hyn wedi ei gwneud yn anodd i lawer o bobl ddal gafael mewn ffydd. O bosibl hefyd y byddai crefydd heb y pethau hynny yn gallu dal gafael mewn pobl. Ond nid Cristnogaeth fyddai peth felly. Ar un wedd, mae Cristnogaeth yn grefydd eithafol, a ffydd y Cristion yn ffydd eithafol. Mae’r gair ‘eithafol’ mewn cyd-destun crefyddol yn awgrymu peth drwg, ond nid oes rhaid iddo fod felly. Mae modd i rywbeth fod yn eithafol a da. Onid ystyr bod yn ‘eithafol ein ffydd’ yw ein bod yn ymarfer ffydd ac yn byw ein ffydd i’r eithaf? Onid dyna mae Iesu Grist yn ei ofyn gennym? Crefydd eithafol yw Cristnogaeth – yn yr ystyr eich bod yn eithafol dros Iesu Grist. Pobl eithafol sy’n cysegru eu bywydau i Grist. Pobl eithafol sy’n rhoi heibio gyfleodd gwahanol er mwyn gwasanaethu Iesu. Pobl eithafol sy’n mynd yn genhadon i ben draw byd. Pobl eithafol sy’n mynnu rhoi’r capel a’i waith gyntaf, ac yn mynnu cyfrannu’n hael at yr achos er y gallen nhw wneud defnydd arall o’u harian prin. Onid pobl eithafol ddylem ni oll fod er mwyn Iesu Grist?
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, un o ystyron y gair eithafol yw ‘Yn dilyn argyhoeddiad (neu egwyddorion plaid) i’r eithaf’. Os felly, mae angen i bawb ohonom fod yn eithafol ein ffydd, yn yr ystyr ein bod yn dilyn Iesu i’r eithaf ym mhob dim.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Gorffennaf, 2015
Dyma rifyn olaf Gronyn am y tro. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ddydd Sul, Awst 23, 2015.
Aeth bron i ddeng niwrnod heibio ers y lladdfa ar y traeth yn Sousse, Tiwnisia. Mae’r galar yn fawr, a’r cydymdeimlad â phawb a ddioddefodd yn ddiffuant. Dros yr wythnos ddiwethaf, clywsom lawer am rai o’r bobl a ddaliwyd yn y gyflafan neu a oedd yn frawychus o agos ati. Yn naturiol, mae pobl wedi dychryn o weld pobl ar wyliau ar draeth braf yn cael eu saethu a’u lladd.
Bu trafod mawr ar yr hyn a ddigwyddodd. Roedd llawer o’r hyn a ysgrifenwyd ac a ddywedwyd yn ddoeth a chywir, ond roedd ymateb y Prif Weinidog David Cameron yn codi braw arnaf wrth iddo fynnu y byddai Prydain yn mynd i’r afael â’r bobl a oedd yn gyfrifol am y lladdfa yn Sousse. Yr hyn sy’n drist yw’r gwrthodiad i ystyried y gallasai cyrchoedd milwrol y degawd diwethaf a’r bomio sy’n parhau yn Irac a Syria fod mewn rhyw ffordd yn gyfrifol am yr hyn a welwyd ar draeth Sousse.
Yn ôl Mr Cameron a llu o wleidyddion o wahanol bleidiau, mae’r ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’, a ymladdwyd ers yr ymosodiad ar y Ddau Dŵr yn Efrog Newydd yn 2001, yn parhau. O’r cychwyn, bu’n anodd iawn gweld pa ystyr oedd i ryfel yn erbyn syniadau a ffordd o feddwl. Ond a derbyn mai dyna a gafwyd ers pedair blynedd ar ddeg, mae’n anodd deall pam nad yw’r Prif Weinidog yn derbyn bod a wnelo lladdfa Sousse â chyrchoedd bomio awyrennau’r Gorllewin yn Irac a Syria. Os mai ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’ sydd gennym, onid tristwch pethau yw na ddylem synnu os yw terfysgaeth yn codi dwrn creulon yn ôl, boed hynny yn enw Al Qaeda neu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS). Oherwydd onid hanfod rhyfel yw bod y naill ochr a’r llall yn taro ac anafu a lladd ei gilydd? A thra pery’r bomio, fe bery’r ymosodiadau hefyd yn y mannau annisgwyl ac ar yr adegau annisgwyl, gan mai peth felly yw rhyfel o hyd.
Ni allaf ddychmygu galar y teuluoedd a gollodd anwyliaid ar draeth Sousse. O bosibl fod gweld y milwyr yn cario’r eirch o’r awyrennau rhyfel ym maes awyr RAF Brize Norton yn gysur i lawer ohonynt. Rhyfyg fyddai i mi awgrymu nad yw hynny’n wir. Ond o gofio mai eirch y milwyr a laddwyd ar faes y gad a welsom yn cael eu cario felly’r blynyddoedd diwethaf, onid yw galar y teuluoedd yn waeth fyth, gan fod Llywodraeth gwledydd Prydain yn cydnabod (mewn gweithred os nad mewn geiriau) mai colledigion rhyfel oedd y bobl hyn wedi’r cwbl?
Yn ôl adroddiad grŵp o feddygon yn Washington, y Physicians for Social Responsibility, lladdwyd cymaint â 2 filiwn o bobl gyffredin yn Afghanistan ac Irac ers cychwyn y ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’. Mae’n bosibl iawn fod mwy o lawer na hynny wedi eu lladd. Cyn bod mwy o dywallt gwaed, a chyn i fwy o bobl ddiniwed ddod yn golledigion rhyfel, gweddïwn y bydd Mr Cameron a’i Lywodraeth yn gwneud pob ymdrech bosibl i geisio heddwch a chyfiawnder yn y gwledydd cythryblus hyn.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Gorffennaf, 2015