Draw i’r Fflint

Mai 29, 2016

urdd-logo-2016

I dre’r Fflint y bydd miloedd o blant a’u teuluoedd yn heidio’r wythnos hon.  Pob hwyl i’r holl blant a phobl ifanc o bentrefi’r Ofalaeth a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dros y dyddiau nesaf.  Pob hwyl i bawb ohonoch a fydd yn mynd yno i’w cefnogi.  Ac os mai aros gartref fyddwch chi, gobeithio gwnewch chi fwynhau’r cyfan trwy’r radio a’r teledu.  Rwy’n edrych ymlaen at fynd yno ddiwedd yr wythnos.

Nid yw’r Fflint yn bell o’r cyffiniau hyn, ond bedair blynedd yn ôl, roedd yr Eisteddfod yn nes atom o lawer, yng Nglynllifon, cwta ddeuddeg milltir o Lanberis.  Ond deuddeg milltir hir iawn oedden nhw fore cyntaf yr Eisteddfod: wyth milltir yn y car, a phedair ar droed. Gobeithio’n arw na fydd rhaid cerdded un rhan o dair o’r ffordd i’r Fflint ddydd Gwener, neu mi fydd y cyfan drosodd cyn i ni gyrraedd.

Gobeithio hefyd y cawn ni dywydd braf yr wythnos hon: tywydd poeth dechrau wythnos yr Eisteddfod yng Nglynllifon yn hytrach na thywydd gwlyb a stormus diwedd yr wythnos honno fyddai’n ddymunol.  Tywydd a thraffig; ie, dyna ddau beth sy’n medru gwneud eisteddfodau yn gofiadwy i gannoedd o bobl.

Ond nid dyna’r unig bethau, ac nid dyna’r pethau pwysicaf chwaith, diolch am hynny. Ac eleni eto, beth bynnag a ddaw o’r traffig na’r tywydd, bydd yr Eisteddfod yn gofiadwy am bob math o resymau eraill, gwell. Fe gofir hon eto am ddawn y cystadleuwyr, ac am safon y gwahanol gynyrchiadau.  Ac felly y dylai fod wrth gwrs.

Mor hawdd yw cofio pethau am y rhesymau eilradd.  Gwnawn hynny’n aml iawn gyda phethau’r Ffydd: cofio adeilad yn hytrach nag oedfa; cofio maint y gynulleidfa yn hytrach na’r fendith a gaed ynddi; cofio pwy oedd yn pregethu, yn hytrach na’r hyn a  bregethwyd; cofio’r hyn a wnawn ni dros Dduw yn hytrach na’r hyn a wnaeth Duw trosom ni.

Oherwydd ein tuedd i ganolbwyntio ar y pethau eilradd mae arnom angen gras a chymorth Duw i sylwi ar y pethau sydd o wir bwys.  Yn amlach na heb, pethau Duw ei hun yw’r pethau hynny, yn hytrach na’n pethau ni.  Gwaith Duw; rhoddion Duw; bwriadau Duw; pobl Dduw; gyda’r pethau hynny y dylem ddechrau bob amser. Dyna’r pethau sy’n dod â chysur a gobaith.

Ond nid yn unig wrth edrych nôl dros y blynyddoedd y gwnawn hyn, ond bob dydd.  Ar ddiwedd dydd, gallwn gofio a diolch am ddaioni Duw a’i ofal amdanom; gallwn gofio’r pethau a welsom amdano trwy ei Air; gallwn ddiolch am bob un o’i roddion; gallwn ddiolch o’r newydd am ei gariad atom yn ei Fab Iesu.  Yn ein byw bob dydd, boed i Dduw ein helpu i gadw’n golwg arno Ef ei hun a’i fendithion.  A boed iddo ein cadw rhag cyfrif unrhyw beth arall yn bwysicach nag Ef a’i roddion.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Mai, 2016


Hysbysebion

Mai 22, 2016

thousand-pounds-money

Mae yna hysbysebion da.  Roedd rhai Milk Tray ers talwm  fel agoriad ffilm James Bond.  Roedd rhai Gold Blend yn opera sebon dros gyfnod hir.

Mae yna hysbysebion gwael.  Ymysg y gwaethaf ar hyn o bryd yw’r un heb sain sy’n hysbysebu cwmni gwerthu ceir ail law.  Roedd yr hen rai am datws powdwr Smash a phowdwr golchi Daz yn werth eu hanghofio hefyd.  (Ai’r un powdwr oedd y ddau tybed?)

Gwelwyd y ddau fath o hysbyseb – y da a’r gwael – ers iddyn nhw gael eu cynhyrchu gyntaf, fel sy’n amlwg o’r rhaglenni teledu sy’n eu dangos o bryd i’w gilydd.  Mae’r traddodiad yn    parhau a’r ddau fath i’w gweld o hyd bob dydd.

Ond erbyn hyn mae yna fath arall o hysbyseb, sef yr hysbyseb peryglus.  Nid bod hyn yn beth cwbl newydd.  Wedi’r cwbl, gall llawer ohonom gofio cyfnod pan oedd sigaréts yn cael eu hysbysebu fel pethau deniadol a oedd yn gwella ansawdd bywyd pobl.  Ond os yw hysbysebion sigaréts wedi eu gwahardd erbyn hyn, mae hysbysebion yr un mor beryglus yn cael eu caniatáu ac yn dod, os rhywbeth., yn fwy a mwy cyfarwydd.  A’r mwyaf peryglus o’r cyfan o bosibl yw rhai cwmnïau betio a chwmnïau benthyca arian.

Mae’r cwmnïau betio ym mhobman yn denu pobl i roi eu harian iddynt yn y gobaith o ennill ffortiwn. Ar wahân i’r hysbysebion amlwg rhwng rhaglenni, mae’n amhosibl gwylio neu wrando ar gêm bêl droed ar rai sianeli teledu a radio heb gael eich cymell ar ganol y gêm i fetio pwy fydd yn sgorio nesaf neu pwy fydd yn cael y cerdyn melyn nesaf.

Mae’r cwmniau benthyca arian am logau dychrynllyd o uchel cynddrwg os nad gwaeth.  Yn ddiweddar, gwelais ddau hysbyseb o’r fath, y naill yn dilyn y llall; y ddau yn rhoi’r argraff ei bod mor rhwydd benthyca arian, a’r ddau yn codi llogau o fwy na 1000% APR!  Y ddau felly yn gobeithio rhwydo pobl mewn dyledion mawr.  Dyna beth yw manteisio ar dlodi ac angen!

Mae’r diwydiant betio a’r diwydiant benthyca arian fel ei gilydd wedi gwneud llanast o fywydau gormod o lawer o bobl. Tu cefn iddynt, mae rhaib a thrachwant cwmniau sydd yn ymgyfoethogi ar draul eraill.  Does ryfedd fod proffwydi’r Hen Destament yn aml yn taranu yn erbyn y math hwn o ymddygiad.  Un o’r proffwydi hyn oedd Amos, a soniai am bobl sy’n ‘sathru’r tlawd, a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith’ (Amos 5:11). Yn dilyn Wythnos Cymorth Cristnogol, gallwn ninnau atgoffa’n gilydd i ofalu am y tlawd a’r anghenus, i weddïo y bydd Duw’n bendithio pob ymdrech i leddfu eu dioddefaint, ac i fod yn edifar am bob dim a wnawn ni sy’n cyfrannu at y dioddefaint hwnnw.   Boed i Dduw ein gwared ni rhag gwneud unrhyw beth i sathru’r tlawd a’r anghenus.

 

Cliciwch yma http://www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Mai, 2016


Yn y stori

Mai 15, 2016

Brynoch chi erioed un o’r llyfrau plant hynny sy’n cael eu hargraffu gydag enw plentyn arbennig yng nghanol y stori? Mae dulliau argraffu modern yn galluogi argraffu fersiynau unigol o lyfrau. Yr un yw’r stori ym mhob llyfr, ond mae enw’r cymeriad yn cael ei newid er mwyn i enw’r plentyn sy’n derbyn y llyfr gael ei osod yng nghanol y stori honno. Hyd y cofiaf, chafodd yr un o’n hogiau ni lyfr o’r fath.

A hyd y gwn i, does neb wedi ceisio gwneud peth tebyg â’r Beibl gan osod enw plentyn yn lle un o’i gymeriadau cyfarwydd. Darllen am Noa a’i arch a’i anifeiliaid, ac am Joseff a’i gôt y bydd plant o hyd. Diolch am hynny, does neb, am a wn i, wedi awgrymu y byddai’n syniad da i gyhoeddi llyfrau a fyddai’n gosod Ned neu Nedw yn yr arch a Jac neu Jo yn y gôt amryliw.

Ni welir ein henwau ar dudalennau’r Beibl gan nad ein stori ni a adroddir, ond stori’r bobl y gwelodd Duw yn dda eu defnyddio i gyflawni ei waith ac i weithredu ei fwriadau. Ac eto, mae a wnelo’r cyfan â ni. Mewn rhyw ffordd, rydym yn rhan o’r stori. Mae hynny’n eglur ddigon wrth i ni feddwl am y gwyliau sy’n gysylltiedig â’r Ffydd Gristnogol.

Rydym yn rhan o stori’r Nadolig. Doedden ni ddim yno gyda’r bugeiliaid a’r doethion wrth gwrs, ond dod i’r byd er ein mwyn ni a wnaeth yr Arglwydd Iesu.

Rydym yn rhan o stori’r Pasg. Nid ein bod yno wrth y groes neu’r bedd gwag, ond fe gredwn er hynny mai marw trosom ni a wnaeth y Gwaredwr.

Rydym yn rhan o stori’r Dyrchafael. Doedden ni ddim gyda’r disgyblion yn gwylio Iesu’n cael ei godi i’r nefoedd, ond mae cysur i’w gael o gofio mai esgyn i eiriol trosom ni a wnaeth ein Harglwydd.

A beth am y Sulgwyn? Rydym yn rhan o’r stori honno hefyd. Nid ein bod yno pan dywalltwyd yr Ysbryd ar y disgyblion. Welsom ni mo’r tafodau tân; chlywsom ni mo’r sŵn a oedd yn debyg i wynt cryf; a doeddem ni ddim yn rhan o’r criw a ddechreuodd siarad mewn ieithoedd dieithr ar y Pentecost.

Os rhywbeth, gall y pethau rhyfedd hynny olygu ei bod yn fwy anodd i ni ein gweld ein hunain yn rhan o’r stori hon. Mae digwyddiadau’r Pentecost yn gallu bod mor ddieithr ac mor bell oddi wrth ein profiadau Cristnogol nes i ni feddwl nad oes a wnelo’r hanes hwnnw ddim â ni o gwbl. Be wyddom ni am dywalltiadau nerthol o’r Ysbryd Glân?

Ac eto, mewn rhyw ystyr, ein stori ni yw’r stori’r Pentecost hefyd gan mai’r un Ysbryd a ddaeth ar y disgyblion yw’r Ysbryd a roddwyd i bawb sy’n credu yn Iesu Grist; yr Ysbryd hwnnw sydd ynom i’n harwain a’n diddanu a’n dysgu a’n nerthu bob dydd.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Mai, 2016

 


Dyrchafu a diflannu

Mai 8, 2016

Ddydd Iau diwethaf roedd cyfle i bobl Cymru ethol aelodau newydd ein   Cynulliad Cenedlaethol. Erbyn bore Gwener, gellid dweud nad oedd llawer wedi newid ar un ystyr, gan mai un yn unig o’r deugain etholaeth a etholodd aelod o blaid wahanol i’r un a etholwyd y tro blaenorol. Cafwyd er hynny gryn newid ymhlith yr aelodau rhanbarthol. A chan fod hefyd sawl un o Aelodau’r Cynulliad blaenorol wedi ymddeol bydd cymaint â 23 o Aelodau newydd ym Mae Caerdydd yr wythnos hon. O gofio mai 60 o Aelodau Cynulliad sydd gennym, mae hynny’n golygu y bydd bron i hanner y nifer hwnnw’n bobl newydd.

Wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi, roedd yr ymgeiswyr yn sefyll gyda’i gilydd yn y gwahanol ganolfannau ym mhob rhan o’r wlad. Llawenydd a rhyddhad i un oedd yn dristwch a siom i arall. Buddugoliaeth a dyrchafiad i un oedd yn golled a chwymp i arall.

Roedd dydd Iau yn ddydd dyrchafiad i rai ac yn ddydd diflaniad eraill. Aeth y buddugwyr i’w gwobr a’u gwaith. Ond beth a ddaw o’r gweddill? Ymhlith y rhai a gollodd eu lle yn y Senedd mae rhai a fu’n wynebau cyfarwydd ers blynyddoedd. Beth a ddaw ohonyn nhw? Welwn ni nhw eto? Fyddan nhw’n diflannu o’n golwg? Neu fyddan nhw’n dal ati, a ninnau’n eu gweld yn ceisio adennill eu seddau ymhen pum mlynedd? Amser a ddengys.

Roedd dydd Iau diwethaf nid yn unig yn ddiwrnod etholiad ond yn Ddydd Iau Dyrchafael i’r Eglwys Gristnogol, gyda Christnogion ym mhob rhan o’r byd yn dathlu Esgyniad Iesu Grist i’r nefoedd. Cyhoeddwyd o’r newydd fod y buddugwr, yr un a drechodd bechod a’r bedd, wedi ei ddyrchafu oddi ar y ddaear a’i dderbyn yn ôl i’r nefoedd. Aeth y buddugwr at ei wobr, i eistedd ar ddeheulaw Duw; ac aeth at ei waith, i weddïo dros ei bobl.

Yn wahanol i’r hyn a ddigwyddodd wedi’r Etholiad, y buddugwr – yr un a ddyrchafwyd – yw’r un a ddiflannodd Ddydd Iau’r Dyrchafael. Aeth Iesu o olwg ei ddisgyblion, ac mae’n siŵr y bydden nhw wedi dechrau meddwl beth fyddai’n digwydd wedi hynny. Ai dyna’r diwedd? Oedd Iesu, wrth ddiflannu o’u golwg, wedi mynd am byth?

Fu dim rhaid i’r disgyblion bendroni’n ormodol gan fod dau angel wedi dweud wrthyn nhw y byddai Iesu’n dod yn ôl ryw ddydd. Pan ddaw, nid dod fel ymgeisydd aflwyddiannus mewn etholiad, i roi un cynnig arall arni a wna. Y buddugwr yw Iesu.   Mae wedi cario’r dydd trwy farw ar Galfaria a dod yn ôl yn fyw. Mae’r fuddugoliaeth yn derfynol. Nid oes, ac ni fydd angen brwydro eto er mwyn trechu pechod a marwolaeth.

Daw Iesu’n ôl, ryw ddydd. Bydd pawb yn ei weld; bydd pob glin yn plygu; a bydd pob tafod yn cyffesu fod Iesu Grist yn Arglwydd ac yn Frenin.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 08 Mai, 2016

 


Ian Wright yn reit?

Mai 1, 2016

ian-wright-_140619192347-813

Roeddwn wedi bwriadu sôn am hyn yr wythnos ddiwethaf, ond mi anghofiais. Ond gwell hwyr na hwyrach, cyn i dymor presennol ‘Match of The Day’ ddod i ben beth bynnag.

Dros y misoedd diwethaf bu’r rhaglen boblogaidd hon yn dangos cyfres o ffilmiau byrion a’n cyflwynodd yn eu tro i un o gefnogwyr pob tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr. Bythefnos yn ôl, offeiriad yn yr Eglwys Babyddol a chefnogwr Manchester United oedd dan sylw. Fe’i gwelwyd mewn oedfa yn yr eglwys, ac yna mewn gêm yn Old Trafford cyn iddo ruthro o’r stadiwm yn ôl i’r eglwys i arwain yr offeren. Ymateb Ian Wright, cyn chwaraewr Arsenal a Lloegr, oedd yn ddiddorol. Wedi gwylio’r eitem, fe synnodd Ian Wright gyflwynydd y rhaglen trwy ddweud fod clywed yr offeiriad ‘yn siarad yn ysgafn am Man U a gweddïo a phethau felly’ wedi gwneud iddo deimlo’n anghysurus o gofio fod ei fam wedi dysgu iddo erioed ‘i beidio â gwatwar Duw’.

Gan na lwyddais i ail wylio’r rhaglen, fedraf fi ddim bod yn sicr a oedd Ian Wright yn gwbl deg â’r offeiriad. Yn sicr, fe’i dangoswyd yn sôn am bêl droed a Man U yn un o wasanaethau’r eglwys. Ond os cofiaf yn iawn, math o eglureb oedd hynny ganddo i awgrymu mai Iesu Grist yw ein capten ni. Fedraf fi ddim chwaith fod yn gwbl sicr a ddywedodd yr offeiriad ei fod yn gweddio y byddai Man U yn ennill y gêm yr oedd yn ei gwylio. Ond dyna’r argraff a gafodd Ian Wright. A dyna a wnaeth iddo feddwl am gyngor da ei fam i beidio â gwatwar Duw.

A chwarae teg iddo, meddwn innau. Wn i ddim beth yw daliadau crefyddol Ian Wright, ond roedd ei glywed yn sôn am ei fam a’i chyngor iddo barchu Duw yn beth hyfryd iawn. Oedd o’n hollol deg? Dwi ddim yn siŵr, a does fawr o bwys gen i gan fod ei ymateb yn codi cwestiwn pwysicach o lawer i Gristnogion sef, pa argraff a gaiff ein siarad a’n hymddygiad ar bobl eraill? Gellid ceisio ail wylio’r rhaglen gan wrando’n astud ar bob gair er mwyn gweld a oedd Ian Wright yn deg ai peidio. Ond nid yw peth felly’n bosib yn ein bywyd bob dydd.     Fedrwn ni ddim ail wrando ar y pethau y byddwn ni ac eraill yn eu dweud. Fedrwn ni ddim chwaith ail wylio’r hyn y byddwn yn ei wneud. Ac felly mae angen gofal mawr, oherwydd yn aml iawn yr argraff a gaiff pobl wrth ein gweld a’n clywed yn byw’r bywyd Cristnogol a fydd penderfynu beth a wnân nhw ohonom ni a’n tystiolaeth.

Gwyliwn, felly, rhag unrhyw fath o ymddygiad a all roi’r argraff i eraill nad ydym yn cymryd ein ffydd na’r bywyd Cristnogol o ddifrif. Ac yn sicr, gwyliwn rhag i ni roi’r argraff nad ydym yn cymryd y Duw Sanctaidd o ddifrif. Oes, mae angen gwylio’r ffordd yr ydym yn trafod ein ffydd ac yn siarad am Dduw ac am Iesu Grist ein Gwaredwr.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Mai, 2016