Yn ôl y sôn, mae’n ddymunol ac yn felys. Mae hefyd yn bur ac yn lân. Mae’n gywir ac yn gyfiawn. Mae’n adfywio ac yn rhoi llawenydd. Mae’n goleuo ac yn gwobrwyo. Mae’n sicr ac yn para am byth. Pa ryfedd y dywedir hefyd ei fod yn berffaith? Byddai pobl sy’n llunio’r hysbysebion gorau’n cael trafferth i ddweud yn well na hyn am y pethau y maen nhw’n ceisio eu cymeradwyo i ni.
Ond beth sy’n llawenhau’r galon? Beth sy’n felysach na mêl? A beth sy’n fwy dymunol nag aur? Beth all fod cystal â hyn? Beth all roi’r fath bleser? Beth all fod mor werthfawr? Beth sy’n haeddu’r fath ganmoliaeth?
Nid cyfeiriad at unrhyw fwydydd neu nwyddau neu wyliau egsotig a geir yma. Geiriau’r Salmydd ydyn nhw, o Salm 19, yn sôn am Gyfraith Dduw. Ie, deddfau a gorchmynion Duw sydd dan sylw. Ac o’u darllen, mae’n amlwg mor arbennig yw golwg y Salmydd ar Gyfraith Dduw, ac mor wahanol yr olwg sydd ganddo i farn cynifer o bobl eraill am orchmynion yr Arglwydd.
I bobl sy’n credu fod pob gorchymyn yn difetha eu hwyl a’u mwynhad, peth i’w difrïo yw Cyfraith Dduw. Pethau sy’n cyfyngu ar ryddid ac yn llethu pobl yw gorchmynion, ac o’r herwydd maent i’w gwrthod. Does nemor ddim croeso i neb na dim – yn arbennig Duw! – sy’n dweud wrth bobl sut y dylen nhw fyw. Pethau caled a gorthrymus ydi deddfau o bob math. Ar y gorau, ildio iddyn nhw trwy groen eu dannedd a wna pobl.
Ond mor wahanol y Salmydd, sy’n trysori Cyfraith Dduw ac yn credu mai trwy ei chadw y ceir bywyd dedwydd a da. Ie, deddfau a gorchmynion Duw sy’n felys ac yn bur ac yn lân; a’r rhain hefyd sydd yn ôl y Salmydd yn dwyn goleuni a llawenydd a bywyd i ni. Ai pethau i’w croesawu a’u cofleidio yw gorchmynion Duw i ninnau tybed?
Ond nid yw dweud fod deddfau Duw yn gywir a pherffaith yn golygu ei bod yn hawdd ufuddhau iddyn nhw. Fel arall yn hollol y mae. Mae’n anodd cadw Cyfraith Dduw. Mae’r Salmydd yn deall hynny. Mae’r Cristion hefyd yn deall hynny i’r dim. Ond nid felly pawb. Mae llawer o’r farn mai gweiniaid o’r radd flaenaf yw Cristnogion, wedi dewis bywyd rhwydd yn ôl egwyddorion syml o ryw hen oes sy’n hollol amherthnasol i fywyd cymhleth y byd sydd ohoni.
Fel arall y mae, gan fod ufuddhau i Dduw ac i’w orchmynion yn anodd. Pwy feiddia ddweud ei bod yn hawdd ufuddhau i’r Deg Gorchymyn? A mwy na hynny, pwy fyddai mor ffôl â dweud bod yr eglurhad llawn a geir gan Iesu o ofynion y Deg Gorchymyn yn awgrymu ei bod yn hawdd byw yn ôl ei ddysgeidiaeth a’i esiampl? Ond anodd neu beidio, gorchmynion a gerir gan y Cristion ydyn nhw, ac er ei wendid mae’n ymdrechu i’w cadw yn nerth a gras Duw ei hun.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Ionawr, 2016