Fyddwch chi’n gwneud croeseiriau? Mae yna rai sy’n prynu papur newydd dyddiol er mwyn cael y croesair a dim arall. Neu beth am chwilair neu sudoku? Fyddwch chi’n prynu llyfr posau ac yn troi ato bob dydd yn ddeddfol? Neu fyddwch chi’n rhoi cynnig ar bosau a anfonir yn rheolaidd trwy Facebook neu Twitter, fel rhai mathemategol Gareth Ffowc Roberts o Fangor? Yr un peth sy’n gyffredin i bosau da o bob math yw bod rhaid rhoi’r meddwl ar waith ac ymdrechu i’w datrys. Ambell dro, daw’r ateb yn weddol rwydd; dro arall, ddaw o ddim o gwbl waeth faint o feddwl a wnawn. Ond rhwydd neu beidio, mae’n rhaid wrth ymdrech. Yn yr ymdrech y mae’r hwyl, â’r holl ymarfer hefyd mae’n debyg yn help i gadw’r meddwl yn iach ac effro.
Roedd Iesu Grist yn arfer gosod posau. Nid y math o bosau sy’n rhoi cymaint o bleser i bobl heddiw. Nid posau geiriol neu fathemategol i brofi ein gallu a’n deall a’n gwybodaeth a’n rhesymeg. Nid posau er difyrrwch ac i fyrhau’r amser. Gosod posau i’n goleuo ac i’n dysgu a wnâi Iesu yn ei ddamhegion. Nid adrodd straeon yn unig a wnâi, ond roedd i’r straeon hynny ystyr gudd. Ac wrth wneud hynny, roedd Iesu Grist yn gwneud yr hyn yr oedd Eseciel ac eraill wedi ei wneud yn yr Hen Destament.
‘Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, gosod bos a llefara ddameg wrth dŷ Israel, a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: daeth i Lebanon eryr mawr a chanddo adenydd cryfion, a’i esgyll yn hirion ac yn llawn plu amryliw’”’ (Eseciel 17:1–3). Darllenwch y bennod er mwyn gweld y pos llawn yr oedd Eseciel i’w osod i bobl Israel. Mae’r datrysiad yno hefyd, diolch am hynny.
Ond pam fod Duw yn gosod posau? Pam fod Iesu’n mynnu dysgu trwy ddamhegion? Pam na fyddai’n dweud pethau’n eglur, heb guddio’i neges mewn stori? Oni fyddai’n rhwyddach i bobl glywed ei neges petai’n siarad yn blaen? Onid oedd perygl na fyddai pobl yn deall ei neges os oedd y neges honno wedi ei chuddio mewn pos?
Ond dewis defnyddio damhegion a wnaeth Iesu er mwyn gorfodi pobl i feddwl am yr hyn yr oedd yn ei ddysgu. Os nad oedd pobl yn barod i chwilio, fydden nhw ddim yn dod o hyd i’r atebion. Heb i bobl geisio, fydden nhw ddim yn cael. Ac mae felly o hyd. Mae Duw am i ni fod o ddifrif gydag ef, ac un ffordd o wneud hynny ganddo yw’r parodrwydd hwn i wir geisio deall a gweld.
Gyda’r posau sydd mor boblogaidd heddiw, yn y chwilio a’r pendroni y mae’r hwyl a’r boddhad. Fel arfer, nid yw’r ateb o bwys mawr. Ond fel arall y mae hi efo’r Iesu a’r posau sydd yn ei ddysgeidiaeth. Nid y chwilio sydd bwysicaf ond yr ateb. Nid er mwyn ein difyrrwch y dysgodd Iesu ond er mwyn ein lles a’n hiachawdwriaeth dragwyddol.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Medi, 2016