Pobl

I lawer o bobl, term dieithr iawn yw ‘cyfryngau cymdeithasol’ a byd dieithr yw Twitter a Facebook. Ond trwy’r cyfryngau hyn, ar gyfrifiadur a ffôn a sawl dyfais electroneg arall – mae pobl yn cysylltu â’i gilydd ac yn cyfryngu pob math o wybodaeth i gyfeillion a theulu, i gydnabod a dieithriaid, i bobl drws nesaf a phobl ym mhellafoedd byd. Yn aml iawn, gwybodaeth gwbl ddi-fudd yw honno.   Ydych chi wir eisiau gwybod be gafodd Hafwen i frecwast neu pa liw sanau mae Huwcyn yn eu gwisgo yn y gwaith heddiw?

Ond mae gwedd arall i bethau gan fod gwybodaeth o wir bwys yn cael ei rhannu ar brydiau, a phobl yn dweud eu dweud am bynciau a digwyddiadau o’r pwys pennaf. Ac ar brydiau, mae’r wybodaeth honno yn rhagori ar yr hyn a welwn ni ac a glywn ni yn y papurau newydd a’r bwletinau newyddion. Ers wythnosau, bu’r papurau a’r bwletinau yn sôn am ‘argyfwng y mewnfudwyr’. Clywsom am y bobl ddrwg sy’n elwa ar y trueiniaid hyn trwy godi crocbris i’w cario mewn cychod dros Fôr y Canoldir. Clywsom am gychod yn suddo a phobl yn boddi. Gwelsom y ‘mudwyr’ yng ngwersyll Calais yn aros eu cyfle i neidio ar lori neu drên er mwyn croesi i Brydain.

Rywsut, fe lwyddodd y cyfryngau Prydeinig i roi’r argraff bod yr holl ‘fudwyr’ a ddaeth o Affganistan a Syria a’r gwledydd eraill yn cyrraedd Calais ac yn benderfynol o ddod i Brydain yn anghyfreithlon. Rhoed yr argraff mai’r ‘broblem’ oedd y ffaith fod y ‘mudwyr’ yn bygwth ein gwasanaeth iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol ni ym Mhrydain. Clywyd mwy nag un gwleidydd yn dadlau y dylasai’r rhain fodloni ar y gwersylloedd pwrpasol a ddarparwyd ar eu cyfer yn Nhwrci a Gwlad yr Iorddonen a mannau eraill yn hytrach na chwilio am well byd ym Mhrydain.

Ond ers misoedd hefyd bu llawer yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at ddioddefaint echrydus y bobl a bortreadwyd fel problem fawr i ni yn y gwledydd hyn. Trueni pethau yw na chymerodd eraill, yn cynnwys Llywodraeth Prydain, lawer o sylw nes iddynt weld lluniau dirdynnol o gorff marw plentyn bach 3 oed ar draeth yn Nhwrci y dydd o’r blaen. Y lluniau hynny a ysgogodd beth newid meddwl a pharodrwydd i ystyried croesawu rhywfaint rhagor o ffoaduriaid.

Cymwynas y bobl a fu’n galw ers misoedd arnom i agor ein llygaid i’r argyfwng hwn fu ein hatgoffa mai pobl o gig a gwaed yw’r ffoaduriaid hyn – nid problem na bygythiad na mudwyr nac ystadegau – ond dynion, merched, pobl ifanc a phlant cyffredin yn ffoi o’u gwledydd a’u cartrefi am nad oes dim arall y gallan nhw ei wneud. Wrth weddïo drostynt, gweddïwn hefyd dros ymdrechion mudiadau Cristnogol fel Tearfund i estyn cymorth yn enw Iesu Grist. Darllenwch am ymateb Tearfund dros y dudalen.

 Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Medi, 2015

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: