Mae carchar mwyaf gwledydd Prydain yn cael ei godi yn Wrecsam i gadw 2016 o droseddwyr. Ar hyn o bryd, mae bron i 86,000 o bobl mewn carchar yng ngwledydd Prydain, ac mae’n amlwg fod disgwyl i fwy eto fod dan glo wedi agor y carchar newydd. Am ba reswm bynnag, gwahanol iawn yw’r stori yn Yr Iseldiroedd, lle mae llai a llai o bobl yn cael eu carcharu bob blwyddyn. Ers 2009, maen nhw wedi cau 27 o garchardai’r wlad honno, a bwriedir cau 5 arall yn fuan. Mae yng ngharchardai’r Iseldiroedd filoedd o gelloedd gwag. Pa ddiben cael carchar os nad oes carcharorion i’w lenwi? Tebyg yw’r stori yn Sweden, lle caewyd pedwar carchar yn 2013.
Mae un o hen garchardai’r Iseldiroedd, Het Arresthuis, yn Roermond, wedi ei droi’n westy moethus pedair seren. Wn i ddim beth a ddigwyddodd i’r gweddill. Wn i ddim chwaith beth a ddigwyddodd i’r bedd y gosodwyd Iesu Grist ynddo wedi’r croeshoeliad. Fore’r Pasg, roedd y garreg fawr a osodwyd dros geg y bedd wedi ei symud er mwyn i’r gwragedd a’r disgyblion allu gweld nad oedd Iesu’n dal yno. Roedd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac yn fuan wedyn fe’i gwelwyd gan lawer o’i ffrindiau. A thros y deugain niwrnod dilynol, daeth fwy nag unwaith at ei ddisgyblion, cyn eu gadael y tro olaf ac esgyn i’r nefoedd.
Ond beth am y bedd? Chawn ni wybod dim mwy amdano yn y Beibl wedi i’r gwragedd a’r disgyblion fynd ymaith. Tybed a gafodd y garreg ei hail osod dros geg y bedd? Neu tybed a gafodd ei gadael lle’r oedd hi? Wedi’r cyfan, heb gorff, doedd dim angen cau’r bedd. Heb gorff, doedd dim defnydd iddo. Mae’n bosibl, wrth gwrs, fod y bedd hwn wedi ei ddefnyddio eto. Bedd benthyg oedd o; bedd yr oedd Joseff o Arimathea wedi ei fwriadu ar ei gyfer ef ei hun, cyn gosod corff Iesu ynddo. Mae’n bosibl fod Joseff wedi ei gladdu ynddo yn nes ymlaen. Ond o ran yr Iesu, bedd segur fyddai’r bedd gwag hwn byth mwy.
Roedd Joseff wedi naddu’r bedd o’r graig. O ran yr Iesu, byddai Joseff wedi medru ail lenwi’r bedd â cherrig a phridd gan na fyddai ar Iesu angen yr un bedd eto. Bu’r bedd yn garchar i’w gorff am gyfnod byr. Ond daeth y carcharor yn rhydd. Daeth y corff yn ôl yn fyw. Daeth Iesu allan o’r bedd. Ac aeth y carchar segur hwnnw’n fwy di-alw-amdano na’r un o garchardai gwag yr Iseldiroedd a Sweden.
Ŵyr neb erbyn hyn beth fu hanes y bedd hwnnw wedyn. Mae mwy nag un lleoliad posibl wedi ei awgrymu dros y blynyddoedd, yn cynnwys ‘Y Bedd yn yr Ardd’ y mae ymwelwyr yn ymweld ag ef yn Jerwsalem o hyd. Lle bynnag oedd y bedd, a beth bynnag a wnaed ohono wedi i’r Iesu fod ynddo, diolch a wnawn ni ei fod wedi cyflawni ei ddiben erbyn bore’r Pasg ac nad oedd ganddo ef nac angau afael pellach ar Iesu, ein Gwaredwr byw ni.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Sul y Pasg, 27 Mawrth, 2016