Nid wyf na bardd na beirniad llenyddol ond mentraf ddweud nad oes yma farddoniaeth fawr. Wna i ddim cyfieithu geiriau Forrest Fenn rhag gwneud cam â nhw. Ond awgrymaf fod mwy o farddoniaeth yn enw’r dyn nag yn ei gerdd.
As I have gone alone in there
And with my treasures bold,
I can keep my secret where,
And hint of riches new and old.
Dyna’r pedair llinell gyntaf. A hyd y gwelaf, doedd a wnelo’r Awen ddim oll â’r ugain llinell arall chwaith.
Americanwr cyfoethog ydi Forrest Fenn; miliwnydd sawl gwaith drosodd a wnaeth ei ffortiwn trwy werthu gwaith celf. Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 2010, honnodd iddo guddio cist lawn o drysorau aur ac arian gwerth 2 filiwn o ddoleri rywle yng nghanol y Rockies. Roedd yn ei gerdd naw cliw a fyddai o’u datrys yn arwain at y trysor. Caiff pwy bynnag a ddaw o hyd i’r gist ei chadw hi a’r trysor. Ond o gofio fod y gadwyn fynyddoedd yn ymestyn dros 3,000 o filltiroedd o ogledd Canada i New Mexico yn yr Unol Daleithiau, pa ryfedd nad oes neb hyd yma wedi hawlio’r trysor? Mae’n debyg y dylid diolch mai rywle rhwng New Mexico a’r ffin â Chanada y mae’r trysor, sy’n cyfyngu’r chwilio i ardal sy’n ymestyn dros ddim mwy na 1,700 o filltiroedd!
Mae cannoedd, os nad miloedd, o bobl wedi rhoi cynnig ar ddatrys y cliwiau a chwilio am y gist. Ac er bod rhai’n dadlau mai celwydd yw’r cyfan ac nad oes cist guddiedig, gwadu hynny wna Forrest Fenn. Roedd yn y newyddion yr wythnos ddiwethaf wedi i Paris Wallace, a oedd yn weinidog mewn eglwys yn nhalaith Colorado, farw yn y Rio Grande wrth chwilio am y trysor. Gwaetha’r modd, dyma’r ail ddyn a fu farw ar drywydd y trysor hwn.
Ac yntau’n weinidog, mae’n debyg y gwyddai Wallace fod Iesu Grist yn drysor mwy, ac yn drysor gwahanol iawn i drysor Fenn.
Nid tasg amhosibl yw dod o hyd i drysor yr Efengyl. Mae Iesu wedi addo y bydd ‘pawb sy’n gofyn yn derbyn, a’r sawl sy’n ceisio yn cael’ yr hyn y mae’r Tad nefol yn ei gynnig.
Nid cliwiau dyrys ac anodd eu datrys sy’n ein cyfeirio at y trysor hwn, ond gwahoddiad clir a syml Iesu i bobl droi ato mewn ffydd.
Nid tystiolaeth un dyn sydd gennym ynglŷn ag o gan fod miliynau o bobl dros y canrifoedd wedi dod o hyd iddo.
Nid oes amheuaeth yn ei gylch, ac nid oes berygl i bobl chwilio a darganfod nad yw’r Efengyl yn wir.
Nid trysor sy’n darfod mo’r Efengyl, ond trysor sydd i bara am byth.
Ac er syndod, er i ni gael ein hannog i geisio’r trysor, mae gras Duw’n golygu y bydd llawer hefyd yn ei ddarganfod heb iddynt erioed chwilio amdano.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Mehefin, 2017