Y mae i Dŷ’r Arglwyddi ei wendidau. Mae hynny’n amlwg. Byddai rhai’n falch o’i weld yn diflannu am byth am ei fod yn llawn o bobl nad oes neb wedi eu hethol; am fod rhagor nag un o bob deg ohonyn nhw wedi etifeddu’r hawl i fod yno; ac am fod cymaint o bobl gyfoethog wedi llwyddo i ‘brynu’ sedd yno. Ond er pob beirniadaeth, dadlau dros ddiwygio’r sefydliad a wnaiff y mwyafrif am eu bod yn credu fod ‘ail dŷ’ neu ail siambr seneddol yn angenrheidiol, er mwyn craffu ar y deddfau a wneir yn Nhŷ’r Cyffredin a gwella arnynt. Ers cenedlaethau, mae Prydeinwyr o bob lliw gwleidyddol wedi hawlio mai San Steffan yw’r enghraifft odidocaf o ddemocratiaeth, ac wedi mynnu mai dyma’r safon a’r esiampl i holl wladwriaethau’r byd. Dan y drefn hon, mae’r ‘arglwyddi’ yn cyflawni swyddogaeth holl bwysig. Dyna ydym ni i fod i’w gredu beth bynnag. Neu, dyna oeddem i’w gredu.
Yr wythnos ddiwethaf, roedd yr ‘arglwyddi’ yn trafod ‘Mesur [Hysbysiad i Adael] Yr Undeb Ewropeaidd’ Llywodraeth Theresa May sef, y Bil Brexit bondigrybwyll. Roedd 190 o’r ‘arglwyddi’ eisiau cyfrannu at y drafodaeth (bron i chwarter aelodaeth y Tŷ). Pa sylwadau fydden nhw yn eu gwneud? Pa ddiwygiadau fydden nhw yn eu hawgrymu? Y disgwyl o du’r Llywodraeth oedd na fydden nhw’n gwneud dim o’r fath beth! Ac er mwyn pwysleisio hynny, roedd Theresa May yno ar ddechrau’r drafodaeth i fwrw golwg fygythiol drostyn nhw. Y fath ragrith! ‘Clodforwn, gwarchodwn, dyrchafwn Dŷ’r Arglwyddi; ond na foed i’r arglwyddi hynny feiddio gwneud eu gwaith na dweud unrhyw beth nad ydym ni eisiau ei glywed.’
Ie, rhagrith llwyr. Ond rhagrith sydd, gwaetha’r modd, yn medru bod mor agos atom ninnau. Yn ei lythyr at yr Effesiaid dywed yr Apostol Paul, ‘un Arglwydd [sydd] … un Duw a Thad i bawb’ (4:5-6). Ond mor rhwydd yw trin Arglwydd Dduw y nef a’r ddaear yn union fel roedd Mrs May yn trin arglwyddi’r Senedd. Clodforwn, gwarchodwn, dyrchafwn enw Duw. Ond mor aml y gwrthodwn blygu i’w ffyrdd, ac mor rhwydd y gwrthodwn wrando ar yr hyn a ddywed. Credwn ynddo gan ei arddel yn Arglwydd ein bywydau. Mae hynny’n ddigon hawdd. Anos o lawer yw derbyn mai gan yr Arglwydd hwn y mae’r hawl i ddweud wrthym ni sut i fyw. Mor rhwydd yw edrych yn fygythiol ar yr Arglwydd sydd am fod yn ben ac am reoli ein mynd a dod beunyddiol. Pam ddylem ni wrando ar Dduw, mwy nag ar unrhyw un arall? Pam na chawn ni benderfynu beth i’w wneud?
Mae’n debyg y dylem ddiolch i Mrs May. Oherwydd trwy ei rhagrith a’i hyfdra a’i hamarch digywilydd gerbron yr arglwyddi roedd y Prif Weinidog yn ein hatgoffa o’r perygl mawr i ninnau beidio â rhoi’r parch dyladwy i’r Un a’r Unig Wir Arglwydd.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Chwefror, 2017