Brynhawn Sul diwethaf roeddem yn dechrau dod dros yr anhwylustod a achoswyd gan eira’r wythnos flaenorol. Ychydig a feddyliem y byddai’r eira’n dychwelyd am ychydig oriau fore Iau. Bynhawn Sul diwethaf hefyd roedd Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn mwynhau cinio a thro o amgylch un o ganolfannau siopa Caersallog. Ond yn fuan wedyn canfuwyd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch yn ddifrifol wael, a daeth yn amlwg ers hynny iddynt gael eu gwenwyno. Mae llawer yn credu fod a wnelo gwladwriaeth Rwsia rywbeth â’r ymosodiad mileinig, a bu trafod brwd ar y digwyddiad yn San Steffan, a hefyd ar y cyfryngau ac yn y Wasg. Yn naturiol ddigon condemniwyd yr ymosodiad ar y tad a’r ferch, ond fe glywyd llawn cymaint o resynu at yr ymosodiad tybiedig ar ‘ein gwlad ni’ a’i chyfreithiau trwy’r drosedd haerllug hon ar dir Prydain. Ymysg y mwyaf llafar eu condemniad ar bwy bynnag a fu mor ddigywilydd oedd rhai o bobl amlwg Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac erbyn canol yr wythnos, y gair a glywyd ar wefus bron bawb ohonynt i ddisgrifio’r weithred oedd ‘brazen’.
Ddydd Gwener, roedd y Llywodraeth yn dathlu cytundeb masnachol a wnaed i werthu pedwar dwsin o awyrennau milwrol Typhoon i Saudi Arabia. Mae’r cytundeb hwn werth £10biliwn i gwmni BAE Systems sy’n cynhyrchu’r awyrennau. Ac onid ‘brazen’, onid haerllug a digywilydd o’r mwyaf oedd cyfiawnhad Ysgrifennydd Amddiffyn y Llywodraeth, Gavin Williamson o’r cytundeb: ‘Yr ydym wedi cymryd cam allweddol at gwblhau archeb arall am awyrennau Typhoon a fydd yn cryfhau diogelwch y Dwyrain Canol.’ Ydy’r Llywodraeth yn credu na fydd y ‘fighter jets’ hyn yn ymladd? Ydy Theresa May am i ni gredu y bydd yr awyrennau hyn yn sefyll ar lain glanio yn Saudi Arabia gan berswadio pawb i fod yn heddychol yn y rhan honno o’r byd? Oes disgwyl i ni gredu nad yw, ac na fydd yr awyrennau rhyfel hyn a’r tunelli o arfau a werthir i Saudi Arabia yn cael eu defnyddio i ymosod ar a lladd pobl yn Yemen, o gofio bod lluoedd Saudi Arabia yn rhyfela yn y wlad honno ers tair blynedd bellach ac yn cael eu cyhuddo gan fwy nag un mudiad hawliau dynol o ymosod yn anghyfreithlon ar bobl gyffredin.
Y mae’r hyn a ddigwyddodd yng Nghaersallon yn ddychrynllyd iawn, a’r defnydd o gyfrwng nerfol i geisio lladd y tad a’r ferch yn gywilyddus. Ac y mae’n iawn i bobl gondemnio’r fath weithred. Ond yn yr un ffordd, mae lladd pobl gyffredin yn Yemen yn ddychrynllyd. Amcangyfrifir fod dros 10,000 o bobl wedi eu lladd yn y wlad honno ers dechrau’r rhyfel , a chyfran uchel ohonynt yn blant. Mae rhywbeth brawychus ynghylch condemniad croch y Llywodraeth o’r ymosodiad ar ddau berson un diwrnod a’u hymffrost y diwrnod wedyn iddynt daro bargen i werthu awyrennau a fydd yn debygol o ladd cannoedd os nad miloedd o bobl. Mae £10biliwn yn amlwg yn fwy gwerthfawr na channoedd o fywydau!
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Mawrth, 2018