Gair y flwyddyn

main-image-544

Doedd hi fawr o gystadleuaeth a deud y gwir.  Cwmni cyhoeddi Collins, pobl y geiriaduron, a ddatgelodd restr fer o ‘eiriau Saesneg y flwyddyn’ y dydd o’r blaen.  Ac o weld mai geiriau fel hygge, sharenting, mic drop, throw shade a dude food oedd ar y rhestr, pa ryfedd mai Brexit a ddaeth i’r brig?  Ond os yw Brexit yn brifo’ch clustiau, yr unig gysur yw nad Trumpism a orfu ym myd y geiriadurwyr. Cawn weld ganol yr wythnos a fydd Trumpism yn air y bydd rhaid i’r byd cyfan gynefino ag o dros y blynyddoedd nesaf.

Un peth yw bathu gair. Peth arall yw dod â’r gair hwnnw i mewn i iaith bob dydd.  Mewn erthygl dro’n ôl, mi wnes i fentro bathu’r gair ‘llunfi’ am ‘selfie’.  Wnaeth o ddim cydio, a dechreuodd pawb ddweud ‘hunlun’ am y lluniau a gymeran nhw ohonyn nhw eu hunain â’u ffonau symudol.  Yn ôl y sôn, dyn o’r enw Peter Wilding a fathodd y gair Brexit mewn blog a ysgrifennodd ym mis Mai 2012.  Mi gydiodd y gair hwnnw, a daeth yn air cyfarwydd iawn dros y misoedd diwethaf.

Ond os mai un peth yw bathu gair a pheth arall yw cael pobl i’w ddefnyddio, peth arall wedyn yw diffinio’r gair hwnnw.  A dyna’r drwg efo gair y flwyddyn pobl dda Collins.  Oes rhywun a ŵyr beth yn union yw ystyr Brexit?  Ar ei fwyaf syml mae’n golygu rhywbeth fel ‘Prydain yn gadael Ewrop’. Ond beth yw ystyr hynny?  Mae’n dod yn fwy a mwy amlwg bob dydd nad oes neb yn gwybod beth y mae hynny’n ei olygu.  Roedd a wnelo fo rywbeth â sicrhau’r grym i Senedd San Steffan, ac eto mae pleidwyr Brexit yn gandryll am fod yr Uchel Lys (‘Uchel Lys Cyfiawnder ei Mawrhydi yn Lloegr’, cofiwch) wedi dyfarnu fod rhaid i’r Senedd honno gael trafod a bwrw pleidlais ynghylch ‘Cymal 50’ cyn dechrau ymwahanu.  Hyd y gwelaf, does neb dan haul yn gwybod beth yn union ydi ystyr y Brexit hwn y clywn gymaint amdano.

Tybed pa eiriau ddefnyddiwn ni amlaf yn ein haddoliad a’n cenhadaeth, ac wrth dystio i’n Gwaredwr Iesu Grist?  Mae gennym heb os lawer o hen eiriau a ddefnyddiwyd ers canrifoedd i fynegi ein cred ac i egluro ein ffordd o fyw.  Yn wahanol i’r hyn a ddywed rhai, does dim o’i le o gwbl ar yr hen eiriau hynny, yn cynnwys geiriau fel gras, cariad, trugaredd, maddeuant, aberth ac ati.  Does dim o’i le chwaith ar ddefnyddio geiriau newydd a chyfoes i egluro a chyfleu’r gwirioneddau hyn.  Ar bob cyfrif, down â geiriau newydd i’n hiaith Gristnogol Gymraeg.

Ond boed y geiriau’n newydd neu hen, mae dau beth yn angenrheidiol.  Rhaid i’r geiriau ac i’n defnydd ni ohonynt fod yn ddealledig.  Waeth i ni heb â siarad nac ysgrifennu am y Ffydd mewn geiriau nad ydym yn llwyddo i gyfleu eu hystyr i eraill.  A rhaid i’r geiriau fod nid yn unig yn ddealledig ond yn ffyddlon i’r gwirionedd a welir yn Y Beibl.  Gall y geiriau symlaf a mwyaf ystyrlon fod yn ddiwerth os nad ydynt yn driw i Air y Duw Byw.

 Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Tachwedd, 2016

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: