Magwyrydd

Caerwent_RO

                                          Magwyrydd Rhufeinig Caerwent

Cyfres radio hynod o ddifyr ydi ‘Hanes yr Iaith mewn 50 Gair’ a gyflwynir gan Ifor ap Glyn. Dysgwn lawer am ystyr a tharddiad geiriau wrth wrando ar Ifor yn eu trafod yn ddeheuig. Chlywais i mo bob rhaglen a ddarlledwyd hyd yma, ond rwy’n tybio nad yw Ifor wedi rhoi sylw i’r gair ‘magwyrydd’ a geir yn emyn mawr Moelwyn Hughes a ganwyd lawer gwaith gan y mwyafrif ohonom.

Os cofiwch, mae tri phennill cyntaf yr emyn yn agor gyda chwestiwn: ‘Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn?’  Daw’r ateb pendant yn y pennill olaf:

‘Iesu a’m dwg i’r ddinas gadarn,

Derfydd crwydro’r anial maith,

Canu wnaf y gainc anorffen

Am fy nwyn i ben fy nhaith;

Iachawdwriaeth

Ydyw ei magwyrydd hi.’

Wedi’r datganiad clir mai Iesu Grist yw’r un a ddaw â ni i’r ddinas gadarn, daw’r emyn i’r uchafbwynt a ganwyd gydag arddeliad mawr gan fwy nag un gynulleidfa dros y blynyddoedd:

‘Iachawdwriaeth

Ydyw ei magwyrydd hi.’

Ond beth yw ystyr ‘magwyrydd’? Ai fi ydi’r unig un sydd wedi canu’r pennill hwn heb sylweddoli beth yn union a ddywed y llinell olaf?  Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, lluosog ’magwyr’ yw ’magwyrydd’; ond a bod yn onest, ’doedd gweld hynny o fawr help i mi gan  fod ‘magwyr’ hefyd yn air dieithr.  Mae’r Geiriadur yn cynnig mwy nag un ystyr i’r gair hwnnw. Un ystyr yw ‘colofn sgwâr o wair’, ond mae’n amlwg nad dyna’r ystyr yn yr emyn.  Ystyr arall y gair ydi ‘mur’ neu ‘wal’. Gall y wal (medd y Geiriadur) fod yn ‘adfail’ neu ‘furddun’.  Ond gall hefyd fod yn ‘amddiffynfa’ a ‘gwrthglawdd’; a dyna’n sicr ei ystyr yn yr emyn hwn am ‘y ddinas gadarn’.

Sôn am hyfrydwch y nefoedd a wna’r emyn, a’i neges fawr yw mai Iesu Grist yw’r ffordd i gartref tragwyddol y Cristion.  Yr iachawdwriaeth, sef yr achubiaeth a sicrhaodd Iesu Grist i’w bobl trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad, yw diogelwch y Cristion.  Mae gwaith achubol Iesu Grist yn wrthglawdd sy’n ei amddiffyn rhag popeth a fyddai fel arall yn ei rwystro rhag profi’r bywyd tragwyddol.

Mae’r emyn yn nodi rhai o fendithion y nefoedd: ‘lle mae Duw’n arlwyo gwledd’; ‘caf rodio’i phalmant aur’; ‘lle mae pawb yn llon eu cân’ a ‘lle caf nerth i fythol fyw’.  Sail ein gobaith am hyn oll yw’r hyn a wnaeth Iesu; ei farwolaeth a’i atgyfodiad yw muriau amddiffynnol y ddinas gadarn y canwn amdani. Addewid yr Efengyl yw bod pob Cristion yn gwbl ddiogel am fod maddeuant a chymod wedi eu sicrhau trwy aberth Crist. A’r iachawdwriaeth hon a fydd yn amddiffynfeydd cadarn i bawb sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu.

Iachawdwriaeth

Ydyw ei gwrthgloddiau hi.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Mawrth, 2017

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: