Mae braidd yn gynnar i wneud ffilm am Lywodraeth Theresa May. Ond os byth y gwneir un, mae’n bosibl mai rhywbeth fel ‘Laurel and Hardy a’r Three Musketeers’ fydd y teitl.
Un o benderfyniadau cyntaf y Prif Weinidog newydd oedd penodi’r tri musketeer i swyddi allweddol: Boris Johnson yn Ysgrifennydd Tramor; David Davis i arwain y trafodaethau ynghylch gadael Ewrop; a Liam Fox i ofalu am Fasnach Dramor. Bu’r tri’n arwain yr ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Mrs May o blaid aros yn Ewrop, ond ers y Refferendwm mae wedi parchu’r penderfyniad a wnaed. Ac fe gadarnhaodd hynny nos Fercher trwy ddweud mai ‘Brexit yw Brexit’. Fel gwleidydd profiadol, mae’n deall yn iawn mor gymhleth fydd y trafodaethau y bydd rhaid eu cael cyn gadael. Ac fel gwleidydd da, mae wedi gosod y cyfrifoldeb am y rhain, ynghyd â’r cyfrifoldeb mawr am ehangu cyfleoedd i gwmnïau Prydeinig fasnachu ym mhob cwr o’r byd, ar y bobl oedd o blaid gadael.
Beth bynnag ei chymhellion dros wneud y penodiadau hyn, mae Mrs May yn amlwg wedi gosod her i’r tri Brexiteer. Nhw, wedi’r cwbl, fu’n galw am y newid. Bron nad yw hi’n ategu geiriau cyson Hardy wrth ei gyfaill Laurel, ‘Well, here’s another nice mess you’ve gotten me into’. Nhw aeth â ni i’r twll hwn, mi gân nhw ddod â ni allan ohono hefyd! Mae Mrs May yn glyfar. Os na fydd y trafodaethau’n llwyddo, os na cheir telerau ffafriol, os na chwblheir Brexit ac os na ddaw ffyniant economaidd, ar y tri musketeer y bydd y bai. Os llwyddir, gall ei Llywodraeth hi hawlio’r clod.
Nid y byd gwleidyddol Prydeinig yw’r unig beth sydd mewn llanast. Gyda’i ryfeloedd a’i ragrith, ei anfoesoldeb a’i anghyfiawnder, ei derfysgaeth a’i drais, mae’r byd mewn llanast. Er na sylweddolwn hynny, ac er nad ydym eisiau cydnabod hynny, y mae ein bywydau ninnau hefyd mewn llanast oherwydd ein pechod yn erbyn Duw. Ond yn wahanol i’r hen Oliver Hardy, does gennym ni’r un Stan Laurel o gyfaill y gallwn ei feio am hynny. Arnom ni ein hunain y mae’r bai am y llanast yr ydym ynddo. Mae’n wir fod ym mhob un ohonom duedd naturiol i bechu sy’n golygu na allwn fyw yn berffaith, ond yr ydym hefyd yn dewis gwneud pethau sy’n anghywir yng ngolwg Duw. Rydym mewn twll o’n gwneuthuriad ein hunain.
Rhyfeddod Efengyl Iesu Grist yw ei bod yn dangos nad yw Duw wedi’n gadael i ddod o’r twll ar ein pen ein hunain. Nid yw’n ein herio i ddod o’r llanast yn ein nerth ein hunain; y mae wedi anfon ei Fab ei hun i ddelio â’r llanast ac i’n codi o’r twll yr ydym wedi ei gloddio. Ac yn wahanol i’r Brexiteers druan, sydd wedi eu herio i ddatrys eu llanast eu hunain, mae gan Gristnogion Waredwr sy’n fwy nag abl i’w tynnu o’r picl.
Cliciwch yma http://www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Gorffennaf, 2016
Dyma rifyn olaf Gronyn am y tro. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ddydd Sul, Awst 21, 2016.