450 o flynyddoedd ers cyhoeddi Testament Newydd Salesbury

Hydref 22, 2017

sg1385-26p-william-salesbury-vfu-135-p

A ninnau’n agosáu at ddiwedd Hydref, dwyf fi ddim am un eiliad yn disgwyl i chi gofio beth oedd testun erthyglau Gronyn ddechrau’r flwyddyn.  Ond fe soniwyd ganol Ionawr a dechrau’r mis bach am ddau ddigwyddiad a dau ddyn arbennig a fyddai’n cael eu cofio a’u dathlu eleni.  Ac yn ystod y flwyddyn fe roddwyd sylw i 300 mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, y Pêr Ganiedydd yn 1717, a 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd, a Martin Luther ar ddydd olaf Hydref 1517 yn hoelio ar ddrws eglwys yn Wittenburg yn yr Almaen boster ac arno 95 erthygl yn beirniadu Eglwys Babyddol ei ddydd.

Cyn i’r mis Hydref hwn fynd heibio, mae’n werth sôn am drydydd dathliad o bwys, sef 450 mlwyddiant y Testament Newydd Cymraeg cyntaf.  Ar Hydref 7, 1567 y cyhoeddwyd hwnnw, a’r gŵr a oedd yn bennaf cyfrifol am ei gyfieithu oedd William Salesbury. Ond wedi  cyhoeddi’r Beibl Cymraeg cyfan yn 1588, mae’n hawdd iawn deall sut y gwthiwyd Salesbury i’r cysgodion wrth i’r Esgob William Morgan gael y sylw fel cyfieithydd y Beibl.

Ychydig iawn o ddarllen a fu ar waith Salesbury ers blynyddoedd lawer gan fod Beibl William Morgan wedi dod mor gyfarwydd.  Wedi dweud hynny, dylid cofio mai diwygio cyfieithiad Salesbury a wnaeth William Morgan i raddau helaeth.  Erbyn hyn, gallwn gymharu’r ddau fersiwn gan fod modd darllen cyfieithiad Salesbury ar dabled neu ffôn symudol (ar ‘Ap Beibl’).  Dylid dweud bod Testament Newydd Salesbury wedi ei ailargraffu yng Nghaernarfon yn 1850, a bod y fersiwn hwnnw wedi ei olygu mae’n debyg gan ŵr o’r enw Isaac Jones, a ddiwygiodd rywfaint ar ei orgraff. Dyma’r fersiwn a welir ar Ap Beibl.  Y peth rhyfeddol yw mor rhwydd yw ei ddarllen o feddwl ei fod yn 450 mlwydd oed.

Mae’r tri dathliad hyn yn ein hatgoffa o’r ffaith fod i’r Efengyl hanes hir a llewyrchus yma yng Nghymru ac ar gyfandir Ewrop.  Ac nid yw’r hanes hwnnw wedi ei gyfyngu i’r pum can mlynedd diwethaf nac i un cyfandir.  Mae’r Ffydd Gristnogol yn ymestyn nôl i ddyddiau Crist ei hun, a chafodd ei chofleidio ar bob cyfandir.  Ond nid y ffaith ei bod yn hen na’r ffaith iddi barhau o oes i oes sy’n rhoi i ni’r hyder y bydd y Ffydd hon yn cael ei harddel ymhen 300 a 450 a 500 o flynyddoedd arall (oni bai y bydd Ailddyfodiad Iesu wedi dod cyn hynny).  Gwraidd ein hyder ynghylch parhad y dystiolaeth Gristnogol yw’r ffaith mai Efengyl Duw yw hi.  Duw yw ei hawdur; Duw a’n carodd trwy anfon ei Fab Iesu’n Waredwr; a thrwy’r Efengyl, Duw a ddaw â phobl ym mhob cenhedlaeth i’r bywyd tragwyddol sydd yn Iesu Grist.  Ni allwn warantu parhad ein heglwysi na’n traddodiadau na’n henwadau na phatrwm ein haddoliad. Ond gan mai Efengyl Duw yw hi, gallwn warantu y pery hon, yn oleuni, gobaith a bywyd i bawb a ddaw at Grist trwy ffydd.  Ac achos dathlu tragwyddol yw hynny.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Hydref, 2017

Advertisements