Yn ôl y drefn arferol, mae hi i fod yn Ddydd Gŵyl Ddewi yfory. Ond dyw hi ddim. Chaiff plant ddim gwisgo crysau pêl droed a rygbi Cymru yn yr ysgol yfory. Fydd pobl ddim yn gwisgo cenhinen pedr yn eu cot. A fydd dim rhaglenni arbennig ar y teledu i ddathlu dydd ein nawddsant. Mae’r Ŵyl wedi ei gohirio.
Ond rhag i neb boeni fod yr Ŵyl wedi ei dileu, rhaid cofio mai wedi ei gohirio am ddiwrnod yn unig y mae hi. Fel arfer, heddiw fyddai dydd olaf y mis bach; ac mi fyddai’n Fawrth y cyntaf yfory ac felly’n Ŵyl Ddewi. Ond mae eleni’n flwyddyn naid, sy’n golygu gwneud lle i un dydd ychwanegol yng nghynffon mis Chwefror cyn y cawn ddathlu Gŵyl Ddewi. Wnaiff y gohirio hwnnw ddim gwahaniaeth o gwbl i’r dathliadau, ond mae’n rhoi’r cyfle a ddaw bob pedair blynedd i bawb ohonoch a aned ar Chwefror 29ain i ddathlu eich pen-blwydd ar y diwrnod cywir.
A phan ddaw dydd Mawrth, bydd y crys coch a’r wisg Gymreig, y cennin a’r genhinen pedr yn harddu’r ysgol a’r stryd a’r sgrin. Fe ddethlir eleni eto ein Cymreictod a’n hiaith a’r cyfan sydd o bwys i’n cenedl. Ardderchog o beth fydd hynny wrth gwrs. Ac fe sonnir am Dewi. Dewi, yr un a’n siarsiodd i wneud y pethau bychain. Dewi, y dyn o’r Chweched Ganrif bell a ddaeth yn symbol o barhad iaith a diwylliant a gwerthoedd y Cymry dros y canrifoedd ers hynny.
Ychydig a wyddom am Dewi. Wn i ddim a fydd cyfrol newydd Gerald Morgan, Ar Drywydd Dewi Sant, a ddisgrifir gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, fel ’yr unig gyfrol gynhwysfawr am nawddsant Cymru’ yn cyflwyno i ni wybodaeth newydd amdano ai peidio. Yr un peth amlwg a wyddom yw mai dyn y Ffydd a’r Efengyl Gristnogol oedd Dewi. Pa mor wir bynnag yw’r straeon sydd gennym am y dyn hwn, a beth bynnag arall a wyddom amdano, fe wyddom mai un o genhadon cynnar Crist yng Nghymru oedd o. Ac yn rhyfedd iawn, yr union beth hwnnw sydd mewn peryg o gael ei anghofio neu ei anwybyddu gan lawer o bobl a fydd yn sôn amdano ac yn dathlu ei fywyd a’i gyfraniad a’i esiampl a’i neges yr wythnos hon.
Pethau i’w dathlu yw diwylliant ac iaith a chenedl. Rhoddion gwerthfawr ydynt, a diolch i Dduw am bob awydd a welir i’w dathlu ar Ŵyl Ddewi ac i’w trysori a’u gwarchod bob dydd arall. Ond does dim rhaid wrth Dewi i wneud hynny os nad yw’r Ffydd yr oedd Dewi yn ei chyhoeddi yn rhan o’r darlun hefyd. Dathlwch bopeth da sy’n rhan o’n hetifeddiaeth Gymraeg a Chymreig, ond peidiwch â thynnu Dewi i mewn i’r dathlu hwnnw os nad yw’r Efengyl a’r Crist yr oedd Dewi yn eu cyflwyno i’w bobl o leiaf yn cael eu cydnabod a’u parchu. Os sonnir am Dewi heb sôn am Grist, nid gohirio Gŵyl Ddewi am ddiwrnod fydd hynny ond dileu’r Ŵyl yn llwyr i bob pwrpas.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Chwefror, 2016