Byddwch yn onest rŵan! Dywedwch y gwir! Ydi enwau Mike McCurry, Joe Lockhart, Jake Siewert, Ari Fleischer, Scott McClellan, Tony Snow, Dana Perino, Robert Gibbs, Jay Carney a Josh Earnest yn gyfarwydd i chi? Pwy oedden nhw (neu pwy ydyn nhw), a pham sôn amdanyn nhw heddiw?
Daeth teyrnasiad Bernie Ecclestone dros fyd rasio ceir Fformiwla 1 i ben ddydd Llun. Bu’r deg uchod yn gyrru ceir Fformiwla 1 yn ystod y cyfnod y bu Ecclestone wrth y llyw. Am a wn i, yr un a ddaeth agosaf at ennill ras oedd Jake Siewert (ond yr unig reswm am hynny oedd bod ei enw mor debyg i Jackie Stewart!)
Fe gyhoeddwyd yr enwebeion ar gyfer seremoni’r Oscars ddydd Mawrth. Yn rhyfedd iawn, mae’r deg enw uchod ymhlith yr actorion a’r cynhyrchwyr a’r cyfansoddwyr a enwebwyd ar gyfer y gwobrau. Yn ôl y gwybodusion, mae Ari Fleisher yn siŵr o dderbyn Oscar am ei ran yn y ffilm La La Land.
A chyd-ddigwyddiad rhyfedd arall oedd mai dyma hefyd enwau deg o’r un barnwr ar ddeg yn Y Goruchaf Lys a gyhoeddodd ddydd Mawrth bod rhaid i Lywodraeth San Steffan ymgynghori â’r Senedd cyn gweithredu ‘Cymal 50’. Yr Arglwydd Lockart a’r Arglwydd Gibbs oedd dau o’r tri a oedd yn anghydweld â’r wyth arall yn hyn o beth.
Ie, deg enw diddorol, am sawl rheswm.
Fyddwn i ddim wedi medru tynnu sylw at hyn oll heb yr ysbrydoliaeth a ddaeth oddi wrth un dyn arall a fu yn y newyddion yr wythnos ddiwethaf, yr annwyl a’r dibynadwy Sean Spicer. Oni bai am ei gyngor a’i esiampl, mi fyddwn wedi meddwl ddwywaith cyn dod â’r ffeithiau hyn i’ch sylw. Ond mae Mr Spicer, Ysgrifennydd Y Wasg newydd Y Tŷ Gwyn, wedi dangos nad oes raid i bethau a gyhoeddir fod yn wir. Yn ei ddatganiadau cyntaf ar ran ei Arlywydd newydd cyhoeddodd Spicer sawl celwydd, ond gan fynnu er hynny bod Donald Trump yn eu credu. Yn niffyg unrhyw brawf, ac yn wyneb pob tystiolaeth i’r gwrthwyneb, daliai Spicer i ddatgan fod yr Arlywydd ei hun yn credu bod y pethau hyn yn wir. Peth gwirioneddol frawychus yw’r Spiceriaeth sy’n caniatáu i arlywydd a’i was droi celwyddau’n wirioneddau, a chondemnio a thawelu unrhyw un sy’n meiddio tynnu sylw at y peth.
Nid yw’r ffaith ein bod ni’n credu pethau o reidrwydd yn golygu fod y pethau hynny’n wir. Gallwn gredu pethau’n ddiffuant, a bod yn anghywir. Dyna pam fod angen i’n syniadau am Dduw a Christ fod yn gyson â’r hyn a ddywed Duw ei hun yn ei Air. Gallwn arddel pob math o syniadau anghywir, a’u credu’n angerddol, ond os ydynt yn groes i’r hyn a ddatguddiodd Duw yn ei Air, anwireddau Spiceraidd ydynt hwythau. A’r deg enw uchod? Deg Ysgrifennydd y Wasg blaenorol y Tŷ Gwyn. A dyna’r gwir. Wir i chi!
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Ionawr, 2017