Llifddorau

Fe agorodd llifddorau’r awyr dros ran helaeth o’r Gogledd ddydd Mercher diwethaf, a chafwyd pnawn a gyda’r nos i’w hanghofio mewn llefydd fel Llangefni wedi i afon Cefni lifo trwy ganol y dref.  Clywyd rhai o drigolion y dref yn dweud na welson nhw beth tebyg o’r blaen.  Yn gwbl annisgwyl y daeth y dŵr, fel sy’n wir yn aml gyda llifogydd o’r fath.

Gwaetha’r modd, doedd dim annisgwyl ynghylch agor y llifddorau yng Nghaerdydd neithiwr wrth i dîm rygbi Seland Newydd sgorio dau gais yn gynnar yn ail hanner y gêm yn erbyn Cymru.  Ac er i’r Cymry atal y llif am gyfnod, dros dro yn unig y bu hynny, a sgoriodd yr ymwelwyr gais arall cyn diwedd y gêm gan sicrhau y bydd rhaid aros o hyd am yr hir-ddisgwyliedig fuddugoliaeth dros y Crysau Duon.

I’r rhai a fagwyd yng nghyfnod bri’r capeli a’r eglwysi yng Nghymru, yn annisgwyl iawn y daeth y lli a sgubodd o’i flaen y grefydd a fu’n rhan ganolog o fywyd y genedl am flynyddoedd.  Ni fyddai’r bobl a welodd y capeli llawn, ac a fu’n rhan o fri’r cymanfaoedd canu a’r gwyliau pregethu wedi dychmygu y deuai’r dydd pan fyddai mwyafrif pobl ein gwlad wedi colli cysylltiad yn llwyr â chapel ac eglwys. Gwaetha’r modd, i ni heddiw does dim annisgwyl mewn gweld y llifddorau’n llydan agored wrth i gapeli, eglwysi a chymaint a fu’n rhan o fywyd crefyddol a diwylliannol ein cenedl edwino a bron ddiflannu o’r tir.

Pe byddem yn sôn yn unig am drai a dirywiad treftadaeth a diwylliant, byddai’n rhesymol tybio ein bod yn gweld tranc y Gristnogaeth a fu mor ddylanwadol yn hanes ein cenedl.  Mynd a dod fu hanes diwylliannau’r byd ar hyd y cenedlaethau, wedi’r cwbl.  Ond nid am ddiwylliant na threftadaeth, na hyd yn oed grefydd y soniwn, ond am y Ffydd a oroesodd dros genedlaethau a chanrifoedd, ac am Waredwr sy’n fyw, ac a fydd yn fyw am byth.  Mae’r Ffydd wedi bod dan warchae ar hyd yr oesoedd, ac er gwaethaf erledigaeth ac anghrediniaeth a gelyniaeth mae’r Eglwys wedi profi adnewyddiad a ffyniant newydd o hyd ac o hyd.

Y mae eto obaith sicr i Eglwys Iesu Grist yn ein gwlad.  Oherwydd y Duw Byw yw ei Harglwydd, a’r Crist   buddugoliaethus yw ei Gwaredwr. Mae’n bosibl mai yn annisgwyl y gwêl llawer ryw ddydd y llifddorau’n agor drachefn, a’r Efengyl dan ddylanwad yr Ysbryd Glân unwaith eto’n rym achubol, a phobl yn cyffesu a chlodfori Iesu Grist o’r newydd. Daw’r fendith nefol o bosibl heb ei disgwyl i ambell ardal neu mewn ambell gyfnod.  Ond os a phan ddigwydd hynny, mentrwn ddweud nad annisgwyl fydd y fendith i’r bobl dduwiol a fydd wedi bod yn ei cheisio’n weddigar, a hynny o bosibl dros gyfnod maith. Yn lle cwyno am drueni presennol yr Eglwys, dowch i ni geisio trugaredd Duw a llwyddiant yr Efengyl.  Pwy a ŵyr na ddaw’r fendith honno cyn i ni guro’r Crysau Duon?

 

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Tachwedd, 2017

Salvator Mundi

salvator mundi

400 miliwn doler (neu 304 miliwn punt): dyna gostiodd un llun yn Efrog Newydd ddydd Mercher diwethaf.  Wedi ychwanegu costau’r ocsiwn fe dalodd y prynwr $450m (neu £341m) am ‘Salvator Mundi’ (‘Gwaredwr y Byd’).  Rhyfedd meddwl fod y llun wedi ei werthu am £45 yn 1958.  Wedi hynny, aeth yn angof nes iddo gael ei werthu yn 2005 i brynwyr a oedd yn benderfynol o’i adfer a phrofi mai Leonardo da Vinci a’i paentiodd. Erbyn 2010, roedd hynny wedi ei wneud. Fe’i gwerthwyd fwy nag unwaith wedyn am filiynau o bunnoedd cyn iddo ddod i’r ocsiwn ddydd Mercher.

Ie, £341m am Salvator Mundi. Ond mae Iesu Grist, gwir Waredwr y Byd, yn amhrisiadwy; ac eto mae ar gael yn rhad ac am ddim i bwy bynnag sy’n ei dderbyn. Gan mai unigolyn a brynodd y llun yr wythnos ddiwethaf mae’n bosibl na chaiff ei weld yn gyhoeddus am flynyddoedd eto.  Ond fe welir y Gwaredwr unrhyw bryd gan y sawl sy’n edrych arno trwy ffydd.

Nid y ffaith mai llun o Iesu Grist ydyw sy’n rhoi gwerth iddo wrth gwrs.  Mae cannoedd o luniau o’r Gwaredwr i’w cael, a ffrwyth dychymyg arlunydd yw hwn fel pob un arall ohonynt.  Nid oes unrhyw sail dros gredu fod hwn damaid tebycach i Iesu nag unrhyw lun arall.  Gallwn werthfawrogi’r llun er hynny, trwy weld ynddo ddehongliad yr arlunydd o Grist neu ein dehongliad ni ein hunain o’r hyn a welwn.  Un peth  yn unig sy’n rhoi gwerth i’r llun, sef y dyfarniad mai Leonardo a’i paentiodd

Am ganrifoedd, roedd pobl yn credu mai gwaith arlunydd arall oedd o.  Hyd yn oed heddiw, er iddo gael ei dderbyn fel gwaith Leonardo, barn arbenigwyr yn hytrach na phrawf diymwad sydd i gyfrif am hynny.  Ac oherwydd y gwaith mawr a wnaed arno i’w lanhau a’i adnewyddu, dywed rhai mai copi o’r Salvator Mundi gwreiddiol i bob pwrpas yw’r llun erbyn hyn gan fod cymaint ohono wedi ei ail baentio.  Ond er gwaethaf hyn oll, mae’n werth cannoedd o filiynau o bunnoedd am iddo gael ei gydnabod yn un o luniau prin Leonardo sydd wedi goroesi.

Nid y Crist a bortreadir sy’n gwneud y llun yn werthfawr ond yr arlunydd. Wedi’r cwbl, £45 a dalwyd amdano cyn iddo gael ei briodoli i Leonardo. Nid bai’r arlunydd yw hynny; ond y mae er hynny’n rhybudd i’r rhai sydd ym mhob cenhedlaeth yn cyhoeddi Crist. Oherwydd y Gwaredwr sy’n bwysig; ac ef sydd i gael y clod.  Roedd Ioan Fedyddiwr yn deall hynny pan ddywedodd, ‘Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau’ (Ioan 3:30).  Nid ein llwyddiant na’n lles na’n poblogrwydd na’n henw da ni sy’n bwysig yng ngwaith yr Efengyl, ond bod Iesu Grist yn cael ei glodfori.  Dyrchafu gwir Waredwr y Byd yw ein gwaith, gan gyhoeddi’n ffyddlon holl fanylion prydferth y darlun godidog ohono a geir yn y Beibl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Tachwedd, 2017

Yn ddigalon o ddiogel

grrrrr (3)

Am unwaith, mae’r Arlywydd Trump wedi dweud rhywbeth doeth a da.  Wel, mi fyddai’n ddoeth a da pe byddai wedi ei ddweud mewn cyswllt arall.

‘Dydi’ch arfau ddim yn eich gwneud chi’n fwy diogel’, meddai. Gwaetha’r modd, nid ymateb i’r saethu a laddodd chwech ar hugain o bobl mewn capel yn Sutherland Springs, Tecsas y Sul diwethaf yr oedd o.  Er gwaethaf pob cyflafan debyg, mae’r Arlywydd a chynifer o’i gydwladwyr yn gwrthod ystyried ei gwneud yn fwy anodd i bobl gael gafael ar wn. Mae fel petai pob lladdfa’n cryfhau’r syniad mai gwn yw’r unig beth sy’n medru cadw pobl yr Unol Daleithiau’n ddiogel.  Byddai angen arlywydd goleuedig i ddweud wrth ei genedl nad yw arfau’n eu gwneud yn fwy diogel. Nid un felly ydi Mr Trump.

Nid at Americanwyr yr oedd yn anelu ei eiriau ond at Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un. Yn wyneb awch Kim i ddatblygu arfau niwclear, roedd Trump, wrth ymweld â De Corea, am ei sicrhau na fydd yr arfau hynny’n ei gadw fo na’i wlad yn ddiogel.  Roedd hefyd yn ei rybuddio na fydd yr Unol Daleithiau’n caniatáu iddo barhau i ddatblygu’r arfau hyn.

Wn i ddim beth sydd ym meddwl Kim Jong-un. Mae Donald Trump yn amlwg yn awgrymu ei fod yn credu y bydd arfau niwclear yn ei gadw’n ddiogel.  ‘Dim ffiars o beryg,’ meddai Trump yn dalog. Mae’n wirioneddol frawychus y gall yr Unol Daleithiau fynd i’r afael â Gogledd Corea yn yr ysbryd hwnnw.

Mae’r ddwy sefyllfa’n wahanol iawn, ond nid yn hollol annhebyg chwaith.  Pam fod Mr Trump yn dadlau fod gwn yn cadw unigolion a chymdeithas yn ddiogel mewn un wlad ond yn mynnu na all arfau wneud yr un peth mewn gwlad arall?  Ai gormod disgwyl i Mr Trump o leiaf fod yn gyson?  Os nad yw arfau’n gwneud gwlad yn ddiogel, onid rhesymol yw credu nad yw gwn yn gwneud pobl yn ddiogel chwaith

Ond y mae’r Arlywydd yn gyson mewn un peth, gwaetha’r modd. Nid gwn yw’r broblem, meddai; nid gwn sy’n lladd, ond pobl.  Pobl ddrwg ydi’r broblem, meddai; mae gwn yn iawn yn nwylo pobl dda. Ac mae’n ymddangos mai dyna yw sail ei bolisi arfau: mae arfau’n bethau ardderchog i amddiffyn gwledydd a chryfhau economi gwlad; mae angen eu cynhyrchu, eu lluosogi a’u gwerthu, cyn belled â’n bod yn eu gwerthu i bobl dda.  Yn ôl datganiad diweddar o’r Tŷ Gwyn; ‘Rhaid sicrhau ein bod yn gwerthu’r systemau hyn i bobl all eu defnyddio’n iawn i bwrpas cyfreithlon, fel gwrthderfysgaeth, a gofalu na chant eu defnyddio i wneud Arfau o Niwed Mawr nac mewn unrhyw ffordd a fydd yn tanseilio ein lles ni’.  Mewn geiriau eraill, mae arfau’n dda ond i ni eu rhoi yn nwylo pobl dda (y bobl a ystyriwn ni yn dda … y funud hon).  Ar Sul y Cofio, gweddïwn dros fyd ynfyd sy’n parhau i bentyrru arfau wrth resynu yr un pryd at eu canlyniadau difäol.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Tachwedd, 2017

Cwestiynau

branding_icon

Yr un hen gwestiynau. Sut allwn wneud y capel yn fwy perthnasol? Sut allwn ymestyn at y bobl o’n cwmpas? Sut allwn agor drysau’r capel yn ystod yr wythnos?  Y math o gwestiynau a glywyd ers blynyddoedd a glywais y Sul diwethaf eto.  Cwestiynau digon tebyg y mae Cristnogion yn eu gofyn yn Yr Alban ag yng Nghymru, mae’n amlwg.  Be fedrwn ei wneud i ddenu pobl?  Sut fedrwn ni wneud y capel yn ganolog i fywyd ein cymdogaeth?

Yr un cwestiynau.  Ac mae’n bosibl eu bod hefyd yn cael eu gofyn yn yr un ffordd mewn sawl lle yn y wlad honno.  Ond nid felly yng Nghapel Charlotte, Caeredin.  Oherwydd nid o wendid y gofynnid y cwestiynau hyn yno, ond o gryfder.  Cwta ddeunaw mis sydd ers i’r eglwys symud i’w chartref newydd.  Gwerthwyd y capel y bu’r eglwys yn addoli ynddo ers canrif er mwyn prynu ac adnewyddu capel enfawr ar un o strydoedd prysuraf y ddinas. Costiodd hyn dair miliwn a hanner o bunnoedd.  Roedd y capel hwn yn orlawn fore Sul.  Wn i ddim faint oedd yno; ymhell dros bum cant, ac o bosibl dros chwech a saith gant. Dim ond rhyw ddau gant oedd yn oedfa’r hwyr!  Roedd gan yr eglwys 14 o wahanol weithgareddau yn ystod yr wythnos, a thîm pêl droed a oedd yn ymarfer ar nos Lun ac yn chwarae yng Nghynghrair Eglwysi Caeredin ar fore Sadwrn.

Hawdd fyddai i ymwelwyr fel ni dybio bod popeth yn dda yn yr eglwys hon ac nad oedd angen i’w haelodau ofyn y math o gwestiynau a ofynnwn ni mor aml.  Onid eglwysi gwannach o lawer sy’n gorfod meddwl am ffyrdd i ddenu pobl?  Ond mynnu eu gofyn a wna hon hefyd. Ac mae’n debyg mai oherwydd ei bod yn eu gofyn yr oedd aelodau’r eglwys yn gosod bwrdd ar y palmant o flaen y capel cyn y ddwy oedfa er mwyn cynnig paned am ddim i bawb a âi heibio.  Dyna hefyd pam y bwriedir agor y capel am ddwy awr ganol dydd deirgwaith yr wythnos er mwyn i bobl ddieithr fedru dod i mewn heb fod dan bwysau i fynychu oedfa neu gyfarfod ffurfiol. A dyna pam y bwriedir cynnal ambell i gyfarfod amser cinio ar gyfer pobl sydd, am ba reswm bynnag, yn methu dod i oedfa ar y Sul.

Mae byd o wahaniaeth rhwng Capel Charlotte a chapeli’r Ofalaeth hon a mwyafrif capeli Cymru.  Nid mewn prifddinas boblog, gosmopolitan a chyfoethog yr ydym ni.  Ac nid mewn capeli llawn yr addolwn.  Ond yr ofn sydd gennyf yw mai’r prif wahaniaeth yw ein bod ni, ers gormod o amser o lawer, wedi gofyn y cwestiynau hyn er mwyn y capel, er mwyn llwyddiant a dyfodol yr Achos, a hyd yn oed er ein mwyn ein hunain, tra bo’r eglwys yng Nghapel Charlotte yn eu gofyn er mwyn yr Efengyl ac er mwyn Iesu Grist ei hun.  Y dyhead i weld pobl yn dod i gredu yng Nghrist ac i brofi’r  bywyd newydd drwyddo sy’n gwneud i bobl ymestyn allan at eraill er bod ganddynt gapel llawn a rhaglen lawn o weithgareddau.  Gwae ni os yw ein capeli’n bodoli er eu mwyn eu hunain.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Tachwedd, 2017