A55

Ebrill 24, 2016

 

 

 

 

 

Mae’r briffordd A55 yn y newyddion yn gyson. Yn ddyddiol, clywir pobl yn galw ar y Llywodraeth i wario arian i’w gwella. O gofio’r holl rwystrau sydd ar yr A55, roedd yn rhyfedd iawn clywed y dydd o’r blaen fod awgrym wedi ei wneud i godi’r cyflymder gyrru arni o 70 i 80 milltir yr awr. A beth feddyliwch chi wedyn o’r awgrym a wnaed yr wythnos ddiwethaf i roi enw newydd i briffordd y Gogledd?

Rywsut, fedra’ i ddim credu mai enw newydd yw’r flaenoriaeth i’r bobl sy’n teithio’n gyson ar hyd y lôn hon. Pa angen enw arall arnom? Fyddai enw newydd yn golygu y byddai eistedd mewn rhes o draffig llonydd yn llai o boen? Ond wedi meddwl am y peth, dyna sylweddoli nad ar ein cyfer ni’r Gogleddwyr ond ar gyfer ymwelwyr y bwriedir yr enw newydd. Pwrpas y lôn, mae’n amlwg, yw dod â thwristiaid i’r gorllewin i weld y golygfeydd, i fwynhau’r atyniadau, ac i brofi cyfoeth diwylliannol ein hardal. Bwriedir i’r enw newydd ddweud rhywbeth wrth yr holl ymwelwyr sy’n defnyddio’r lôn. Ond onid oes berygl i ni anghofio nad lôn i dwristiaid yn unig mohoni? Onid oes angen cofio mai ein lôn ni i’r ysgol a’r swyddfa, i’r parc diwydiannol a’r ffatri, i’r ysbyty a’r siop, i’r pictiwrs a’r theatr, i’r gêm bêl droed a thŷ Anti Gwen yw hon yn gyntaf? Mentraf ddweud fod trigolion y Gogledd yn fwy na bodlon cadw at ‘yr A55’ – y lôn a’r enw – a bod cyflwr y ffordd yn llawer pwysicach iddynt nag unrhyw enw.

Pwrpas cyntaf y lôn yw galluogi pobl yr ardal hon i deithio o le i le mor hwylus a dirwystr â phosibl, i fynd i’w gwaith a’u cartrefi, i wneud bywoliaeth ac i fwynhau bywyd. Wrth gwrs y bydd twristiaid yn ei defnyddio hefyd, ond siawns nad oes neb yn awgrymu mai ar eu cyfer hwy yn gyntaf y mae’r lôn yn bodoli?

Mae ffordd yn un o’r delweddau a ddefnyddiodd Iesu i’w ddisgrifio’i hunan. ‘Myfi’, meddai ‘yw’r ffordd.’ Yn wahanol i’r A55, does dim angen gwella’r ffordd hon gan fod Crist yn ffordd berffaith na ellir ei gwella. Mae’n ffordd sicr a dirwystr, ac yn llwybr diogel i bawb sy’n ei dilyn. Y mae iddi’r pwrpas clir o ddod â phobl at Dduw. Ffordd y bywyd ydi hi: ffordd y mae’n rhaid i ni ei dilyn er mwyn cael y bywyd y mae Duw yn ei gynnig i ni. Ffordd i’w throedio bob dydd yw Crist; ffordd na allwn wneud hebddi.

Crist yw’r ffordd ar gyfer pawb sydd am gael gwir fywyd; y bywyd gwell, a’r bywyd tragwyddol. Nid ffordd y teithiwr achlysurol mohoni; nid ffordd i’w dilyn yn hamddenol er mwyn cael rhyw damaid o grefydd bob hyn a hyn. Y ffordd hanfodol yw Iesu Grist; y ffordd na ellir hebddi.

Ie, dyma’r ffordd at Dduw. Mae’r ffordd ar gael i bawb sy’n ceisio Duw. Ni ellir ei gwella, ac nid oes angen meddwl am enw arall iddi. Pa enw gwell sydd nag enw Iesu?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Ebrill, 2016

Advertisements

Y record goll

Ebrill 17, 2016

vinyl-record

‘Diwrnod y Siopau Recordio’ oedd hi ddoe, ac roedd rhaglen radio Tudur Owen yn ddwy awr o ddiddanwch ac o wrando ar hen ganeuon a gyhoeddwyd ar recordiau finyl. Dim golwg o’r un casét na CD, a dim un nodyn o unrhyw gasgliad digidol o ganeuon. Dim ond finyl, hen ganeuon cyfarwydd a llai cyfarwydd.

Cyn diwedd y rhaglen fe gofiodd Dyl Mei, un o’r cyflwynwyr, am fodolaeth yr hen flychau oedd yn galluogi pobl i recordio eu lleisiau eu hunain ar record finyl 7-modfedd. Pethau digon tebyg i’r ciosg tynnu lluniau a geir mewn siopau o hyd oedd y rhain. Doedden nhw ddim mor gyffredin â’r blychau lluniau wrth gwrs. Roedd Dyl Mei yn tybio eu bod yn eithaf cyffredin yng Nghymru ar un adeg. Wn i ddim am hynny. Dim ond unwaith y gwelais y fath ddyfais, ac nid yn y Marine Lake yn Y Rhyl nac yn Butlins Pwllheli yr oedd hynny ond ym Manceinion, yng nghanolfan adloniant Belle Vue. Nid yw honno, mwy na’r Marine Lake, yno heddiw, ond mae dau beth yn aros yn y cof o’r unig dro’r bûm i ar gyfyl y lle. Yn Belle Vue y bûm i’n chwarae Bowlio 10 gyntaf. Ar y pryd, roedd Bowlio 10 yn rhan o arlwy ‘World of Sport’ ar ITV ar bnawn Sadwrn, ond hyd y gwn i beth bynnag doedd dim modd chwarae’r gêm yr ochr hon i Glawdd Offa. Ac yn Belle Vue hefyd y gwelais ac y mentrais ddefnyddio’r ciosg recordio, a chael un o’r recordiau finyl 7-modfedd yr oedd Dyl Mei yn sôn amdanyn nhw fore ddoe.

Gwaetha’r modd, neu ddylwn i ddeud, ‘diolch byth’, dyw’r record honno ddim ar gael. Fedra’ i ddim cofio pa gân a roddwyd ar gof a chadw yn y ciosg bach y diwrnod hwnnw. A deud y gwir, fu hi ddim ar gof na chadw’n hir gan fod y record wedi ei cholli cyn cyrraedd adref. Cymwynas o’r mwyaf yw bod rhai pethau’n mynd ar goll. A chredwch fi, mae record ohonof fi’n canu yn un o’r pethau hynny. Mae hi wedi mynd, byth i ddychwelyd.

A rhan o lawenydd mawr y Cristion yw bod peth tebyg yn wir am y ffordd y mae Duw yn delio â’i bechod. Fel y dywed y proffwyd Micha yn yr Hen Destament, ‘Bydd yn tosturio wrthym eto, ac yn golchi ein camweddau, ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr’ (Micha 7:19). Un o gymwynasau mawr gras Duw yw bod ein pechodau wedi eu maddau, a’u bod wedi eu taflu ymaith, byth i ddychwelyd i’n cyhuddo na’n collfarnu wedyn. Dyna ryfeddod llwyr o gofio mor euog ydym o dorri ei orchmynion ac mor deilwng ydym o gael ein gwrthod ganddo.

Oherwydd gras a chariad Duw, ac am fod yr Arglwydd Iesu wedi dioddef a marw trosom, ddaw ein pechodau fyth yn ôl o eigion y môr mawr, dwfn. Maen nhw wedi mynd am byth am fod Iesu Grist wedi eu cymryd a dwyn y gosb amdanynt yn ein lle. Ddown nhw fyth yn ôl i’n blino na’n cywilyddio na’n barnu. A diolch fyth am hynny.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Ebrill, 2016

 

 


Trosedd Victoria

Ebrill 10, 2016

Picture1

Peth peryglus yw doethinebu ynghylch sefyllfaoedd sy’n ddieithr i ni. A pheth mwy peryglus fyth yw gwneud hynny wrth drafod pobl y maen nhw a’r hyn sy’n digwydd iddyn nhw’r un mor ddieithr i ni. Ar y gorau, dibynnu ar yr hyn a glywn ac a ddarllenwn a fyddwn i, ac fe all rhai o’r pethau hynny fod yn anghywir. ‘Calla dawo’ yw hi fel arfer gyda’r pethau hyn. Ond heddiw, mentraf gyfeirio at achos Victoria Wasteney, er na wn i ond yr hyn a ddarllenais amdani’r dydd o’r blaen.

Uwch therapydd galwedigaethol gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn   Nwyrain Llundain yw Ms Wasteney. Cafodd ei gwahardd o’i gwaith yn 2014 am aflonyddu ar un o’i chydweithwyr a’i bwlio. Y llynedd, mewn tribiwnlys diwydiannol, fe ddyfarnwyd nad oedd ei chyflogwyr wedi ei thrin yn annheg wrth ei gwahardd o’i gwaith a rhoi rhybudd ysgrifenedig iddi ynglŷn â’i hymddygiad yn y gweithle. Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n apelio yn erbyn y dyfarniad hwnnw; ond fe wrthododd y barnwr yr apêl. Ac felly, mae Victoria Wasteney, yng ngolwg y ddeddf, yn dal yn euog o aflonyddu a bwlio.

A beth yn union a wnaeth o’i le? Dau beth, mae’n debyg. Y drosedd gyntaf oedd rhoi llyfr yn anrheg i’w chyfaill o gydweithwraig. Yr ail drosedd oedd gweddïo gyda’r gydweithwraig wedi i honno ddod ati i rannu ei gofid. Fe ddylwn egluro mai Cristion yw Ms Wasteney, a’i chyfaill yn Foslem.

Dyma achos o bwys i bawb sy’n ymboeni am ryddid crefyddol yng ngwledydd Prydain heddiw. Nid mater o amddiffyn popeth a wna pob Cristion ar bob achlysur ydyw. Gall rhai Cristnogion fod yn annoeth wrth ymdrin â phobl o grefyddau eraill. Ond nid yw’n ymddangos mai dyna a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Roedd Ms Wasteney a’i chyfaill wedi arfer trafod eu ffydd ac wedi ymgyrchu gyda’i gilydd yn erbyn y fasnach mewn pobl. Roedd hi wedi gofyn i’w chyfaill a gâi hi weddïo gyda hi wedi i honno rannu ei gofid. Roedd hi’n meddwl bod yr anrheg o lyfr Cristnogol a oedd yn adrodd stori gwraig o Foslem yn troi at y Ffydd Gristnogol wedi ei dderbyn yn llawen. Yn nes ymlaen y trodd pethau’n chwerw, wedi i’r cyflogwyr dderbyn cwyn am y cyfan.

Nid dweud ydw i fod Ms Wasteney wedi gweithredu’n gwbl ddi-fai. Dwi ddim yn ei nabod, a does gen i ddim modd o wybod. Ond yr hyn sy’n     awgrymu iddi gael cam yw’r ffaith na chyflwynodd ei chyfaill dystiolaeth yn ei herbyn i’r cyflogwyr na’r tribiwnlys. Trwy ddyfarnu yn ei herbyn, mae’r barnwr a’r tribiwnlys wedi ei gwneud yn anodd iawn i unrhyw Gristion, ac unrhyw un o ffydd arall mae’n debyg, rannu ei ffydd yn agored yn y gweithle gyda chyfeillion, heb i hynny rywbryd wedyn gael ei ddehongli fel aflonyddu a bwlio. Dydd digalon fydd hwnnw pan na all pobl drafod a gweithredu eu ffydd mewn brawdgarwch a chariad.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Ebrill, 2016

 

 


Pawb â’i fys

Ebrill 3, 2016

Mae’r haf yn dod. Mi ges i gadarnhad o’r peth yng Nghricieth y dydd o’r blaen, a chael f’atgoffa yr un pryd o’r blynyddoedd y buom ni’n byw yn Abersoch. Mae cyfyngiadau parcio tymor yr haf wedi cychwyn yng Nghricieth. Tipyn o boendod i ni oedd y rheolau a oedd yn gwahardd parcio ar y lôn o flaen ein tŷ ni yn Abersoch dros fisoedd yr haf. Heb os, dyna un o’r rhesymau pam yr oedd yn llawer gwell gen i’r gaeaf na’r haf yn y pentref glan môr prydferth hwnnw.

Ond cawsom arwydd arall o ddyfodiad yr haf yng Nghricieth nos Iau wrth i wraig leol ein cyfarch ger y traeth gan ddweud mai dyna’r noson olaf am rai misoedd y cai hi fynd â’i chi am dro i’r traeth. Ac wir i chi, roedd arwyddion ar y prom yn cadarnhau’r peth. O ddydd cyntaf Ebrill hyd ddiwedd Medi, chaiff neb fynd â chŵn i’r traeth. Wyddwn i ddim fod y fath reol yn bod. Wnes i erioed sylwi ar y ddeddf hon. Ond pe byddai gen i gi, mae’n siŵr y byddwn yn ymwybodol iawn ohoni. Wn i ddim chwaith a oedd y fath ddeddf mewn grym yn Abersoch flynyddoedd yn ôl. Pawb â’i fys lle bo’i ddolur yw hi, mae’n debyg.

Does gen i ddim ci. Fu gen i erioed gi chwaith. Ac felly mae’r gorchmynion a gyflwynwyd gan Gyngor Gwynedd (dair blynedd yn ôl, o’r hyn a welaf rwan ar wefan y Cyngor) ynghylch gwahardd cŵn o rai traethau yn gwbl amherthnasol i mi. Gallaf ddychmygu fod perchnogion cŵn yn ymwybodol o’r gorchmynion hyn, a bod mwy nag un ohonynt wedi bod yn anfodlon iawn â hwy. Fel y dywedais, ‘pawb â’i fys’.

Gŵyl Gristnogol LLANW aeth â ni a channoedd o bobl eraill i Gricieth. Mor braf oedd cael addoli Duw a chlywed pob math o dystiolaeth i ras a daioni’r Duw Byw yn yr Efengyl ac ym mywydau pobl. Calon y cyfan a ddywedwyd ac a wnaed yn LLANW oedd croes a bedd gwag yr Arglwydd Iesu Grist. Nid bod hynny’n syndod wrth reswm. Wedi’r cyfan, beth arall allai fod yn ganolbwynt i addoliad Cristnogol heblaw’r newydd da am aberth a buddugoliaeth Crist?

Ac eto, gwn mai cam bychan iawn oedd hwnnw o gynhesrwydd mawl yr ŵyl i oerni anghrediniaeth y byd. Mae’r Efengyl, sydd i rai yn tanio dychymyg ac yn cynhesu calonnau ac yn ennyn ffydd, i eraill yn ddiystyr a gwag ac amherthnasol. Nid yw Crist y groes a’r bedd gwag yn golygu dim i filoedd ar filoedd o bobl ein gwlad. Ie, pawb â’i fys lle bo’i ddolur yw hi.   Oherwydd, heb deimlo clwyf a dolur y bywyd o gefnu ar Dduw ac o fethu â chyflawni ei ewyllys, wêl neb fyth werth yr Un sy’n Feddyg enaid ac yn Waredwr pechaduriaid.

Neges fawr y Beibl yw ein bod i gyd yn dioddef o’r un dolur a bod arnom oll angen yr un Gwaredwr. Gweddiwn y daw pobl i weld y dolur ac i ganfod y Meddyg.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Ebrill, 2016