Cario croes

Mi ddylwn i fod wedi aros am sgwrs, ond roedd o’n sefyll mewn lle digon peryg ar y gylchfan yr ochr yma i Bont y Borth. Y groes a dynnodd fy sylw. Nid pob dydd y gwelwch chi ddyn yn datgymalu croes fawr ar ochr y lôn. Mi wnes i arafu ddigon i sylwi ar y geiriau ‘Pray’ a ‘Wales’ ar gefn ei grys-T coch.

Trwy chwilio’r We wedi dod adra mi welais mai Clive Cornish oedd y dyn efo’r groes. Nos Lun diwethaf oedd hynny, ac yn ôl y wybodaeth ar wefan ‘threesixteen’ roedd o wedi cychwyn taith o amgylch Cymru’r diwrnod cynt, a hynny o Lanberis! Chlywais i neb yn dweud eu bod wedi ei weld yn cario’r groes i ben yr Wyddfa’r Sul diwethaf, ond yn ôl y wefan felly y dechreuodd Clive ei daith dair wythnos o amgylch y wlad. Wrth lusgo’r groes o fan i fan (mae’r olwyn ar waelod y groes yn help!) ei fwriad yw tynnu sylw at yr Efengyl a rhannu’r newydd da am y Crist a fu farw ar groes Calfaria. Ei obaith yw cael cyfle i sgwrsio â phobl am y Ffydd a gwneud i bobl feddwl am gariad achubol Duw tuag atynt.

Nid dyma’r tro cyntaf i Clive Cornish ddilyn taith o’r fath. Mae wedi bod o amgylch Cymru dair neu bedair gwaith o’r blaen ers iddo fentro allan gyda’r groes am y tro cyntaf yn 2003. Gallwn ddychmygu’r gwahanol ymateb a gaiff Clive a’r groes fawr. I rai, mae llusgo’r groes hon yn beth od i’w wneud; i eraill, mae’n eithaf mentrus; i lawer, mae’n gwbl hurt. Ond mae’r cerddwr ei hun yn deall hynny, ac yn chwilio am bob cyfle i egluro mor ganolog ydi croes Iesu Grist i neges yr Efengyl. Mae’n sgwrsio â phobl am y Ffydd Gristnogol ac yn trafod yr amrywiol gwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn. Ac er mor ddieithr y fath genhadaeth i lawer ohonom, pwy a ŵyr pa ddaioni a ddaw ohoni a faint o bobl a fydd wedi eu hysgogi drwyddi i feddwl am gariad rhyfeddol Duw?

Duw ei hun a ŵyr, mae angen ysgogi pobl i ystyried y groes. Nid croes 12 wrth 6 troedfedd Clive Cornish ond y groes a lusgwyd gan Iesu i Galfaria. I rai, mae honno hefyd yn od neu’n hurt.   I eraill, mae’n drasiedi ac yn wastraff. I lawer (ac i’r mwyafrif, o bosibl) mae unrhyw awgrym fod a wnelo’r groes â chariad Duw yn anodd ei amgyffred. Ond prawf o gariad Duw tuag atom yw’r groes er hynny. Neges fawr Y Beibl yw bod Iesu wedi ein caru i’r eithaf; a’r eithaf hwnnw oedd bodloni i ddioddef a marw yn ein lle ar groes greulon Calfaria.

Nid pawb sy’n deall hynny, wrth gwrs. Ac felly, mae unrhyw beth sy’n ysgogi pobl i feddwl am groes Iesu a’i hystyr i’w groesawu. Gallwn weddïo y bydd cenhadaeth wahanol Clive Cornish yn dod â chroes y Gwaredwr i sylw llawer o bobl Cymru dros y pythefnos nesaf. Gallwn hefyd ein hatgoffa’n hunain mai cyhoeddi croes Crist (sy’n ffolineb i rai ac yn dramgwydd i eraill, ond yn oleuni a bywyd i’r credinwyr) yw ein priod waith ninnau.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Medi, 2015

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: