Yr Ynyd

pancake1000x600

‘Dydd Mawrth Ynyd,

crempog bob munud.’

Wn i ddim pwy bia’r cwpled, ond rwy’n ddiolchgar am yr awgrym ac yn gobeithio cael crempog neu fwy ddydd Mawrth. Daeth y diwrnod hwn yn fuan eleni am fod y Pasg yn gymharol fuan.

Hen air dieithr ydi ‘ynyd’ erbyn hyn.  Ar wahân i’r ymadrodd ‘dydd Mawrth Ynyd’, oes unrhyw ddefnydd arno?  Glywsoch chi sôn am ‘wneud ynyd’ a ‘hel ynyd’ a hyd yn oed ‘iâr ynyd’?  Chlywais i ddim (ac mae fy iaith yn dlotach o’r herwydd).  Ac o gofio mai am ‘ddydd Mawrth Crempog’ y bydd y mwyafrif ohonom yn sôn, ai gormod dweud fod y gair ‘ynyd’ wedi diflannu?

Benthyciad o’r gair Lladin initium ydi ‘ynyd’.  Nid bod gwybod hynny o help chwaith os ydym wedi anghofio popeth o’r gwersi Lladin ers talwm (os ydym yn ddigon hen i fod wedi cael gwersi Lladin wrth gwrs!)  Ystyr initium yw ‘dechreuad’, ac o’r un gair y daeth y gair ‘initial’ i’r Saesneg.  Dydd Mawrth Ynyd yw Dydd Mawrth Dechreuad.  Ond dechrau beth?  Dechrau tymor y Grawys, sef y deugain niwrnod (heb gyfri’r Suliau) o ddydd Mercher y Lludw (drannoeth dydd Mawrth Ynyd) hyd Sadwrn y Pasg.

Mae’r Grawys yn nodi’r deugain niwrnod y bu Iesu yn yr anialwch. Wrth ymatal dros gyfnod y Grawys rhag bwyta pethau (yn draddodiadol, braster, wyau a chynnyrch llaeth), mae Cristnogion, fel rhan o’u disgyblaeth Gristnogol, yn ceisio efelychu Iesu.  Gwnaed crempogau â’r nwyddau hyn ar Ddydd Mawrth Ynyd gan na fyddid eu hangen dros yr wythnosau canlynol.  Ond yr oedd mwy i’r Ynyd a’r Grawys nag efelychu Iesu trwy ymwadu â’r hunan.  Pwrpas cadw defod y Grawys oedd helpu’r Cristion i gyffesu bai a gwneud penyd amdano er mwyn cael maddeuant.  Dyna mewn gwirionedd y tair elfen sydd i’r gair Saesneg ‘shrive’ a geir yn ‘Shrove Tuesday’.

Adweithio yn erbyn y perygl o wneud defodau’n sylfaen y bywyd Cristnogol a wnaeth yr Anghydffurfwyr wrth beidio â gorbwysleisio’r Grawys a rhai o wyliau eraill yr Eglwys.  Roedd pob awgrym y gallwn wneud penyd am ein pechodau ac ennill maddeuant yn wrthun iddynt.  Nid trwy ymatal rhag bwyta, na thrwy gosbi’r hunan mewn unrhyw ffordd, y daw maddeuant ond trwy ffydd yn Iesu, a ddioddefodd ac a fu farw trosom.  Beth bynnag a wnawn y Grawys hwn wrth baratoi ar gyfer y Pasg, cofiwn nad defodau, ond y Crist y rhown ein ffydd ynddo, yw sylfaen a dechrau’r cyfan.

Fel dywed Rhys Nicholas, nid oes raid i ni wneud penyd gan fod Iesu wedi ei wneud yn ein lle.

‘Gwn pa fodd y prynodd f’enaid,

gwn pa fodd y gwnaeth fi’n rhydd,

dwyn y penyd arno’i hunan,

marw drosof, cario’r dydd ;

clod a moliant

fydd yn llanw ’mywyd mwy.’

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Chwefror, 2018

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: