Mae’r bunt yn werth tipyn llai ers i Mrs May gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf y bydd, ddydd Mercher, yn anfon llythyr at yr Undeb Ewropeaidd i gychwyn y drafodaeth ynghylch telerau gadael yr Undeb. Chewch chi ddim cymaint o ddoleri’r America wrth gyfnewid eich punnoedd erbyn hyn. Mae hynny’n golygu y bydd eich gwyliau nesaf yn Efrog Newydd yn ddrutach, yn union fel y bydd prynu nwyddau o dramor yn ddrutach i gwmniau a busnesau.
Mae hefyd yn golygu bod y ffortiwn a addawyd i mi fore Gwener yn llai o werth nag a fuasai wythnos yn ôl. Ond gan ein bod yn sôn am naw miliwn a hanner o ddoleri, wna i ddim poeni’n ormodol. Naw miliwn a hanner; dyna’r swm a adawyd i mi (yn ôl yr e-bost a ddaeth acw ddydd Gwener) yn ewyllys Mr Enok, hen berthynas i mi na wyddwn ddim oll am ei fodolaeth. Roedd y bargyfreithiwr a anfonodd yr e-bost yn pwyso arnaf i gysylltu ag o. Yr unig bwyso wnes i oedd gwasgu botwm ‘Delete’ y cyfrifiadur er mwyn gwared â’r neges ar unwaith. A dyna, gobeithio, y bydd pawb ohonoch yn ei wneud bob tro y cewch chithau neges o’r fath.
Mae’r negeseuon hyn yn dangos y gwaethaf am y ddynoliaeth. Eu hunig fwriad yw twyllo a lladrata. Tristwch pethau yw bod rhai’n ymateb iddynt, o ran cywreinrwydd efallai, neu’n fwy tebygol trwy gamgymeriad. Dylai’r straeon am bobl yn colli cannoedd a miloedd o bunnoedd fod yn ddigon o rybudd i bawb ohonom i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag y twyll hwn. Mor ffiaidd y gall pobl fod, yn treulio’u hamser yn anfon negeseuon at bobl cwbl ddieithr gan obeithio dwyn eu harian. Peidiwch, da chi, â chael eich temtio i wneud unrhyw beth ond gwasgu ‘Delete’ pan welwch neges debyg.
Yn nhymor y Pasg, cawn ein hatgoffa o’r ffordd y gwnaeth Iesu ymateb i’r twyll a welodd yn nheml Jerwsalem. Mewn rhyw ffordd, roedd yntau’n gwasgu’r botwm ‘Delete’ wrth droi byrddau’r cyfnewidwyr arian anonest a’u hanfon o’r deml gyda’r bobl oedd yn codi crocbris am anifeiliaid yr oedd pobl yn eu haberthu yn yr addoliad. Mae’r hyn a wnaeth yn dangos ei fod yn ffieiddio’r twyll. Ac nid y twyll hwn yn unig; roedd drygioni o bob math yn ffiaidd yn ei olwg.
Nid y twyll ariannol oedd y prif beth yr oedd Iesu’n ymateb iddo ond y twyll crefyddol oedd yn halogi’r addoliad. Gwelai bobl yn camddefnyddio’r deml a’i chrefydd a’i haddoliad i’w dibenion eu hunain. Aethai addoliad gonest yn ddieithr iawn i’r bobl oedd yn arwain yn y deml; ac roedd parch at Dduw a’i gyfraith wedi ei golli. Y prawf amlwg o hynny oedd bod y bobl hyn yn credu y medrent addoli Duw a chynllwynio’r un pryd i ladd Iesu. A’r un yw ymateb yr Arglwydd Iesu bob amser i addoliad gwag. A dyna pam y diolchwn eto heddiw am y gras sy’n ein galluogi i roi i Dduw addoliad cywir a gonest.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mawrth, 2017