Dydi Manceinion ddim yn bell oddi wrthym yn y rhan hon o Wynedd. Ond rywsut, nos Lun diwethaf roedd hi’n nes o lawer. Fwy na thebyg bod rhai ohonoch wedi bod mewn cyngerdd neu ddigwyddiad arall yn yr union Arena y lladdwyd 22 o bobl a phlant ac yr anafwyd degau’n ddifrifol gan yr hunan fomiwr ar ddiwedd y cyngerdd nos Lun. Mae’n bosibl iawn fod rhai ohonoch yn adnabod rhywun a oedd yno, neu hyd yn oed eich bod chi eich hun yno. Pan fo’r erchyllterau hyn yn digwydd o fewn tafliad carreg i ni mae’n naturiol ein bod yn dychryn fwy fyth. Gweddïwn dros y teuluoedd a gollodd anwyliaid; gweddïwn dros y bobl a’r plant sy’n dal mewn ysbyty, a’u teuluoedd hwythau; a gweddïwn dros bawb a anafwyd a phawb sydd wedi eu hysgwyd a’u dychryn gan yr ymosodiad mileinig diweddaraf hwn.
Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros yr hyn a ddigwyddodd y noson o’r blaen. Mi fyddai pawb a oedd yn yr Arena yn dweud hynny, ac mae pawb ohonom ninnau’n sicr yn cytuno. Ac mae’n sicr fod y gwleidyddion sydd yng nghanol eu hymgyrchu etholiadol yn cytuno nad oes modd cyfiawnhau ymosodiadau annynol sy’n niweidio a lladd plant a phobl ifanc ac oedolion cwbl ddiniwed. Pa blaid bynnag maen nhw’n perthyn iddi, maen nhw i gyd yn condemnio’r lladd ac yn datgan nad oes gyfiawnhad drosto. Mae hynny’n wir am Michael Fallon, Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth San Steffan ac am Jeremy Corbyn, Arweinydd y Blaid Lafur, fel ei gilydd; a thros y dyddiau diwethaf clywyd y ddau hyn a llu o wleidyddion eraill yn gwneud yr union beth yna.
Ond nid dyna mae Michael Fallon am i chi gredu. Wedi condemnio’r lladd, awgrymodd Jeremy Corbyn na ellir anwybyddu’r cysylltiad posibl rhwng y ‘Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth’ mewn gwledydd fel Irac a Lybia a Syria a’r ymosodiadau terfysgol yng ngwledydd y Gorllewin ac yma ym Mhrydain. Ac awgrymodd hefyd nad yw’r ‘Rhyfel’ hwnnw yn gweithio a bod rhaid wrth ffyrdd newydd o ddelio â’r derfysgaeth sy’n bygwth ein byd. Nid oedd Corbyn yn awgrymu am eiliad fod esgus dros y lladd nos Lun; nid oedd yn awgrymu chwaith mai ar unrhyw beth a wnaeth unrhyw lywodraeth yr oedd y bai, ond ar y dyn a gariodd y bom ac unrhyw un a fu o bosibl yn ei helpu.
Pechod yw problem fwyaf y byd, ac mae’r pechod hwnnw ynom i gyd. ‘O’r galon’ meddai Iesu ‘y daw cynllunio drygionus, llofruddio’ a phob math o bethau drwg eraill. Rydym yn pechu, meddai, am fod ein calonnau’n ddrwg. Ond mae amgylchiadau a phob math o ddigwyddiadau’n tanio’r pechodau neilltuol y bydd pobl yn eu gwneud. Mae pob math o bethau hefyd, yn cynnwys y cyfiawnder a’r daioni a geir mewn cymdeithas, yn atalfa ar bobl rhag gwneud drygioni. Mae Corbyn yn deall hynny ac yn cydnabod nad yw drygioni’n digwydd mewn gwagle. Ac yn gyfan gwbl annheg, mae’n cael ei gondemnio am dynnu sylw at y peth.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Mai, 2017