Llwybr newydd

wp1cfde7fd_05_06

Tymor Newydd.  Dechrau newydd.  Plant bach yn mynd i’r ysgol am y tro cyntaf; plant mawr yn newid ysgol; athrawon yn croesawu to arall o blant; pobl ifanc yn mynd i’w swyddi cyntaf; myfyrwyr yn paratoi at fynd i’r coleg; ambell un yn cychwyn swydd newydd.  Eraill newydd ymddeol, ac am y tro cyntaf erioed heb ddychwelyd i’w gwaith wedi gwyliau’r haf.  Croeso, fis Medi.

I bawb sy’n wynebu amgylchiadau a her newydd o unrhyw fath, dymunwn bob llwyddiant.  Gall sefyllfaoedd dieithr beri pryder ac ansicrwydd, ond gallan nhw hefyd ddod â’u cyffro a’u disgwyliadau.  Os ydych yn cychwyn ar lwybr newydd y mis hwn, gobeithio y gwnewch chi fwynhau ei gerdded.  O bosib y bydd yn chwith heb rai pethau cyfarwydd a adawyd ar yr hen lwybr, ond gall pob her newydd ddod â’i hwyl a’i foddhad ei hun.

Ond pa newid bynnag a ddaw, a pha wahaniaeth bynnag fydd rhwng yr hen a’r newydd dros y misoedd nesaf, go brin y gellir eu cymharu â’r newid y mae’r Efengyl yn ei ddwyn.  Oherwydd rhoi bywyd newydd a wna honno.  Nid dod ag ambell beth newydd i’n bywydau, ond gwneud ein bywydau yn gwbl newydd.  Rhyfeddod yr Efengyl yw ei bod yn rhoi bywyd yn lle marwolaeth, goleuni yn lle tywyllwch, gobaith yn lle anobaith.  Daw’r cyfan i ni trwy yr Arglwydd Iesu Grist.  Trwy ffydd yn Iesu ceir bywyd newydd a gwell, nes bod yr hen fywyd – nad oedd ynddo’r lle pwysicaf i Dduw – yn colli ei werth a’i flas.  Y mae i’r  bywyd newydd ei gyffro, wrth i’r Cristion ddechrau byw i wasanaethu’r Gwaredwr am iddo ddod i weld fod hwnnw wedi ei garu ddigon nes iddo roi ei fywyd drosto.  Y sylweddoliad hwn fod Iesu wedi bod yn fodlon dioddef a marw dros ei bobl yw’r peth mwyaf cyffrous a brofodd y Cristion erioed.  Os na fu i’r neges hon am farwolaeth Crist erioed ddod â rhyw gynhesrwydd i’n calon, mae lle cryf i amau a ydym wedi dechrau dilyn Iesu o gwbl.  Mae’n debyg fod i bob perthynas ac antur newydd eu cyffro eu hunain, ac y mae hynny’n sicr yn wir am ein perthynas â’r Arglwydd Iesu Grist.

Ond gyda threigl amser fe all y cyffro bylu wrth i’r pethau a fu unwaith yn newydd fynd yn fwy cyfarwydd.  Pan ddigwydd hynny, gall pob mwynhad gael ei golli.  Ac os digwydd hynny gyda’r Efengyl, buan iawn y gall y Cristion golli’r blas a’r fendith a fu’n rhan o’r bywyd Cristnogol. Mor drist bob amser yw gweld hynny.

Ac eto mae gobaith, am fod Duw o hyd yn galw arnom i adnewyddu ein perthynas ag Ef.  Os pylodd ein golwg ar Iesu, ac os oerodd ein cariad ato, mae Duw yn ein gwahodd i gydnabod hynny ac i brofi o’r newydd ei fod yn maddau pob bai.  Y rhyfeddod mwyaf yw ein bod yn cael gwneud hynny bob dydd, er mwyn gweld newydd-deb parhaus gras, cariad a maddeuant Duw i ni yn ei Fab Iesu.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 04 Medi, 2016

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: