Aberfan

aberfan

Doeddwn i ddim yn yr ysgol ar yr 21ain o Hydref, 1966.  Roedd hi’n wythnos y Diolchgarwch i ni yn Sir Gaernarfon, a’r dydd Gwener  hwnnw oedd diwrnod olaf y gwyliau hanner tymor.  Mewn rhannau eraill o’r wlad, yr wythnos ganlynol fyddai wythnos y gwyliau, ac roedd y plant yn yr ysgol fel arfer y diwrnod hwnnw. Yn yr ysgol fel y gwyddom yr oedd plant Aberfan y bore dychrynllyd hwnnw y llithrodd y domen lo i lawr y mynydd i’r pentref gan ddinistrio Ysgol Gynradd Pantglas a thai cyfagos, a lladd 116 o blant a 28 o oedolion .

Mae hynny hanner canrif union yn ôl erbyn hyn, a nodwyd y ffaith honno gan filoedd ar filoedd o bobl ar hyd ac ar led y wlad ddydd Gwener.  Cawsom ein hatgoffa trwy erthyglau a rhaglenni radio a theledu am ddigwyddiadau’r bore trasig a barodd i bentref Aberfan ddod yn hysbys i genedlaethau o bobl ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru.  Gwelsom luniau’r dinistr a achoswyd gan y gwastraff glo difäol, a chlywsom am y celwyddau a ddywedwyd gan rai a oedd yn arwain Y Bwrdd Glo wrth iddynt wadu pob cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd.  Mewn cyfweliadau o ddydd y trychineb, clywyd unwaith eto leisiau rhai o bobl Aberfan, ynghyd â phobl a frysiodd yno i geisio helpu, yn ymateb i’r trasiedi a’u goddiweddodd.  Clywsom hefyd rai o’r trigolion, yn cynnwys sawl plentyn a achubwyd o’r ysgol, yn sôn am y bore dychrynllyd hwnnw a’i gysgod poenus a pharhaus drostynt er hynny.

Hyd yr oedd yn bosibl, bu pobl ym mhob cwr o’r wlad (a thu hwnt) yn cydymdeimlo â phobl Aberfan hanner can mlynedd yn ôl, a byth ers hynny wrth gael eu hatgoffa am y trychineb.  Ail gyneuwyd y cydymdeimlad yr wythnos ddiwethaf wrth i ni nodi’r ffaith fod hanner canrif wedi mynd heibio.  ‘Hyd yr oedd yn bosibl’, meddwn, gan ei bod yn amhosibl i neb nad oedd yn rhan o’r gymuned honno, a hyd yn oed i neb na chollodd blentyn neu gƒâr y bore hunllefus hwnnw, wir ymdeimlo â’r boen a’r galar y mae ‘pobl Aberfan’ wedi gorfod ei ddwyn dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

Un peth a ddaeth yn amlwg o’r hanes a adroddwyd oedd bod eglwysi lleol a’u gweinidogion wedi bod yn amlwg iawn nid yn unig o ran dwyn cysur i bobl Aberfan yn eu galar yn dilyn y trasiedi, ond hefyd yn yr ymdrech hir i sicrhau bod y gwir – o ran cyflwr y domen – wedi ei ddatgelu yn y diwedd.  Diolch i Dduw am y nerth a roddodd i’r bobl hyn i wasanaethu yn enw’r Arglwydd Iesu Grist.

Un o gysuron mawr y Ffydd yw bod yr Arglwydd Iesu Grist yn deall pob poen ac yn gallu cydymdeimlo â’i bobl yn ei holl ofidiau.  Fe ddioddefodd ef ei hun anghyfiawnder mawr wrth iddo gael ei gyfrif yn droseddwr a’i osod ar groes rhwng dau leidr.  Mae’n gwybod beth yw galar a phoen ac yn cydymdeimlo â ni ym mhob angen.  Mae’n siŵr bod rhai o bobl Aberfan yn gwybod hynny ers hanner can mlynedd.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Hydref, 2016

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: