Blas newydd

4192b3qYgRL__SX323_BO1,204,203,200_

Dri mis yn ôl bu farw’r nofelydd o Sweden, Henning Mankell, sy’n fwyaf cyfarwydd am ei gyfres o nofelau am y ditectif ffuglennol Kurt Wallander. Roedd Mankell wedi dod â’r gyfres i ben ers tro, er mawr siom i bawb a oedd wedi cael blas ar y llyfrau hynny. Yr unig obaith o bosibl oedd y byddai’r awdur yn penderfynu ysgrifennu rhagor am ferch Wallander, a oedd erbyn diwedd y gyfres wedi dilyn ei thad i rengoedd ditectifs Ystad. Ond gyda marwolaeth Mankell diflannodd pob gobaith am gael darllen unrhyw beth newydd am Wallander.

Neu dyna a dybiwn nes i mi daro ar lyfr newydd sbon am Wallander y dydd o’r blaen. Ac er mai stori gymharol fer yn hytrach na nofel lawn oedd hon roedd yn dipyn o syrpréis ac yn beth amheuthun i’w ddarllen mewn awr neu ddwy. Stori a gyhoeddwyd yn yr Iseldiroedd rai blynyddoedd yn ôl oedd hon, a Mankell wedi penderfynu ei hail gyhoeddi cyn ei farwolaeth. Newydd ddod o’r Wasg mewn clawr papur y mae’r cyfieithiad Saesneg. Gyda’r stori hon, daeth un cyfle annisgwyl newydd ac olaf i gael ein tywys i fyd Wallander.

Mae nofelau Wallander yn fwy na straeon ditectif da gan fod Henning Mankell ynddynt yn rhoi i ni olwg ar y ffordd y mae cymdeithas wedi newid yn Sweden dros y degawdau diwethaf. Roedd Mankell yn amlwg yn nofelydd a boenai’n fawr am bethau fel tyndra hiliol a’r pob math o gam-drin ar bobl a welai yn Sweden, ac yn Mozambique lle treuliai ran o bob blwyddyn. Os tawelwyd llais Mankell, o leiaf mae gen i sawl nofel arall o’i eiddo heb ei darllen hyd yma a rydd gyfle i mi ei glywed yn trafod eto rai o’r themâu a welwyd yn straeon Wallander.

Bydd Mankell, fel awduron eraill gwell a salach nag ef ei hun, yn dal i lefaru mewn rhyw ffordd trwy ei waith ysgrifenedig, ymhell wedi iddo farw. Eleni, diolch i ymgyrch ‘Beibl Byw’ dan nawdd Gobaith i Gymru, Cyngor Ysgolion Sul Cymru a Chymdeithas Y Beibl, rhoddir mwy o sylw nag arfer i lyfr arall sy’n dal i lefaru flynyddoedd lawer wedi iddo gael ei ysgrifennu. Ar un wedd, llyfr a ysgrifennwyd gan lawer o wahanol bobl mewn sawl lle dros gyfnod hir yw’r Beibl. Ac eto, un awdur sydd iddo yn y pen draw gan mai Duw ei hun sy’n llefaru trwy bob rhan ohono. Ac oherwydd hynny, yn wahanol i bob llyfr arall, gellir dweud mai’r Beibl yw’r unig lyfr y mae’r awdur ei hun yn bresennol bob tro y caiff ei ddarllen gan ei fod, trwy ei Ysbryd Glân, yn dal i gymhwyso ei eiriau i bawb sy’n eu darllen.

Ym marn llawer, stori o ddirywiad fu hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn ddiweddar. Ac eto byddwn i’n dadlau mai un peth sy’n amlwg yn well am Gristnogaeth Gymraeg ein dyddiau ni, o’i chymharu â’r hyn a welwyd am ganrif a mwy, yw bod iddi fwy o barch at Y Beibl fel Gair Duw. Eleni, boed i ni gael blas newydd ar y llyfr hwn.

12047000_1048314345192305_4926232864054713087_n

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Ionawr, 2016

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: