Gwobrau

Picture1.png

O’r Ewros i’r Sioe Fawr i’r Eisteddfod a’r Olympics, haf o gystadlu brwd fu hi eleni.  Dathlwyd buddugoliaethau a llwyddiannau o bob math. Fwy na thebyg fod rhai wedi cael cam.  Roedd ambell un o’r bocswyr yn Rio er     enghraifft o’r farn fod beirniaid wedi eu hamddifadu o’r cyfle i ennill medal neu ddwy.  Ond ar y cyfan, roedd y buddugwyr mae’n debyg yn deilwng iawn o’r gwahanol dlysau a medalau a chwpanau a enillwyd ganddynt.

Ym mhob un o’r meysydd, daeth y clod  yn wobr am ymdrech ac ymroddiad. Y cwbl a welsom ni oedd y perfformiad terfynol, boed gân neu ddawns neu gamp.  Ond y tu cefn i’r cyfan roedd oriau – a blynyddoedd hyd yn oed – o ymarfer a pherffeithio crefft.  Petai’r holl dlysau’n cael eu rhoi am ymdrech ac ymroddiad, byddai’r rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn deilwng ohonyn nhw.  Ond hanfod cystadlu wrth gwrs yw bod rhai’n dod i’r brig ac yn ennill.  Yn y pen draw felly, y rhai sy’n ennill y ras neu’n canu orau neu’n neidio bellaf sy’n cael y gwobrau.

Un o’r pethau mwyaf godidog am y Ffydd Gristnogol yw ei bod yn cynnig gwobrau i’r anhaeddiannol.  Mae’n wir fod y Beibl, wrth ein hannog i fyw’r bywyd Cristnogol, yn cymharu’r    ymdrech honno ag ymdrech yr athletwr mewn ras.  Mae’n rhaid canolbwyntio ac ymroi’n llwyr.  Ni allwn ddilyn Iesu heb roi ein holl fryd ar wneud hynny. Wedi’r cwbl, dim ond yr un sy’n gwneud hynny all ennill y wobr.

Ac eto, nid ein hymdrechion ni yw dechrau’r stori o bell ffordd, ond gras Duw, gan fod y Beibl yn dysgu na all yr un ohonom haeddu ein lle yn nheulu Duw.  Chawn ni mo’n derbyn i deulu Duw trwy ein hymdrech a’n gwaith ein hunain.  Mae’n rhaid cofio nad oes dim ond perffeithrwydd yn bodloni Duw.  Ond waeth beth ein hymdrech, waeth faint o weithredoedd a wnawn, fyddwn ni ddim yn berffaith.  Fyddwn ni ddim yn deilwng o’r wobr.

Gras sy’n dod â ni i deulu Duw, a’r gras hwn yn golygu mai’r annheilwng sy’n cael y wobr.  Ie, y rhai sydd ddim yn haeddu hynny sy’n cael eu derbyn i deulu Duw.  Y collwyr, y rhai sy’n bell o fod y gorau, y rhai nad oes gobaith iddyn nhw ddod i’r brig sy’n cael y wobr, diolch am hynny.  Oherwydd onid dyna yw pawb ohonom ni?  Rhai sy’n bell o fod yn berffaith, ac yn dangos hynny bob dydd. Ond mae gras yn newid popeth, a’r annheilwng yn cael y cyfan.

Ond beth am yr ymdrech y mae’r Beibl yn sôn amdani?  Ai diangen a diwerth yw honno?  Ddim o gwbl.  Fe ddown i mewn i deulu Duw a chael gafael ar y bywyd Cristnogol trwy ras, heb ei haeddu o gwbl.  Ond yna, wedi dod i mewn, mae’n rhaid i’r Cristion wneud pob ymdrech i fyw’r bywyd hwnnw i’r eithaf.  Mae’r ymdrech yn dangos ein diolch am gael ein derbyn yn hytrach nag yn fodd o sicrhau’r derbyniad hwnnw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Awst, 2016

 

 

Picture1.png

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: