Torri gwallt, arth wen, ‘makeover’ a Dr Who. Beth sy’n gyffredin i’r pedwar peth hyn? Fawr o ddim (oni bai fod Dr Who yn torri ei gwallt cyn mynd i roi ‘makeover’ i arth wen, neu bod arth wen yn cael ‘makeover’ cyn torri gwallt Dr Who!)
Na, does dim byd amlwg i’w cysylltu â’i gilydd. Ond os ewch i wefan beibl.net mi welwch fod pob un yn fan cychwyn i sgyrsiau (neu bodlediadau) am y Ffydd Gristnogol. Os na chlywsoch y sgyrsiau, mae’n werth mynd i’r wefan i chwilio amdanynt. Pum munud, fwy neu lai, yw hyd pob sgwrs, ac mae’n rhwydd iawn gwrando arnynt. Mae yno bymtheg erbyn hyn, ond mae’n debyg yr ychwanegir rhagor atynt yn y man.
Ac os ewch i’r wefan, mi welwch ar unwaith mai rhan fechan yn unig o’r cyfoeth o ddeunydd a geir yno yw’r podlediadau. Mae yno bob math o ddeunydd gwerthfawr, yn cynnwys ffilmiau amrywiol a thystiolaethau gan Gristnogion am eu ffydd a’u hoff adnodau, a storiau Beiblaidd yn cael eu hadrodd trwy gyfrwng cartwn ac ati. Cawn ddarllen yno hefyd bob math o ddeunydd sy’n ein helpu i ddeall y Beibl a’i neges, er mwyn i Air Duw ddod yn ffynhonnell cysur a nerth wrth i ni fyw’r bywyd Cristnogol o ddydd i ddydd.
Mae’n ddigon hawdd dod o hyd i’r wefan trwy fynd i beibl.net ar eich cyfrifiadur neu dabled electroneg.
Mae dros ddwy flynedd erbyn hyn ers cyhoeddi beibl.net mewn llyfr. Ond er mor braf yw medru darllen y cyfieithiad newydd hwn mewn llyfr, mae’n werth cofio bod gwaith beibl.net yn parhau trwy’r cyfan a welir ar y wefan. Mor hawdd yw anghofio am yr holl ddeunydd a ddarparwyd ar ein cyfer. Rwyf fi mor dueddol â neb o wneud hynny. Mi fyddwn wedi arbed gwaith i mi fy hun fwy nag unwaith pe byddwn wedi cofio am y deunydd hwn wrth baratoi ar gyfer ambell Oedfa Deulu er enghraifft. Ond gwaeth na hynny, rwyf ar fy ngholled o beidio â throi yn fwy aml i ddarllen a gwrando ar bethau a all fy helpu a’m calonogi yn y bywyd Cristnogol.
Mor werthfawr hefyd yw cofio nad beibl.net yw’r unig gymorth sydd ar gael. Yma yng Nghymru, mae gan sawl eglwys a gofalaeth wefan sy’n ein galluogi i wrando ar bregethau neu ddarllen negeseuon. Mae amrywiaeth o lyfrau a mwy nag un cylchgrawn Cristnogol Cymraeg yn dal i gael eu cyhoeddi ar gyfer plant ac oedolion. Mae’r cyfan wedi ei ddarparu er mwyn cyflwyno Efengyl Iesu Grist a lledaenu cenhadaeth yr eglwysi. Diolchwn am bopeth sy’n ein helpu i gymhwyso neges y Beibl i’n bywydau bob dydd. Mae gwefan beibl.net yn sicr yn un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr sydd gan Gristnogion Cymraeg o bob oed. A diolch amdani.
[Wedi crybwyll ‘makeover’, aed ati i roi peth felly i Gronyn heddiw!]
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Ionawr, 2018