Be fedrwch chi ei wneud mewn 75 awr? Faint yn union yw 75 awr? Tri diwrnod a thair awr. A be fedrwch chi ei wneud mewn tri diwrnod a thair awr? Un peth y medrwch ei wneud, fel y gwelwyd yng Nghadeirlan Caerwynt (Winchester) yn ddiweddar, yw darllen y Beibl cyfan ar goedd yn ddi-stop. Cofiwch chi, nid un person oedd yn gwneud hynny, ond tîm o 150 o bobl yn darllen am 20 munud ar y tro.
Gallwn ymateb i hynny mewn un o ddwy ffordd. Ar y naill law, gallwn weld y Beibl yn llyfr anferthol os oes angen pob munud a phob eiliad o dri diwrnod cyfan i’w ddarllen. Ar y llaw arall, a ninnau o bosibl wedi arfer meddwl fod angen blynyddoedd i fynd trwyddo, gallwn synnu o ddeall bod modd gwneud hynny mewn tridiau.
Dwi ddim yn awgrymu y dylem fynd ati i ddarllen Y Beibl o glawr i glawr yn ddi-stop – heb fwyta na chysgu na gwneud dim arall – am dri diwrnod cyfan. Mae’n beryg y gwnâi marathon o’r fath fwy o niwed na lles i ni. Ond mae darllenwyr Caerwynt yn dangos fod darllen Y Beibl gryn dipyn haws nag a feddylia llawer o bobl. Mae cyfieithiadau newydd a modern, fel beibl.net yn Gymraeg, wedi gwneud y Beibl yn llyfr haws i’w ddeall hefyd. Bedwar can mlynedd yn ôl, fe gyfieithodd William Morgan Y Beibl i’r Gymraeg er mwyn i’r Cymry fedru ei ddarllen a’i ddeall yn eu hiaith eu hunain. Cyflawni’r un nod a wna beibl.net heddiw.
Ond wrth ddarllen Y Beibl, nid yw deall y geiriau yn gyfystyr â deall y neges. Gallwn ddeall pob gair heb ddeall yr un gair! Ond does dim rhaid i’r un ohonom fod heb gymorth i ddeall Y Beibl heddiw gan fod toreth o lyfrau ac adnoddau ar gael i’n harwain trwy’r llyfr hwn a’i neges. Un mudiad sy’n amlwg yn hyrwyddo’r Beibl yw Cymdeithas Y Beibl, sy’n cyhoeddi ystod eang o adnoddau i’n helpu i’w ddarllen a’i werthfawrogi. Mae hefyd yn trefnu Sul y Beibl yn flynyddol er mwyn pwysleisio gwerth y llyfr.
Yn swyddogol, y Sul diwethaf oedd Sul y Beibl, er bod rhyddid i eglwysi ei gynnal ar unrhyw Sul hwylus arall. Yn gam neu gymwys, wnes i erioed roi llawer o sylw i’r Sul hwn, gan feddwl, mae’n debyg, y dylai pob Sul fod yn ‘Sul y Beibl’. Nid llyfr ar gyfer un Sul neu un diwrnod ydyw, ond llyfr ar gyfer pob Sul a phob dydd.
Ond ai dyna ydyw? Onid y gwir yw iddo fod yn llyfr dieithr i lawer o bobl, o fewn ein capeli a’n heglwysi hyd yn oed? Un rheswm posibl dros hynny yw’r syniad poblogaidd fod angen blynyddoedd i’w ddarllen. Rheswm mwy tebygol yw bod pobl wedi rhoi’r gorau i’w ddarllen am nad ydynt yn ei ddeall. Mae cyfieithiadau newydd, yn golygu bod darllen Y Beibl yn haws nag erioed. A chyda’r holl adnoddau a llyfrau i’n helpu, fe ddylai hefyd fod yn haws nid yn unig i ddeall y geiriau ond i ddeall yr ystyr hefyd. Rhowch gynnig arni, gam wrth gam.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Hydref, 2016