Mae’n dymor etholiad. Yn Ffrainc, maen nhw ar ganol ethol Arlywydd. Yma, mae’n Etholiad y Cyngor Sir ddydd Iau. Ymhen mis cawn Etholiad Cyffredinol arall, ac fe ganwn:
Daw hyfryd fis,
Mehefin cyn bo hir,
A dyma brysurdeb
Etholiad yn ein tir.
Braf yn ein tir,
Braf yn ein tir,
Cyffro, cyffro, cyffro’r
Etholiad yn ein tir.
Yn anorfod, fel ym mhob etholiad, bydd rhai yn ennill ac eraill yn colli.
Mae diwedd tymor yn agosáu i dimau pêl droed a rygbi. Ac fel ar ddiwedd pob tymor arall, bydd rhai yn ennill a rhai yn colli.
Profiad diflas ydi colli bob amser, boed ar gae chwarae neu ar lwyfan etholiad. Un perygl amlwg i Gristnogion yng Nghymru heddiw yw’r temtasiwn i gredu mai collwyr ydym. Mae cymaint ohonom wedi digalonni ac wedi mynd i feddwl nad oes unrhyw obaith y gwelwn ni ddim ond parhad y dirywiad yr ydym wedi bod yn dystion iddo dros ran helaethaf ein bywydau. Wnawn ni ddim ein diflasu ein gilydd heddiw trwy fanylu am y dirywiad hwnnw. Digon yw dweud bod y cyfan yn gwneud i ni deimlo’n aml fod tranc yr eglwysi’n anorfod ac nad oes unrhyw bosibilrwydd o gwbl y gwelwn ni ddim ond dirywiad pellach.
Beth bynnag a ddaw o’r gyfundrefn a etifeddwyd ac o’r eglwysi yr ydym yn aelodau ohonynt ar hyn o bryd, mae’n gwbl hanfodol fod disgyblion Iesu Grist yn cofio mai buddugwyr ydym. ‘Ond i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist’ (2 Cor. 15:57). Buddugoliaeth yw honno, meddai Paul yma, dros bechod, dros lygredigaeth a hyd yn oed dros farwolaeth.
Y Crist atgyfodedig yw ein gobaith a’n grym, a hynny nid yn unig ar gyfer y bywyd tragwyddol sydd i ddod ond ar gyfer bywyd yr Eglwys yn y byd sydd ohoni. Mae’r grym a gododd Iesu o’r bedd ar waith o hyd yn yr Eglwys trwy’r Ysbryd Glân. Ond rhan o dwyll y Diafol yw nad ydym yn deall hynny. A’r tristwch yw nid yn unig nad ydym yn credu y bydd Duw’n bendithio’i waith yn y dyfodol ond ein bod hefyd yn ddall i’r pethau y mae’n eu gwneud yn y presennol. Oherwydd nid stori methiant a dirywiad yn unig sydd i’w hadrodd heddiw, hyd yn oed yma yng Nghymru. Y mae Duw wrth ei waith, ac un arwydd grasol o hynny oedd yr holl bobl ifanc a welwyd yng ngŵyl LLANW yng Nghricieth wedi’r Pasg yn addoli ac yn tystio i’w ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Mae’r Efengyl yn dal yn rymus; mae’n dal i ddenu. Peidiwn â choelio’r lleisiau sy’n dweud mai collwyr sy’n glynu wrthi ac yn dal i arddel Y Beibl a’r Ffydd.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Ebrill, 2017