Dwynwen

churchruins

“Nid yw hon ar fap
Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn …”

Dyna ddywed T H Parry-Williams am ‘Hon’ yn ei soned fawr.  Cymru oedd ‘y cilcyn o ddaear’, y ‘fangre’ na allai’r bardd ddianc rhagddi. Ac fel y bardd, gwyddom ninnau fod ar ‘libart’ ein gwlad gymunedau bach a mawr; rhai ohonynt yn annwyl a chyfarwydd, ac eraill yn fwy dieithr i lawer ohonom.

Dwy o’r cymunedau anghyfarwydd a dieithr hynny i mi yw Cerrigceinwen a Llanddyfnan.  Yn Sir Fôn y mae’r ddau le; y naill ger Llangristiolus a’r llall rhwng Pentraeth a Thalwrn. Ac yno, yn ddigon naturiol hefyd, y mae eglwysi hynafol Llangeinwen a Llanddyfnan.  Mae’n bosibl fod yr ail o’r ddwy wedi cau erbyn hyn gan nad oes sôn amdani, hyd y gwelaf fi beth bynnag, ar wefan Yr Eglwys yng Nghymru.  Mae’n bosib mai camgymeriad yw hynny a bod yna bobl yn dal i addoli yn Llanddyfnan.

Beth bynnag yw hanes Llangeinwen a Llanddyfnan heddiw, un eglwys ym Môn sy’n bendant wedi cau ers talwm yw Eglwys y Santes Dwynwen ar Ynys Llanddwyn.  I’r ynys fechan honno mae’n debyg yr ymgiliodd Dwynwen yn y bumed ganrif i sefydlu cell neu eglwys fechan ac i fyw fel lleian.  Yn ôl y sôn, roedd Dwynwen wedi dewis encilio yn dilyn siom fawr a brofodd ar ôl iddi syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill. Mae sawl fersiwn i’r stori.  Yn ôl un, roedd ei thad, y brenin Brychan Brycheiniog, wedi gwahardd Dwynwen rhag priodi Maelon; yn ôl fersiwn arall, roedd ei chariad wedi ei threisio am ei bod hi’n gwrthod cysgu ag ef cyn iddynt briodi.  Beth bynnag a ddigwyddodd, dewisodd Dwynwen beidio â phriodi, a’i chysegru ei hun i Dduw ac i wasanaethu cariadon yr  oesoedd. Dan ddylanwad y Diwygiad Protestannaidd, rhoes y mwyafrif o bobl Cymru’r gorau i weddïo at saint fel Dwynwen. Ond ddiwedd yr ugeinfed ganrif, cafodd Dwynwen ei lle eto, fel nawddsant secwlar cariadon Cymru; a dydd Mercher (Ionawr 25) bydd cyfle i roi cerdyn neu anrheg yn ei henw.

Ond cyn cloi, dowch nôl i Langeinwen a Llanddyfnan.  Yn ôl y sôn, roedd Brychan yn frenin duwiol a oedd o blaid y Ffydd a’r Eglwys Gristnogol.  Roedd ganddo lond tŷ go fawr o blant – hyd at ddeugain neu fwy ohonynt!  Dau o’r plant hynny oedd Ceinwen a Dyfnan, ac yn ôl yr hanes, bu’r brawd a’r chwaer yn teithio o amgylch y wlad gyda Dwynwen yn rhannu newyddion da’r Efengyl cyn iddi encilio i’r ynys; a sefydlodd Ceinwen a Dyfnan eglwysi o fewn y cymunedau y codwyd, ymhen canrifoedd, y ddwy eglwys hyn sy’n dwyn eu henwau.

Gwnewch a fynnwch o Ddydd Santes Dwynwen.  Gwell hwn i Gymry na Dydd San Ffolant! Ac eto, rheitiach na dyrchafu ‘Dwynwen y cariadon’ yw cofio a diolch am ‘Dwynwen, Ceinwen a Dyfnan yr Efengyl’ a fu’n cyhoeddi cariad Duw yng Nghrist i’w pobl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Ionawr, 2017

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: