Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ddadansoddiad o’r hyn a ddangosai Cyfrifiad 2011 am grefydd yng Nghymru. O gymharu â Chyfrifiad 2001 (gyda 2.1 miliwn o bobl, neu 71.9% o’r boblogaeth yn nodi mai Cristnogaeth oedd eu crefydd) 1.8 miliwn (neu 57.6% o’r boblogaeth) oedd yn dweud hynny yn 2011. Dros yr un degawd, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy’n arddel ‘dim crefydd’, o 500,000 (neu 18.5% o’r boblogaeth) yn 2001 i 980,000 (neu 32.1% o’r boblogaeth) erbyn 2011.
Mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad o 14.3% yng nghanran y boblogaeth sy’n arddel y Ffydd Gristnogol (o 71.9% i 57.6%) a chynnydd o 13.6% yng nghanran y boblogaeth sy’n nodi nad ydynt yn arddel yr un grefydd (o 18.5% i 32.1%). Gan fod y ddau ffigur (14.3% a 13.6%) mor agos i’w gilydd gellid tybio mai’r esboniad syml fyddai fod y ganran honno o’r boblogaeth wedi ’symud’ oddi wrth Gristnogaeth at ‘ddim crefydd’ rhwng 2001 a 2011. Ond nid yw mor syml â hynny wrth gwrs oherwydd y newidiadau a fu yn y boblogaeth ei hun dros y degawd.
Yn naturiol, mae pobl yn ymateb i’r ffigurau hyn mewn ffordd wahanol iawn. Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n arddel Cristnogaeth yn loes calon i lawer ond yn fêl ar fysedd eraill. Fedr yr un Cristion fod yn llawen iawn o weld ystadegau sy’n awgrymu fod llai o bobl yn arddel ‘y Ffydd a roed un waith i’r saint’. Ac eto, rhaid gofyn ai peth drwg mewn gwirionedd yw’r ffaith fod mwy o bobl yn dweud nad ydynt yn arddel yr un grefydd. Oni allwn ninnau Gristnogion ddiolch fod mwy o bobl Cymru yn cydnabod nad ydynt yn glynu wrth yr un grefydd, hyd yn oed os oedd llawer ohonynt ddegawd yn ôl yn nodi ar ffurflen y Cyfrifiad mai ‘Cristnogaeth’ oedd eu crefydd?
Ers blynyddoedd, mae cenedlaethau o bobl Cymru wedi cymryd yn ganiataol fod Cristnogaeth yn grefydd iddyn nhw. Er na fu’r Ffydd ar y gorau ond ar ymylon eu bywydau, mae cynifer o bobl wedi credu fod teulu a magwrfa a diwylliant wedi eu gosod yn ddiogel o fewn y gorlan Gristnogol. Mae’n bosibl nad oedden nhw’n credu fawr ddim y mae’r Beibl yn ei ddweud, ac nad oedd ganddyn nhw fawr o feddwl o Iesu Grist na’i ddysgeidiaeth. Ond er gwaethaf hynny doedden nhw yn eu tyb eu hunain ddim llai o Gristnogion na neb arall.
Os yw Cyfrifiad 2011 yn awgrymu fod canran sylweddol o boblogaeth Cymru yn sylweddoli erbyn hyn nad ydynt o reidrwydd yn Gristnogion oherwydd dylanwadau teuluol a diwylliannol gall fod yn newyddion arbennig o dda i bobl y Ffydd. Gall pobl sy’n cydnabod nad ydyn nhw’n credu’r Efengyl fod yn llawer mwy agored i’w hystyried a’i derbyn. Wedi’r cwbl, onid galw’r rhai claf yn hytrach na’r rhai iach a wnaeth ein Gwaredwr?
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Tachwedd, 2015