Wedi mynd yng angof

Yn ôl un cyfaill o ddyddiau ysgol roedd John Johnson yn ‘ŵr hawddgar a hwyliog, yn ymwrthod â chweryl a chynnen … ac yn driw i’w gyfeillion’. Yr un cyfaill, Oswald Tesimond, a ddywedodd hefyd ei fod yn ‘fedrus iawn ym mhethau rhyfel’. Daethai hynny i’r amlwg wedi iddo adael Lloegr i ymladd dros Babyddion Sbaen yn erbyn Protestaniaid yr Iseldiroedd yn Rhyfel Annibyniaeth yr Iseldiroedd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ganrif nesaf.

Ychydig a ŵyr am John Johnson erbyn hyn. Dros dreigl y blynyddoedd, aeth ei enw a’i hanes yn angof. Ond nid yn gwbl angof gan mai ffugenw oedd John Johnson. Mae’n fwy cyfarwydd wrth ei enw bedydd, Guy. A nos Iau, caiff y Guy Fawkes hwnnw sylw mawr yn nathliadau blynyddol Noson Tân Gwyllt neu Noson Guto Ffowc. Diolch am hynny, mae’r arfer o wneud delw o Guto i’w llosgi ar y goelcerth fwy neu lai wedi diflannu, ond mae ei enw’n dal yn gysylltiedig â’r dathliadau.

Ond cilio wnaeth y cof am yr hyn a wnaeth Guto a’i gyd-gynllwynwyr ym mis Tachwedd 1605. Ac yng nghanol cyffro’r tân gwyllt nos Iau, fydd neb yn sôn am gynllwyn aflwyddiannus Guto Ffowc a’i gyd-babyddion i chwythu Tŷ’r Arglwyddi’n ddarnau mân er mwyn lladd y brenin Iago I a gosod ei ferch Elizabeth ar yr orsedd, gyda’r bwriad iddi briodi â Phabydd er mwyn troi gwledydd Prydain unwaith eto at y Ffydd Babyddol. Fydd neb yn sôn nos Iau am y coelcerthi a gyneuwyd ar Dachwedd 5, 1605 i ddathlu methiant cynllwyn Guto a’i gyfeillion, wedi iddo gael ei ddal gyda’r ffrwydron, dan Dŷ’r Arglwyddi yn oriau mân y diwrnod hwnnw. Fydd neb yn sôn am John Johnson yn gwrthod datgelu ei wir enw nac enwau ei gyfeillion nes iddo gael ei arteithio. A fydd neb yn sôn amdano’n cael ei ddedfrydu i’w ladd oherwydd teyrnfradwriaeth.

Does a wnelo dathliadau Tachwedd 5 ddim â Guto bellach. A da hynny os yw’n golygu nad ydym bellach yn dathlu’r modd y cafodd Guto a rhai o’i gyfeillion eu harteithio a’u dienyddio. Mae hynny’n hwylus iawn hefyd yn ein galluogi i osgoi cywilydd y dadlau hyd at waed a gafwyd yn ei ddydd ef rhwng pobl oedd yn honedig yn arddel y Ffydd Gristnogol. Mater o farn yw a ddylem osgoi sôn am y fath gywilydd.

Wrth nesáu at dymor y Nadolig, un o’m hofnau yw bod yr ŵyl wedi colli ei gwir gyswllt â’r Un a roes fod iddi. Gall cyswllt yr Iesu â gwyliau mawr yr Eglwys fod mor frau â’r un rhwng Guto a’r noson sy’n dwyn ei enw. Ein braint ni yw tystio i fywyd a gwaith yr Iesu, fel nad aiff y cyfan yn angof. Bydd y dystiolaeth honno’n amlygu cywilydd ein gwrthryfel yn erbyn Duw. Nid rhywbeth i’w anghofio mo hwnnw, ond rhywbeth i’w gydnabod, gan mai trwy ei gydnabod yn edifeiriol y daw maddeuant llawn amdano. Ac onid hynny fydd achos ein dathlu?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Tachwedd, 2015

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: