Mis: Rhagfyr 2015
Gwir ryfeddod
Sicrhaodd llwyddiannau Andy Murray fod un o arwyr mawr dilynwyr tenis yng ngwledydd Prydain wedi mynd yn angof. Trodd Henman Hill Wimbledon yn Murray Mound ers tro byd, ac mae mwy o sôn am ‘Tîm Murray’ nag am Tim Henman erbyn hyn. Ond ers dydd Mawrth, mae’r sylw a roes y cyfryngau Prydeinig i’r daith ddiweddaraf i’r Orsaf Ofod Ryngwladol wedi sicrhau mai Tim arall a gaiff y sylw am sbel. Gallech dybio fod Tim Peake yn ffrind gorau i bawb ohonom o weld pobl o bob oed yn bloeddio ei enw wrth iddo gychwyn ar ei daith i’r gofod.
Ni allwn ond edmygu dewrder y dyn a’i gyd-deithwyr. Ac ni allwn chwaith ond rhyfeddu at allu’r gwyddonwyr a phawb sy’n ymwneud â’r holl anturiaeth. Mae eu gwybodaeth a’u dyfeisgarwch yn sicr ymhell y tu hwnt i’m hamgyffred i. Buddsoddwyd egni, doniau, amser ac arian i sefydlu a datblygu’r Orsaf Ofod, a phwy a ŵyr pa fanteision a ddaw eto trwy’r rhaglen hon ac ymdrechion y bobl sy’n rhan o’r anturiaeth neu’n cyfrannu at y gwaith ymchwil cyffrous hwn.
Yr wythnos ddiwethaf, felly, gwelwyd torfeydd yn dathlu ymadawiad un dyn o’r ddaear i’r gofod. (O’r holl sylw a roddwyd i Tim Peake ar y cyfryngau Prydeinig, gallech feddwl nad oedd neb arall gydag ef yn y llong ofod.) Yr wythnos hon, bydd torfeydd ym mhob rhan o’r byd yn dathlu dyfodiad un dyn i’r ddaear. A’r peth syfrdanol yw bod taith y person hwnnw yn fwy rhyfeddol na’r un daith a wneir gan ofodwyr fel Tim Peake.
Dechreuodd y daith honno yn y nefoedd ei hun. Oherwydd yr hyn a ddysgwn yn Y Beibl am y babi a aned ym Methlehem yw ei fod nid yn unig yn blentyn Mair ond hefyd yn Fab y Duw Goruchaf ei hun. Mwy rhyfeddol na bod dyn yn mynd i’r gofod ac i’r lleuad (ac i ba blaned bynnag yr aiff iddo eto) yw’r ffaith fod Duw wedi dod i lawr i’n byd ym mherson Iesu Grist.
Nid technoleg na gwyddoniaeth fu’n gyfrifol am y daith a wnaeth Mab Duw o’r nefoedd i’r ddaear ond cariad a thrugaredd. Ond gellid dweud fod y cariad hwnnw’n fwy pwerus ac yn fwy ffrwydrol hyd yn oed na’r holl danwydd a ddefnyddiwyd i anfon y llong ofod ar ei thaith y dydd o’r blaen. Mae dyfodiad Iesu Grist i’n byd yn dangos holl gariad Duw yn cael ei dywallt arnom.
Gwn yn dda na fyddai pawb yn cytuno â’r fath ddweud. I lawer o bobl, cwbl ynfyd yw meddwl y gellid am un eiliad feddwl fod disgyniad Iesu i’n daear yn fwy o ryfeddod na dyrchafiad pobl i’r gofod. Iddynt hwy, dychymyg neu ffantasi, credo neu athrawiaeth ddi-sail yw pob sôn am eni Iesu Grist. Dim ond ffyliaid fyddai’n credu fod stori’r Beibl am eni’r babi ym Methlehem yn wir! A byddai angen ffyliaid ffolach fyth i feddwl am un eiliad fod yr enedigaeth honno a’r babi hwnnw’n dod yn agos at restr gwir ryfeddodau’r byd hwn.
Ond does gennyf fi ddim cywilydd o gwbl o’r ffaith fy mod yn un o’r ffyliaid hynny gan mai Iesu (fel dywed yr emyn) yw rhyfeddod y rhyfeddodau i gyd.
‘Rhyfeddod pob rhyfeddod yw –
Gweld Iesu’n Ddyn, ac eto’n Dduw;
Ar liniau Mair yn faban gwan –
Yn Dduw presennol ym mhob man.’
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Rhagfyr, 2015
Duw gyda ni
‘Glaw, glaw, dim byd ond glaw, mae’r dilyw wedi dod.’ Dyna ddywed Caryl Parri Jones yn un o’i chaneuon hyfryd sy’n adrodd stori Arch Noa. ’Dyw hi ddim cweit yn ddilyw yma heddiw (pnawn Sadwrn) ond mae’n glawio’n ddi-baid ers oriau. Mi fues i mewn gêm bêl droed y bore ’ma yng nghanol y glaw mawr. Wel, darn bach o bêl droed beth bynnag, gan fod y cyfan drosodd o fewn rhyw ddeng munud. Bu raid rhoi’r gorau i’r chwarae am ei bod mor anodd cael y bêl o’r pyllau dwr oedd ym mhobman ar y cae.
Ia, dim byd ond glaw yw ein hanes ar hyn o bryd. Gwelsom luniau llifogydd, yn arbennig yn Cumbria yng ngogledd orllewin Lloegr, a chydymdeimlwn â phawb sy’n dioddef yn y fan honno, heb anghofio hefyd bobl yn nes atom o lawer (yn nyffryn Conwy a mannau eraill) a ddioddefodd oherwydd y dŵr mawr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Ia, dim byd ond glaw ers hydoedd. Does ond gobeithio y bydd y glaw yn cilio’n fuan ac na welwn ni lifogydd a difrod pellach dros y Nadolig. Ond yng nghanol y glaw, mor hawdd yw anghofio ei bod yn dywydd gwahanol iawn arnom yn gymharol ddiweddar. Pryd oedd hi deudwch? Tua chanol mis Hydref, os cofiaf yn iawn, mi gawsom dywydd arbennig o dda. Doedd hi’n sych braf ac yn anarferol o gynnes mor ddiweddar â diwedd y mis hwnnw? Ond unwaith y daeth y glaw, aeth hindda’r wythnosau blaenorol yn angof, ac mae’n hawdd iawn deall pam fod hynny.
Buan iawn y daw’r Nadolig, ac fe rydd yr ŵyl honno gyfle i ni ein hatgoffa ein hunain o’r newydd fod Duw gyda ni yng nghanol y cyfan sy’n digwydd i ni o ddydd i ddydd. Mor rhwydd ydyw i ni anghofio hynny pan ddaw’r gwynt a’r glaw gaeafol i’n poeni. Gallwn ddiolch am ofal a daioni Duw pan fo’r haul yn gwenu a’r byd o’n plaid. Ond mor hawdd yw colli golwg ar y gofal a’r daioni hwnnw pan fo pethau’n mynd o chwith. Mae’r Nadolig, fodd bynnag, yn ein sicrhau fod Duw gyda ni bob amser. Oherwydd onid dathlu dyfodiad Iesu’r Emaniwel i’r byd a wnawn? Ystyr yr enw ‘Emaniwel’ ydi ‘Duw gyda ni’. Dangosodd yr angel i Joseff mai plentyn Mair oedd yr un a fyddai gyda’i bobl wrth ‘eu gwaredu oddi wrth eu pechodau’. Yn ei aberth trosom ar groes Calfaria y gwelwn fwyaf eglur fod Iesu o’n plaid. Ond mae’r enw hwn a roddwyd iddo hefyd yn dangos i ni fod Iesu gyda ni, ac felly fod Duw gyda ni ym mhob dim a thrwy bob eiliad.
Yn y glaw ac yn yr hindda, mae Duw gyda ni. Yn haul y dydd ac yn nhywyll nos, mae Duw gyda ni. Cydiwn o’r newydd yn yr addewid honno dros ŵyl y Nadolig eleni. Nid ydym ar ein pen ein hunain; nid ydym wedi ein gadael yn amddifad o gysur a gobaith. Y mae Duw gyda ni, beth bynnag a wynebwn a beth bynnag ein hamgylchiadau. Yr Emaniwel ydyw.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Rhagfyr, 2015
Hwre! Bomio!
Fu dim llusgo traed wedi’r bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fercher. O fewn yr awr roedd yr awyrennau Prydeinig wedi dechrau bomio Syria.
Cyn y bleidlais, fe’n sicrhawyd gan Mr Cameron y byddai arbenigedd lluoedd Prydain a rhagoriaeth ein bomiau clyfar ni dros fomiau pawb arall sy’n bomio Syria yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r frwydr yn erbyn ISIS (neu Daesh fel y cyfeirir at y gelyn erbyn hyn). Ond drannoeth y bleidlais, ac o fewn oriau i gyrch cyntaf yr awyrennau Prydeinig roedd Mr Cameron yn ein rhybuddio y byddai’r ymgyrch hon yn un hir iawn. Chlywais i mo’r cyfan a ddywedodd y Prif Weinidog cyn nos Fercher, ond o’r hyn a glywais chefais i mo’r argraff honno ganddo o gwbl. Yn hytrach, yr argraff a roed oedd y byddai cyfraniad Prydain at yr ymgyrch yn prysuro gorchfygiad ISIS ac yn diogelu pobl Prydain rhag yr ymosodiadau anochel. Ofnir bellach mai fel arall y mae a bod y Senedd wedi neidio i ryfel hir a chostus a gwaedlyd. Cafwyd hefyd rybuddion (nid o du Mr Cameron wrth gwrs) fod y bygythiad i’n diogelwch yng ngwledydd Prydain yn fwy o lawer ers y bleidlais y noson o’r blaen.
‘Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef … amser i ryfel ac amser i heddwch,’ meddai Llyfr y Pregethwr (3:1 a 8). Gwaetha’r modd, amser i ryfel yw hi unwaith eto. Roedd hynny’n siom, ac roedd rhai o’r pethau a glywyd cyn ac wedi’r bleidlais yn siomedig hefyd. Un o’r pethau hynny oedd y sylw a wnaed gan Mr Cameron fod pobl a oedd yn dadlau yn erbyn y bomio yn cydymdeimlo â therfysgwyr. Roedd yr awgrym hwnnw’n sen ar bawb a fu’n dadlau’n synhwyrol yn erbyn y bomio. Mor drist hefyd oedd clywed bonllefau o gymeradwyaeth gan gynifer o aelodau seneddol pan gyhoeddwyd canlyniad y bleidlais. Mewn difrif, ai dyna’r ymateb priodol i benderfyniad i ddechrau bomio? Roedd yr ymateb hwnnw’n ei gwneud yn anodd peidio â chredu fod llawer o aelodau seneddol wrth eu bodd efo’r syniad o fynd i ryfel unwaith eto.
Beth allwn ei wneud heblaw gresynu at y penderfyniad a wnaed yn San Steffan nos Fercher? Hawdd fyddai digalonni ac anobeithio’n llwyr o weld cynifer o bobl sy’n dal i gredu mai trwy ryfela y mae dod â therfyn i ryfel ac mai trwy fomio y mae datrys anghyfiawnderau ein byd. Ond beth allwn ei wneud? Dal i weddio dros bobl sy’n dioddef oherwydd y trais a’r lladd a’r bomio. Dal i weddio dros bawb sy’n mentro i estyn cymorth i’r dioddefwyr hynny. Dal i weddio y caiff gwleidyddion ac arweinyddion byd y doethineb i geisio heddwch a chymod. Cefnogi ym mhob ffordd bosibl y mudiadau sy’n ymgeleddu’r dioddefwyr. Ac ar drothwy’r Nadolig, cyhoeddi’r Crist a ddaeth i’n plith yn Dywysog Hedd, a gwahodd pobl i gredu ynddo er mwyn cael eu cymodi â Duw ac â’i gilydd trwy ei waith achubol ar Galfaria.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Rhagfyr, 2015