Siomedig iawn, a dweud y lleiaf, oedd canlyniad y Refferendwm. Yr unig gysur am wn i, os cysur hefyd, oedd y ffaith fod Gwynedd, ein sir ni, yn un o’r siroedd a bleidleisiodd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Do, aeth y Refferendwm heibio, ond bydd y trafod yn parhau. Pwy a ŵyr beth a ddigwydd? Dyna, wrth gwrs, yr union beth a fu’n boendod i lawer a oedd o blaid ‘Aros’. Does neb yn gwybod beth sydd o’n blaen y tu allan i’r Undeb. Eisoes, clywyd rhai o’r bobl a fu’n flaenllaw yn yr ymgyrch ‘Gadael’ yn cydnabod nad oes ganddyn nhw chwaith syniad, er gwaetha’r holl addewidion a gafwyd ganddynt am y byd gwell a’r rhyddid a’r ffyniant a ddeuai o adael yr Undeb. Diddorol fu gweld pa mor sydyn y dechreuwyd cydnabod nad yw’r Gwasanaeth Iechyd mor sicr o dderbyn yr arian mawr a addawyd yn ystod yr Ymgyrch, ac y bydd angen pwyso ar Lywodraeth San Steffan i roi ei siâr ddyledus o’r arian i Gymru (er i ni gael ein sicrhau yn ystod yr ymgyrch y byddai pob ceiniog a ddaw i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd yn sicr o ddal i ddod trwy San Steffan).
Wedi dweud pob dim, nid y siom, na’r dicter hyd yn oed, a deimlwn fore Gwener yw’r hyn a fydd yn aros i mi. Nid y dadlau chwerw a glywyd chwaith, na’r addewidion gwag sydd eisoes yn cael eu torri. Yr un peth y byddaf yn ei gofio am y Refferendwm yw’r modd y perswadiwyd cynifer o bobl nad oes rhaid cymryd sylw o farn arbenigwyr o bob math. Pa ots beth ddywedai pobl wybodus a phrofiadol, yn cynnwys pobl fusnes, cyfreithwyr, pobl o’r byd ariannol, academyddion, a gwleidyddion hyd yn oed? Does arnom ddim angen yr arbenigwyr hyn. Onid ydym wedi cael llond bol arnyn nhw p’run bynnag? Onid yw barn y bobl, fy marn i a’ch barn chi, cystal os nad gwell na barn y bobl hyn? Y pryder yw nid bod pobl wedi anghytuno â’r hyn a ddywedai’r arbenigwyr (wedi’r cwbl, gall arbenigwyr anghytuno â’i gilydd), ond bod pobl wedi cael eu perswadio i anwybyddu arbenigwyr.
Ond mae’n debyg na ddylai neb fod wedi synnu o weld hynny’n digwydd. Oherwydd onid yw anwybyddu barn ‘arbenigwyr’ yn un o nodweddion ein hoes? Rydan ni’n gwybod yn well na chynghorwyr, cynllunwyr, athrawon, darlledwyr, a hyd yn oed feddygon. Ac mae hynny’n sicr yn wir am bethau crefyddol. Does dim angen neb arall arnom i ddweud wrthym beth i’w gredu na beth sy’n iawn. Pam fod rhaid gwrando ar rywun arall? Onid yw barn pawb cystal â’i gilydd?
O ran y Ffydd Gristnogol, nid yr un ohonom ni yw’r arbenigwyr ond Duw ei hun. Oherwydd nid yr hyn yr ydan ni yn ei feddwl na’i ddweud sy’n bwysig, ond yr hyn y mae Duw yn ei ddweud yn ei Air. A gwrthod derbyn fod angen gwrando ar hynny a wna cynifer o bobl heddiw.
Cliciwch yma http://www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mehefin, 2016