Wedi cael ein gwala o etholiadau yr ochr yma i’r Iwerydd eleni, cawn hoelio’n sylw dros y ddeufis nesaf ar yr Etholiad Arlywyddol yr ochr draw. Nid ei bod yn fwriad gennyf i roi sylw wythnosol i’r syrcas honno chwaith. Ond wedi gweld y llun uchod y dydd o’r blaen, fedrwn i ddim peidio â gwenu a dweud rhywbeth amdano.
Ond dydi o’n llun da? Mae’n hen lun, cofiwch. Fe’i tynnwyd ddechrau 2005 ddiwrnod priodas Donald a Melania Trump. Dyna nhw’r pâr priod y naill ochr a’r llall i Hillary a Bill Clinton. Mae’r priodfab yn cyflwyno’r ddau i’w wraig newydd, a’r Clintons hwythau’n edrych yn llawn edmygedd arno yntau. Ac yn naturiol ddigon ar ddydd priodas mae pawb yn gwenu – a phawb yn ffrindiau.
Yng nghanol holl gecru’r ymgyrchu etholiadol, mae’r llun hwn yn hynod o ddiddorol. Be wnewch chi o’r ffordd y mae Mr Trump a Mrs Clinton yn lladd ar ei gilydd o’u gweld mor gysurus yng nghwmni ei gilydd yn y llun? Ai un ddrama fawr yw’r holl eiriau cas a glywsom eleni? Ydi’r ddau brif actor yn ffrindiau mynwesol wedi’r cyfan? Mae rhai wedi awgrymu hyd yn oed mai cynllwyn digywilydd fu ymgyrch drwsgl Trump er mwyn sicrhau y bydd y Clintons yn dychwelyd i’r Tŷ Gwyn.
Tipyn o embaras fu’r llun i garfan Hillary Clinton. Ceisiodd Bill Clinton gyfiawnhau’r llun trwy ddweud mai digwydd bod yn y cyffiniau oedd Hillary ac yntau adeg y briodas ac nad oedden nhw’n nabod Mr Trump yn dda o gwbl! Nid felly y mae Trump yn ei gweld hi. Mae o’n honni iddo wahodd Hillary i’r briodas ac nad oedd modd iddi hi wrthod dod am ei fod o’n cyfrannu’n hael at ei gwaith elusennol!
Ond wrth gwrs, mi allai’r llun fod yn debyg i’r lluniau hynny sy’n llechu yn albwm priodas llawer o bobl: lluniau o bobl y collwyd cysylltiad â nhw ers dydd y briodas Yn aml, amgylchiadau sy’n gyfrifol, wrth i hen ffrindiau fynd i wahanol gyfeiriadau. Ond ambell dro, collir y cysylltiad oherwydd rhyw ffrae neu ddadl a fu’n ddigon i chwalu perthynas a chyfeillgarwch. Mae wynebau cyfarwydd lluniau’r albwm wedi mynd yn wynebau dieithr, a gwên a chwerthin iach hen ffrindiau wedi troi’n eiriau cas neu’n fudandod styfnig gyda threigl y blynyddoedd.
Synnwn i ddim na welwn ni’r Trumps a’r Clintons yn gwenu o fewn yr un llun eto – wedi i’r Etholiad, mae’n debyg, yn arbennig os bydd rhyw elw gwleidyddol neu ariannol i’w ennill. Ond yn y byd go iawn, mae angen mwy na hynny. Pan fo perthynas wedi chwalu, mae angen cymod. Er mwyn cael hwnnw, mae angen edifeirwch; ac mae angen maddeuant. Ond cyn y ceir y pethau hynny, mae angen Efengyl; yr Efengyl sy’n ein cymodi â Duw ac yn gwneud cymod ag eraill yn bosibl. A lle bynnag y ceir y cymod hwn trwy Iesu Grist, ceir gwir berthynas o gariad yn hytrach na gwên a geiriau ffals.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Awst, 2016