Golau ddydd

mary-joseph-journey-1

                                                        ©2010 GospelGifs

Yr un tri pherson; dwy daith debyg; ac un gwahaniaeth mawr.  ‘Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a’i fam gydag ef’; dyna a ddywedir ddwywaith yn ail bennod Efengyl Mathew (adnodau 14 a 21).  Y tro cyntaf, ‘ac ymadael i’r Aifft’; yr eildro, ‘a mynd i wlad Israel’.  Yr un bobl, Joseff a Mair a’u babi bach, yn mynd i’r Aifft ac yn dychwelyd oddi yno’n ddiweddarach.

A’r ‘un gwahaniaeth mawr’?  Craffwch ar y ddwy adnod, ac mi welwch fod y daith gyntaf honno i’r Aifft wedi bod ‘liw nos’.  Gorfu i Joseff a Mair ffoi ganol nos rhag Herod Fawr, a oedd yn ‘chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd’ (adnod 13).  Yr awgrym clir yw iddynt allu dychwelyd o’r Aifft gefn dydd golau gan y ‘bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn’ (adnod 20).   Ffoi ar frys liw nos, yn llawn ofn a phryder; a dychwelyd liw dydd, mewn rhyddhad a llawenydd mawr.

Clywsom eisoes y Nadolig hwnnw gymharu ffoaduriaid ein dydd ni â’r teulu bach hwn a ffodd o Fethlehem.  Heb os, gall Iesu, a wnaeth y daith gyntaf honno liw nos i’r Aifft, ddeall a chydymdeimlo â phoen y miloedd o bobl sydd wedi ffoi a gadael popeth yn eu hofn a’u hanobaith heddiw.  Mae’n gwybod beth yw bod yn ffoadur.  Ac a ninnau heddiw’n clywed cymaint am blant yn dioddef camdriniaeth o bob math, cofiwn fod Iesu’n deall hynny hefyd ac yn cydymdeimlo â’r rhai sy’n dioddef.

Ond nid cydymdeimlo yn unig a wna.  Mae hefyd yn cysuro a chynorthwyo.  A gweddïwn ninnau y bydd llawer o ffoaduriaid ein hoes ni yn gwybod am gysur a diddanwch Iesu y Nadolig hwn.  Yn bell o’u gwlad a’u cartrefi, boed iddynt gael Iesu Grist yn gyfaill agos ac yn Geidwad cryf.  Liw nos dywyll eu dioddefaint, diolchwn am bawb sy’n ymgeleddu unigolyn a theuluoedd o ffoaduriaid.  A gweddïwn y caiff pawb sy’n estyn y cymorth hwnnw yng nghariad a thosturi Iesu nerth a gras i wneud hynny er gogoniant Duw.

A gweddiwn hefyd y bydd i’r ‘liw nos’ flin a gormesol gilio ac y caiff miloedd ar filoedd o bobl y gorfodwyd iddynt ffoi wireddu eu dyhead i ddychwelyd ryw ddydd i’w gwledydd eu hunain (ac i’w cartrefi eu hunain hyd yn oed os na ddinistriwyd y cartrefi hynny eisoes yn y rhyfela didostur a gorffwyll y buom yn dyst iddo’r blynyddoedd diwethaf).  Yr un peth sy’n sicr yw y bydd, yn hwyr neu hwyrach, gwymp i bob teyrn a diwedd i bob teyrnasiad anghyfiawn.  Gweddiwn y digwydd hynny yn fuan i ormeswyr ein dyddiau ni, ac y gwelwn y rhai a orthrymir ac a erlidir heddiw’n profi heddwch a chyfiawnder newydd.

A thros y Nadolig hefyd, diolchwn mai baban Bethlehem yw’r Arglwydd a fydd yn gwared yn derfynol â phob ‘liw nos’ ein bywydau brau, gan y bydd pob ofn a dychryn, pob galar a phoen, ryw ddydd wedi ei ddileu, a golau ddydd y bywyd tragwyddol yn eiddo i bawb sy’n credu ynddo.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Rhagfyr, 2016

 

Coeden ddeugain

a-first-look-at-the-christmas-tree-outside-cardiff-castle

Mae’n debyg mai un o fanteision cael coeden Nadolig artiffisial yw nad oes angen penderfynu bob blwyddyn pa faint o goeden i’w phrynu.  “Ydi hon yn rhy fawr? Ydi hi’n rhy fach?  Ai tair troedfedd, ynteu bedair, ynteu chwech fyddai’n gweddu orau eleni?” 

Penderfynodd Cyngor Dinas Caerdydd logi ‘coeden ddeugain’ eleni; coeden artiffisial lliw aur â’i gwreiddiau yn China.  Cytunwyd i logi’r goeden dros y tri Nadolig nesaf am £10,000 y flwyddyn.  Roedd pobl y Brifddinas yn naturiol yn edrych ymlaen at weld y goeden ryfeddol 40 medr o uchder y tu allan i’r Castell yng nghanol y ddinas.    Byddai bron cyn uched â Thŵr Cloc mawreddog y Castell.

Wedi gosod y goeden, tipyn o embaras oedd sylweddoli mai 40 troedfedd oedd ei huchder, ac nid 40 medr, a hynny’n golygu, felly, ei bod deirgwaith yn llai nag a addawyd.  Mae’n anodd deall beth yn union a ddigwyddodd gan fod y Cyngor wedi ymddiheuro ar y naill law am y camgymeriad ac wedi mynnu ar y llaw arall mai coeden 40 troedfedd a fwriadwyd o’r cychwyn.  Hyd y gwelaf, y creadur bach a soniodd wrth y Wasg am 40 medr sy’n cael y bai.

Cafodd y Cyngor ei feirniadu a’i wawdio’n llym, nid yn unig am faint (neu ddiffyg maint) y goeden euraidd, ond hefyd am ei golwg.  Mae’n siŵr fod yna rai sy’n hoffi’r goeden.  (Gobeithio wir a hithau wedi costio £10,000 eleni!)  Ond mae eraill wedi eu siomi, a hwythau wedi disgwyl gweld coeden fwy o lawer.

Yn anorfod, caiff pobl eu siomi pan roddir gwybodaeth anghywir iddynt, neu pan na wireddir addewidion. Mor bwysig yw gofalu nad yw pobl yn cael eu siomi ym mhethau’r Ffydd.  Gall yr Eglwys eu siomi; gall gweinidog eu siomi; gall pob un ohonom eu siomi mewn gwahanol ffyrdd.  Ond nid yw’r Efengyl yn siomi neb, oherwydd ni all yr Efengyl, ac ni all y Ffydd siomi neb.  Mae’r Efengyl yn addo bywyd i bawb sy’n credu yn y Gwaredwr.  Mae Crist yn cynnig gobaith i bawb a ddaw ato.  Mae addewidion yr Efengyl yn gadarn, ac ni all Crist dorri ei addewid.

Ond y fath gyfrifoldeb sydd arnom i gyflwyno’r Efengyl a’r Ffydd yn ffyddlon, rhag i ni roi camargraff o’r hyn y mae Duw yn ei gynnig.  Mae wedi addo maddeuant pechodau, ond ni addawodd y byddai Cristnogion yn berffaith yn y byd hwn.  Mae wedi addo nerth a chymorth i wynebu pob math o flinderau, ond ni addawodd y byddai credinwyr yn osgoi trafferthion.  Ni addawodd y byddai popeth yn mynd o’n plaid bob amser, ond mae wedi addo ein cynnal a’n diddanu trwy’r cyfan a ddaw.  Ni addawodd ffortiwn i’r un ohonom, ond mae wedi addo’r cyfoeth mwyaf yn y nefoedd.

Nid yr Efengyl na’r Ffydd sy’n siomi, ond y camsyniadau sydd gan bobl yn eu cylch.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Rhagfyr, 2016

Parcio am ddim

12391272_951010984969702_44753597777180491_n

Dylai meysydd parcio Gwynedd fod yn llawnach nag arfer yr wythnosau nesaf wedi i’r cyngor sir gyhoeddi na fydd rhaid talu am barcio yn ei feysydd parcio’r penwythnos hwn a’r nesaf. Mae hynny’n ychwanegol at y cyfnod arferol o barcio am ddim cyn y Nadolig (rhwng Rhagfyr 15 a 27 eleni).

Gobaith Cyngor Gwynedd, fel pob  cyngor arall sy’n gwneud peth tebyg, yw y bydd rhagor o bobl yn ymweld â threfi a phentrefi’r sir i wneud eu siopa ’Dolig o gael parcio am ddim. Mae’n sicr fod busnesau lleol a siopwyr fel ei gilydd yn croesawu’r cyhoeddiad.  Mentraf ddweud y bydd maes parcio Doc Fictoria yng Nghaernarfon yn llawn am y tro cyntaf ers wythnosau!  Mae hwnnw wedi bod fwy na hanner gwag ers i’r Cyngor ddechrau codi tâl yno’n gynharach eleni. Does ond angen sylwi ar y newid a fu yn y maes parcio hwnnw i sylweddoli fod pobl yn hoffi rhywbeth am ddim! Ac efo’r holl wario dros y Nadolig, mae cael rhywbeth am ddim yn dod yn fwy pwysig.

Ydi, efo’r holl wario, mae’r Nadolig wedi mynd yn ddrud.  Nid mod i’n cwyno nac yn gwrthwynebu’r gwario hwnnw, cofiwch.  Fel y rhan fwyaf o bobl, rwy’n mwynhau derbyn a rhoi anrhegion; ac rwyf wrth fy modd efo’r goeden a’r addurniadau a’r bwydydd a’r teganau a’r llyfrau sy’n llyncu ein harian yr adeg yma o’r flwyddyn.  Ond mae yna rywbeth eironig ynghylch yr holl wario o gofio mai dathlu a wnawn ar yr ŵyl hon rodd fwyaf gwerthfawr Duw i ni, a honno’n rhodd a gawsom yn rhad ac am ddim.

Mi fydd yn braf cael parcio’n ddi-dâl dros gyfnod y Nadolig.  Ond nid bob amser y bydd pobl yn gwerthfawrogi cael pethau am ddim; ar brydiau, mae’n well gan bobl dalu.  Methiant fu ambell i gwrs neu gyngerdd di-dâl am fod pobl wedi meddwl mai pethau go sâl oeddent am eu bod am ddim.  Caed enghreifftiau o gynnig nwyddau am ddim i bobl, a neb yn eu hawlio; ac eto, yr un nwyddau’n cael eu prynu pan godwyd tâl amdanyn nhw.

Bendithion sy’n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim yw bendithion yr Efengyl.  Nid oes rhaid talu amdanynt; nid oes modd eu prynu.  Maddeuant; cariad a chymod â Duw; bywyd newydd, a gras i’w fyw; cysur mewn adfyd; gobaith a’r bywyd tragwyddol; rhoddion rhad yw’r cyfan.  Ni fedrwn eu haeddu.  Nid yw eu prynu yn opsiwn. Yr unig ffordd y medrwn feddiannu’r bendithion hyn yw eu derbyn fel rhoddion hael Duw i ni.  Ac er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni sylweddoli ein trueni a’n tlodi, a chydnabod na fedrwn ni fyth fod yn deilwng ohonyn nhw.  A chyn y derbyniwn ni’r bendithion hyn, mae’n rhaid gofyn amdanyn nhw.  Oherwydd y sawl sy’n eu ceisio sy’n eu cael.

Rhywbeth i’w groesawu a’i fwynhau yw cynnig rhad Duw; rhywbeth i’w dderbyn ac i ddiolch amdano, yn nhymor yr Adfent fel pob tymor arall.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 04 Rhagfyr, 2016