Ar ddiwedd mis Medi arall mae’n adeg i edrych ymlaen. Aeth yr haf heibio, ac mae’n anochel ein bod yn paratoi at y Diolchgarwch, at droi’r clociau, at y Nadolig ac at bopeth arall sy’n rhan o’n hydrefau a’n gaeafau bob blwyddyn.
Dywed Salm 102, y dyfynnir ohoni yn Gronyn yr wythnos hon, ei bod yn adeg i wneud rhywbeth hefyd. Ond nid sôn am rywbeth yr ydym ni i’w wneud y mae’r Salmydd. Yn adnod 13, mae’n meiddio dweud ei bod yn adeg i Dduw wneud rhywbeth: ‘Byddi’n codi ac yn trugarhau wrth Seion; y mae’n adeg i dosturio wrthi, oherwydd fe ddaeth yr amser’.
Mae ffydd y Salmydd yn Nuw mor amlwg, mewn dyddiau sy’n amlwg yn anodd iddo fo’n bersonol ac i’w bobl. Sonia am ‘ddydd fy nghyfyngder’ (2) a chyfeiria at erfyniad ei bobl ‘orthrymedig’ (17). Mae’n amlwg ei fod yn hiraethu am weld yr Arglwydd yn ei fendithio ef a’i bobl; mae’n dyheu am weld Duw yn llwyddo ei waith ei hun. Mae’n cyfaddef ei wendid. ‘Yr wyf’ meddai ‘wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt’ (4), ac eto mae ei ffydd yn gadarn a’i hyder mor fawr. Ac yntau’n gwbl sicr y bydd Duw’n codi ac yn trugarhau wrth ei bobl gall ddweud, ‘Y mae’n adeg i dosturio wrthi’. Mae’n llawn gobaith y bydd Duw’n gwneud hynny, oherwydd ‘fe ddaeth yr amser’.
Rwy’n eiddigeddus o ffydd a gobaith y Salmydd. Mewn dyddiau blin o dlodi ysbrydol gallwn ninnau alw ar Dduw i drugarhau wrth ei Eglwys. Yn ein tristwch a’n hanobaith gallwn ddyheu am weld y Brenin mawr yn codi ac yn tosturio wrthym trwy lwyddo gwaith yr Efengyl. Mewn rhwystredigaeth a gwendid gallwn deimlo ei bod yn hen bryd i bethau newid a bod gormod o amser wedi mynd heibio ers i Efengyl Iesu Grist fod mewn bri yn ein gwlad. Ond rywsut, dyhead gwag ydyw, a does fawr o ddisgwyl i ddim newid mewn gwirionedd.
Mor wahanol y Salmydd: roedd o’n gwbl sicr y byddai Duw’n tosturio wrth ei bobl. Mae’n siwr fod a wnelo’r ffaith ei fod wedi gweddio a cheisio bendith Duw â’r sicrwydd hwnnw. Mae’n disgwyl i Dduw ateb ei weddi: ‘Byddi’n codi ac yn trugarhau wrth Seion’. Ac mae’n disgwyl iddo wneud hynny’n fuan: ‘y mae’n adeg i dosturio wrthi, oherwydd fe ddaeth yr amser’.
Ydw, rwy’n eiddigeddus o’r hyder a welir yn y Salm hon. Mi garwn fedru dweud gyda’r Salmydd fod yr amser wedi dod i Dduw lwyddo’i waith yn ein plith. Rwy’n teimlo’i bod yn bryd iddo wneud hynny, ond ni allaf honni gwybod fod yr amser wedi dod i hynny ddigwydd. Ond yr hyn a wn yw y dylwn gymryd cam yn ôl a cheisio trugaredd Duw i’m galluogi i weddio’n fwy dyfal ac i alw arno’n fwy taer i dosturio wrth ei Eglwys. Wrth wneud hynny y dof finnau, fel y Salmydd, i fentro dweud wrth yr Hollalluog ei bod yn adeg iddo dosturio wrth ei bobl eto.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Medi, 2018