Gweithiwr Newydd Cynllun Efe: Croeso, Catrin

image3

Newyddion da! Mae Cynllun Efe wedi penodi Gweithiwr newydd. Bydd Catrin Ruth Hampton yn cychwyn ei swydd newydd fel Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Efe ar Fedi 1af, 2017. Mae hon yn swydd lawn amser mewn cydweithrediad ag Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaersalem, Caernarfon a Scripture Union. Bydd Catrin yn gwasanaethu Eglwys Caersalem am ddiwrnod a hanner yr wythnos, a bydd diwrnod yr wythnos yn cael ei neilltuo i genhadaeth trwy chwaraeon dan nawdd Scripture Union, gyda gweddill yr amser yn ardal Efe. Rydym yn cydnabod arweiniad Duw a chydweithrediad Caersalem a Scripture Union sydd wedi’n galluogi i fentro ymlaen yn hyderus i benodi Catrin i’r swydd hon am y tair blynedd nesaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Catrin ac â’n gilydd i ddatblygu ymhellach y gwaith y bu Cynllun Efe yn ei wneud ers mis Hydref 2008 dan arweiniad ein Gweithiwr Ieuenctid blaenorol, Andrew Settatree.

Daw Catrin yn wreiddiol o Lansannan. Mae ganddi brofiad o waith Cristnogol a chenhadol trwy ei chysylltiadau â Choleg y Bala, Y Gorlan yn yr Eisteddfod Genedlaethol a LLANW, yn ogystal ag yn yr eglwysi y bu’n gysylltiedig â hwy. Mae wedi gweithio fel nani ac fel gweinyddydd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cydlynydd Iechyd a Llesiant gyda Medrwn Môn. Mae’n croesawu’r cyfle newydd hwn i wasanaethu’r eglwysi a Chynllun Efe yn enw yr Arglwydd Iesu, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddod atom ym mis Medi.

Mae’n briod â Corey ac yn byw yng Nghaernarfon ers blwyddyn a hanner. Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn yr eglwys yng Nghaersalem ers symud i’r Dre.

Bwriedir cynnal Oedfa Gomisiynu ym mis Medi.

Llongyfarchiadau gwresog i Catrin ar ei phenodiad, a dymuniadau gorau a phob bendith iddi yn ei gwaith.

Mwy na darllen

15873360_1398445906845812_6724960784733417493_n

Ar un ystyr, mae hi dal yn 2016 ar Gronyn!  Dyna ‘Flwyddyn y Beibl Byw’ a drefnwyd gan Gymdeithas y Beibl, Gobaith i Gymru a’r Cyngor Ysgolion Sul.  Eleni, ‘Blwyddyn Byw y Beibl’ yw hi ond fel y gwelwch dros y ddalen, dal i ddefnyddio’r logo ‘Beibl Byw’ a wnawn ni.  Ond wnawn ni ddim poeni gormod chwaith gan mai bwriad ‘Beibl Byw’ a ‘Byw y Beibl’ fel ei gilydd yw ceisio gwneud y Beibl yn gyfarwydd ac yn berthnasol trwy gael pobl, mae’n debyg, i’w ddarllen ac i fyfyrio arno ac i’w weithredu.

Gan fod cyfrolau fel beibl.net a’r Beibl Canllaw wedi eu cyhoeddi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n bosibl iawn fod mwy o ddarllen ar y Beibl yn ein plith nag ers blynyddoedd.  Ac mae hynny’n beth calonogol iawn.  Ac eto, rhaid cofio nad yw darllen y Beibl o reidrwydd yn cyflawni dim.  Mae rhai ohonom yn cofio ambell ddosbarth Ysgol Sul nad oedd yn gwneud dim ond darllen y Beibl.  Mae’n swnio’n beth ardderchog i’w wneud.  Beth well na gadael i’r Beibl ei hun siarad â ni, yn hytrach na’n bod ni’n ei drafod a’i ddadansoddi?  Ond yn aml iawn, wrth ddarllen mewn gylch, gyda phawb yn darllen adnod ar y tro, roedd yn anodd iawn i’r darllen fod yn ystyrlon ac i’r neges fod yn glir.  Gall darllen slafaidd a difeddwl gan unigolyn fod yr un mor wag o ystyr ar brydiau.

Mae angen mwy na darllen; mae angen myfyrio ar yr hyn a ddarllenir.  Mae i bob tudalen a phob pennod ac adnod o’r Beibl eu neges, ac mae’n amhosibl cael gafael ar y neges honno heb roi’r meddwl ar waith.  Heb ystyried yr hyn a ddarllenwyd, heb fyfyrio rhywfaint arno does dim modd gweld y neges sydd gan Dduw ar ein cyfer.  Nid yw hynny’n golygu o reidrwydd ein bod yn ei astudio’n fanwl iawn na’n bod yn dod yn arbenigwyr ar gynnwys y Beibl, ond y mae’n golygu meddwl am y geiriau ac ystyried beth yw eu neges i ni.

Ond mae hefyd angen fwy na myfyrio.  Nid deall neges y Beibl yn unig sydd ei angen; mae hefyd angen gweithredu’r neges honno.  Waeth heb â deall fod angen edifeirwch heb i ni edifarhau.  Waeth heb â gwybod fod angen credu yn Iesu Grist heb i ni gredu.  Waeth heb a sylweddoli fod rhaid dilyn Iesu ac ufuddhau iddo heb wneud y pethau hynny.

Nid cyfrol farw a sych yw’r Beibl ond llyfr sy’n dal i lefaru mor eglur heddiw ag erioed.  Mae’n briodol defnyddio’r term ‘Beibl Byw’, ond er mwyn iddo fod yn ymadrodd cwbl addas mae’n rhaid i’r rhai sy’n ei ddarllen ‘Fyw’r Beibl’ trwy ymateb i’w wahoddiad ac ufuddhau i’w orchmynion.  Darllenwn y Beibl er mwyn gwybod ei neges; myfyriwn arno er mwyn ei ddeall; a gweithredwn ef er mwyn ei fyw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Gorffennaf, 2017

Y rhifyn olaf

4908076

Diwedd Mehefin a diwedd cyfnod, am y tro beth bynnag.  Doedd yna ddim pennawd dramatig i gyhoeddi’r ffaith, ond ddydd Gwener fe gyhoeddwyd rhifyn olaf Y Cymro dan berchnogaeth  y cwmni a fu’n gyfrifol amdano ers 2005.  O bosibl y gwêl olau dydd eto mewn rhyw wedd dan oruchwyliaeth newydd, ond bydd rhaid aros sbel am hynny mae’n debyg.  Cyhoeddwyd Y Cymro yn wythnosol ers 1932, er bod sawl papur wedi dwyn y teitl ers i’r Cymro cyntaf ymddangos yn 1848.

Cilio’n dawel a wnaeth y papur ddydd Gwener, gydag erthygl ar dudalen 9 yn nodi’r ffaith mai dyma’r rhifyn olaf.  Byddai rhai’n dadlau fod hynny’n   nodweddiadol ohonom fel cenedl nad yw’n mynnu tynnu sylw ati ei hun.  Mor wahanol y dudalen flaen olaf hon i eiddo papurau diflanedig  diweddar Lloegr: ‘GOODBYE: It’s  been great to know you’; ‘THANK YOU AND GOODBYE’; a ‘STOP PRESS’.  Wyddoch chi pa dri phapur a roddodd y geiriau hynny ar flaen eu rhifynnau olaf?*  Does ond gobeithio bod y cilio tawel a di-ffws yn awgrymu y gall Y Cymro ddychwelyd yn fuan iawn.

Tasg gynyddol anodd yw cyhoeddi papur newydd neu gylchgrawn, er nad yw hynny’n amlwg chwaith o weld y doreth o gylchgronau am bob math o bynciau sydd ar werth yn y siopau heddiw.  Mae’r dasg honno’n anos fyth mewn iaith leiafrifol fel y Gymraeg, ac mae’n drueni na roed i’r Cymro ragor o nawdd cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf i’w alluogi i ddatblygu ac i oroesi.  Ac o gofio fod y Tywysog Charles, yn ôl cân Dafydd Iwan, yn ‘darllen Y Cymro a’r Faner’ mae’n siŵr ei fod yntau’n rhannu ein gofid fod y ddau bapur erbyn hyn yn perthyn i’r gorffennol (er bod Y Faner Newydd ers 1997 wedi arddel teitl y papur a ddaeth i ben yn 1992).

Ond mae diflaniad Y Cymro hefyd yn ein hatgoffa o wyrth parhad y papurau a’r cylchgronau Cristnogol ac enwadol sydd gennym yng Nghymru.  Mae tri o’r enwadau’n dal i gyhoeddi papur wythnosol (gyda’r Pedair Tudalen Cydenwadol yn cael ei gynnwys yn y tri), un arall yn cyhoeddi cylchgrawn bob deufis, a chyhoeddir Cristion a’r Cylchgrawn Efengylaidd bob tri mis. Yn y Gymru Gristnogol Gymraeg sydd ohoni, mae hyn yn gryn ryfeddod. Rhaid canmol a diolch i’r enwadau am eu nawdd i’r cyhoeddiadau hyn.  Rhaid diolch hefyd i bawb sy’n eu cefnogi trwy eu prynu a’u darllen.  Yr un pryd, anogwn eraill i wneud yr un peth, nid yn unig er mwyn diogelu eu parhad ond hefyd er mwyn elwa ar yr holl ddeunydd a gyhoeddir ynddynt.

Nid dyma’r unig ddeunydd Cristnogol Cymraeg a gyhoeddir heddiw wrth gwrs. Mae sawl eglwys a gofalaeth yn cyhoeddi cylchgrawn yn fisol neu’n achlysurol, a chyhoeddir deunydd yn gyson ar y We.  Ond diwrnod trist fyddai’r dydd y gwelid tranc yr un o’r papurau a’r cylchgronau sy’n cyfrannu at dystiolaeth yr Efengyl yn ei gwlad.

* ‘GOODBYE: It’s  been great to know you’ – TODAY (Tachwedd 17, 1995); ‘THANK YOU AND GOODBYE’ – NEWS OF THE WORLD  (Gorffennaf 10, 2011);  ‘STOP PRESS’ – THE INDEPENDENT (Mawrth 27, 2016).

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 02 Gorffennaf, 2017