Nid wyf yn bwriadu unrhyw amarch i’r dyn trwy ddweud nad wyf yn cofio’r un gair a ddywedodd. Wedi’r cyfan, mae bron i 34 o flynyddoedd ers i mi ei weld yn Anfield, cae pêl droed Lerpwl, ym mis Gorffennaf 1984; yr unig dro i mi ei weld.

Mae’n debyg fod yna gannoedd o bobl sy’n cofio popeth a ddywedodd Billy Graham yn Lerpwl y noson honno, a bod yr hyn a glywsant wedi cael dylanwad mawr ar lawer ohonynt. Mae’n siŵr fod llawer yn tystio eu bod, trwy ras Duw a gwaith effeithiol yr Ysbryd Glân, wedi troi mewn ffydd at Iesu Grist y noson honno ar ôl clywed yr efengylydd byd enwog yn cyhoeddi’r Efengyl. I Dduw y bo’r clod am weinidogaeth rymus Billy Graham dros y degawdau. Rhwng 1947 a 2005, cynhaliodd 417 o ymgyrchoedd pregethu ar draws y byd, a dywedir fod 215 miliwn o bobl wedi gwrando arno’n pregethu dros y cyfnod hwnnw, mewn 185 o wledydd. Mae’n siŵr gen i y byddai Billy Graham yn deall fod ymhlith y miliynau hynny rai fel fi a fyddai o fewn dim yn anghofio’r cyfan a glywsant. Er cymaint ei lwyddiant fel pregethwr, gwyddai nad ei allu ef oedd cyfrinach y llwyddiant hwnnw ond nerth Duw yn gweithio trwyddo. Byddai felly’n deall nad oedd disgwyl i’w bregethu gael yr un effaith ar bawb a’i clywodd, a bod llawer – yn Gristnogion yn ogystal ag anghredinwyr – yn dod o’r cyfarfodydd heb brofi unrhyw beth o bwys.
Gallaf gofio pregethwyr ac oedfaon a wnaeth fwy o argraff o lawer arnaf. Un o’r pregethwyr hynny, fel y soniais o’r blaen, oedd y gŵr duwiol, annwyl yr euthum ar y bws i Lerpwl gydag ef y noson honno, y Parchg John Vevar. A’r bregeth a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf erioed oedd nid un Billy Graham gerbron tyrfa o 33,000 o bobl mewn stadiwm bêl droed, ond un y Parchg Gwynn Williams (Caerdydd erbyn hyn) mewn cyfarfod syml iawn gyda chriw bychan o bobl yn un o stafelloedd hen adeilad y Brifysgol ym Mangor. Mi fedraf gofio’r bregeth honno a’i chwestiwn, ‘Pwy yw Iesu Grist?’ er i mi ei chlywed dros ddeng mlynedd cyn y daith i Lerpwl.
Mae Duw’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddod â ni at Grist. Yr un yw’r neges o oes i oes, ac o le i le: y newydd da fod bywyd i’w gael yn yr Arglwydd Iesu. Ond mae’r bobl a’r cyfryngau’n amrywio. Trwy wahanol dystion a gwahanol fath o oedfaon, mae Duw’n dod â phobl wyneb yn wyneb â’r angen i edifarhau a chredu yn yr Iesu. Nid y cyfryngau sydd bwysig; ac er mor ddylanwadol fu gweinidogaeth Billy Graham dros y blynyddoedd, nid fo oedd yn bwysig o gwbl ond y Gwaredwr bendigedig yr oedd yn gwahodd pobl i gredu ynddo.
Wrth ddiolch am waith yr efengylydd a fu farw ddydd Mercher diwethaf, mi gofiwn hefyd ar drothwy Gŵyl Ddewi mai’r un oedd galwad y gŵr duwiol Dewi o’r chweched ganrif a bregethai Grist gan alw ar bawb i’w gofleidio. A diolchwn fod gwaith yr Efengyl yn parhau o hyd.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Chwefror, 2018