Pantycelyn

2_gcf02563-2

Rwy’n eiddigeddus o Gristnogion sy’n deall i’r dim bwysigrwydd hanes ac yn gwybod sut i edrych ar ddigwyddiadau a phobl y Ffydd o’r gorffennol pell ac agos. Nid pawb sy’n meddu’r ddawn.

Mae rhai’n arbennig o dda am gofio ac adrodd stori’r blynyddoedd a fu, ond yn llwyddo rywsut i gadw’r cyfan yn daclus yn y llyfrau hanes.  Mae gwerth i wybod y stori, wrth gwrs, ond mae’n biti mawr os nad yw’r stori honno’n amlwg yn berthnasol i’n cyfnod ni.

Mae eraill yn euog o anghofio, neu’n hytrach o anwybyddu hanes cyfoethog y Ffydd. Anwybodaeth neu dwpdra sy’n gyfrifol am hynny yn achos pobl sy’n credu nad oes unrhyw werth mewn dysgu am yr hyn a ddigwyddodd yn hanes yr eglwysi yma yng Nghymru ac yn y byd mawr mewn cyfnodau blaenorol.  Yr unig beth sy’n cyfrif i bobl felly yw’r presennol, a’r unig bobl sy’n cyfrif yw’r bobl sy’n dwyn eu tystiolaeth i Grist heddiw.

Yn achos eraill, adwaith yn erbyn y math o hanes sy’n gwneud y gorffennol yn amherthnasol sy’n gyfrifol am y duedd i anwybyddu stori fawr y Ffydd.  Er cymaint y sôn am ddigwyddiadau a diwygiadau, am ddiwygwyr a chyfieithwyr, am saint a phregethwyr, ac am gyfnodau euraidd y blynyddoedd gynt, mae rhywbeth digalon ynghylch y cyfan os rhoir yr argraff mai perthyn i’r gorffennol yn unig y mae’r pethau hyn.  Mae llawer wedi troi cefn ar yr hanes am iddynt deimlo fod adrodd y stori’n cyfyngu’r Ffydd i lyfrau hanes.  Yn hytrach na byw yn y gorffennol, maen nhw’n mynnu byw a thystio heddiw.

Mae dathliadau 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn yn gyfle arbennig i ni ddeall gwerth cofio ac adrodd hen, hen hanes y Ffydd yn ein gwlad. Tybed glywsoch chi’r rhaglenni a ddarlledwyd ar Radio Cymru y Sul diwethaf am y gŵr o Sir Gaerfyrddin a ddaeth yn un o arweinwyr ac yn brif emynydd Methodistiaid y ddeunawfed ganrif?  Trwy raglenni o’r fath, a thrwy erthyglau a llyfrau a gyhoeddir dros yr wythnosau nesaf, cawn gyfle newydd gobeithio i werthfawrogi bywyd a gwaith Pantycelyn, a’i gyfraniad mawr nid yn unig i’w oes ei hunan ond i bob oes a’i dilynodd, gan ei fod trwy ei emynau yn fwyaf arbennig yn siarad am brofiadau pob oes ac am Efengyl sy’n diwallu anghenion pob oes.  Mae ei emynau’n dangos y neges a daniodd genedl a’r profiadau a fu’n gynhaliaeth i genedlaethau o Gristnogion a fu’n canu gydag ef am groes a gras, cariad a maddeuant, ofnau a gobaith, nefoedd ac uffern.  Heb ei neges, nid oedd – ac ni fyddai – Pantycelyn yn neb o bwys.  Ond nid oedd y neges honno’n fwy perthnasol, na’i eiriau’n fwy dealledig i bobl ei oes nag i bobl yr un cyfnod arall.  Nid oedd Cymry’r ddeunawfed ganrif yn fwy cyfarwydd na ni â phechod a gras a’r iachawdwriaeth fawr.  Y Duw mawr a wnaeth y cyfan yn fyw iddynt, a’r un Duw all eu gwneud yn fyw i ninnau.  Ac onid dyna werth hanes?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Chwefror, 2017

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: