Am ryw reswm, chefais i erioed fy nhemtio hyd yn oed i ystyried rhedeg Marathon. Tua thair milltir oedd y ras draws gwlad yn Ysgol Brynrefail, a dyna’r ras hiraf i mi ei rhedeg. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol mi oeddwn (os cofiaf yn iawn) yn seithfed yn y ras honno, er fy mod yn yr un ras â phlant o leiaf ddwy flynedd yn hŷn na mi. Wnes i erioed cystal wedyn.
Ras fyrrach o gryn dipyn oedd y nesaf sy’n aros yn y cof. Ras 880 llath i fechgyn oed ‘Canol’ yn Chwaraeon y Sir ym Mangor (ar yr union gae y mae tîm pêl droed Dinas Bangor yn chwarae arno yn Nantporth erbyn hyn). Er mawr syndod i mi fy hun, roeddwn ar y blaen lai na chan llath o’r llinell derfyn – nes i mi faglu (neu lwyr ddiffygio mae’n debyg) a syrthio ar fy hyd ar lawr.
Flynyddoedd yn rhy hwyr gwaetha’r modd y deallais mai rasys byrrach o lawer oedd orau i mi, wrth fwynhau ras y tadau yn Chwaraeon yr Ysgol neu ras dros ryw gan llath yng Ngharnifal y pentref. Ac er nad oeddwn mor gyflym ag Ussain Bolt, yn wahanol iddo fo mi lwyddais i roi’r gorau i’r cystadlu cyn i neb fy nghuro! Ac yn ddistaw bach, rwy’n falch o hynny o gofio fy mod yn hanner cant oed erbyn y ras olaf.
Roedd can llath neu lai yn gweddu i’r dim i mi. Byddai dau gan llath wedi bod yn ormod, heb sôn am chwe milltir ar hugain y Marathon.
Mae’r Testament Newydd yn cymharu bywyd y Cristion â rhedeg ras. Cawn ein hannog i ‘redeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio’ (Hebreaid 12:1). Gellid cydio pob un o’r rasus uchod wrth y darlun hwn. Pam na wnes i’n dda ym mhob ras draws gwlad wedyn? Am fy mod yn gwybod wedyn ba mor hir oedd y cwrs. Awn ni ddim yn bell yn y bywyd Cristnogol os byddwn yn ofni’r hyn sydd o’n blaen. Pam aeth pethau’n flêr yn Nantporth? Am fy mod wedi cychwyn yn dda ond wedi methu dal ati i’r diwedd. Mae mwy na dechrau da i’r bywyd Cristnogol: mae angen dal ati i’r diwedd. Ac yn y rasus byr roedd rhaid cadw golwg ar y nod, ar y llinell derfyn o’m blaen er mwyn ennill. Yr un modd, ‘rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu’ yw’r alwad i’r Cristion. Heb wneud hynny, ni all neb fyw’r bywyd Cristnogol yn iawn.
Ond pe byddai raid dewis un ras sy’n gweddu i’r dim i’r darlun hwn, mae’n debyg mai’r Marathon fyddai honno. Nid ras ar wib dros gyfnod byr ond ymdrech oes i ddilyn yr Arglwydd Iesu Grist ac i fwynhau ei gwmni’n barhaus yw’r bywyd Cristnogol. Ar gyfer y fath ras, mae’n rhaid wrth ymarfer, ac y mae’n rhaid wrth ddyfalbarhad mawr yn wyneb pob rhwystr. Mae ymarfer yn hanfodol i’r Cristion, a thrwy weddi a myfyrdod yng Ngair Duw y ceir hwnnw er mwyn cryfhau a derbyn gras a chymorth i ymroi i fyw yn llwyr i Iesu Grist, i’w garu ac i’w wasanaethu bob munud o bob dydd.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Hydref, 2017