Mae’r Gronyn hwn bron yn barod! Mae’r newyddion a’r cyhoeddiadau wedi eu gorffen a dim ond y golofn hon sydd ar ôl erbyn hyn. Weithiau, mi fyddaf yn dechrau efo’r golofn hon ac yna’n mynd i’r afael â’r tudalennau eraill. Ond yr wythnos hon, y blaenaf fydd yn olaf yw hi.
Mi fu ond y dim i mi wneud cawl o bethau heno. Ond mi sylweddolais hynny mewn da bryd, ac mae popeth mewn trefn erbyn hyn gobeithio. Ond mi fu raid i mi newid cryn dipyn o’r hyn yr oeddwn wedi ei sgwennu. Am ryw reswm, mi es i’r gors yn lân o ran dyddiadau. Wn i ddim oedd a wnelo’r ffaith ein bod yn troi’r clociau heno â’r peth ai peidio. Ond yn lle ennill awr, mi fu bron i mi golli wythnos. Mi rois i’r dyddiad anghywir mewn mwy nag un man, ac mi feddyliais i mai’r Sul nesaf fydd yr wythfed o Dachwedd yn hytrach na’r cyntaf. Roeddwn wedi drysu’n lân a bod yn onest.
Ond diolch am hynny, fe lwyddais i gywiro’r camgymeriadau y tro hwn. Dyw hynny ddim bob amser yn bosibl. Mae ambell air na fedrwn ei dynnu’n ôl ac ambell weithred nad oes modd ei dadwneud. Ond diolch am hynny, mae Efengyl Iesu Grist yn cyhoeddi fod maddeuant i’w gael am bob pechod a bai a wnawn ni. Y gwir amdani yw na fedrwn ni gywiro’r pethau a wnawn ni yn groes i fwriadau a gorchmynion Duw. Yr ydym yn gyfrifol gerbron Duw am y cyfan a wnawn o’i le, ond mae’r Duw sy’n dal ni’n gyfrifol am ein beiau wedi ei gwneud yn bosibl i ni gael maddeuant am yr holl feiau hynny trwy ei Fab Iesu Grist.
Caed digon o sôn ers dyddiau am yr awr ychwanegol a gawn ni wrth droi’r clociau nôl. Bydd mwy o sôn mewn oedfaon heddiw, gobeithio, am awr arall: yr awr honno y bu ein Gwaredwr Iesu farw trosom ar groes Calfaria. O’r holl oriau a fu yn holl hanes y byd, yr awr y bu farw Iesu yw’r awr fwyaf un. Yr awr honno – nawfed awr y dydd, neu dri o’r gloch y prynhawn – yw’r awr y canmolwn ni Dduw amdani heddiw fel pob dydd arall. Oherwydd dyna’r awr y dioddefodd Iesu trosom.
Y diwrnod hwnnw, gwyddai Iesu fod ei awr wedi dod. Roedd wedi dangos hynny’r noson cynt yng Ngethsemane pan ddywedodd, ‘Dyma’r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid’ (Mathew 26:45). Gwyddai bryd hynny na fyddai modd osgoi’r awr honno; gwyddai na fyddai modd troi’r cloc ymlaen nac yn ôl i osgoi’r awr honno. Ac am fod ei awr wedi dod, mae holl fendithion Efengyl gras wedi eu sicrhau i’r rhai sy’n credu ynddo.
Ar yr un awr honno, fe ddangoswyd cariad Duw atom mewn ffordd gwbl arbennig pan roddodd ei Fab yn aberth trosom. Ond nid cariad un awr mo’r cariad hwnnw chwaith ond y cariad tragwyddol sydd gan Dduw at ei bobl. Diolchwn o’r newydd amdano heddiw.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Hydref, 2015