Criced ddoe a heddiw

basil_1893839c

Os darllenoch chi bapur newydd neu os gwelsoch chi fwletin newyddion yn ystod yr wythnos mi glywsoch ddigon am griced. Yn ei gêm brawf olaf a’i fatiad olaf dros ei wlad yn yr olaf o gemau’r gyfres yn erbyn tîm India, sgoriodd cyn-gapten tîm criced Lloegr, Alastair Cook, 147 o rediadau.  Erbyn diwedd y gêm, roedd peth o’r sylw wedi troi at James Anderson gan ei fod bellach wedi cipio mwy o wicedi mewn gemau prawf na’r un bowliwr cyflym arall. Hyd yn oed os yw criced yn gêm gwbl ddieithr i chi, byddai wedi bod yn anodd osgoi’r sylw a roddwyd iddi ddechrau’r wythnos.

A byddai wedi bod yn anodd osgoi’r trafod a fu ar griced hanner canrif yn ôl i heddiw, wedi i Tom Cartwright gael ei anafu.  Nid bod hwnnw’n chwaraewr o bwys mawr chwaith, ond oherwydd yr anaf fe ddewiswyd Basil D’Oliveira i garfan Lloegr a oedd ar gychwyn i Dde Affrica.  Roedd D’Oliveira wedi chwarae dros Loegr yn ystod yr haf, ond heb gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer De Affrica. Roedd Llywodraeth De Affrica wedi bygwth canslo’r daith pe byddai D’Oliveira, y chwaraewr croenddu a oedd yn hanu o’r wlad, yn rhan ohoni.  Cafodd dewiswyr y garfan eu beirniadu’n hallt, yn Lloegr ac yn Ne Affrica, am ildio i’r Llywodraeth a’i pholisi Apartheid trwy beidio â’i gynnwys. O ganlyniad, byddai wedi bod yn anodd iddynt wneud hynny’r eildro pan anafwyd Cartwright, ac ar Fedi 16, 1968 fe ddewiswyd D’Oliveira i’r garfan yn ei le.

Drannoeth, dan arweiniad Llywodraeth a Phrif Weinidog De Affrica, B. J. Vorster, fe ganslwyd y daith.  Ac o ganlyniad, fe waharddwyd De Affrica rhag chwarae gemau rhyngwladol.  Parodd y gwaharddiad hwnnw am 22 o flynyddoedd.  Erbyn i’r gwaharddiad gael ei ddileu, roedd Nelson Mandela wedi ei ryddhau o’r carchar a’r drefn Apartheid yn prysur ddatgymalu.

Chwaraeodd Basil D’Oliveira 44 o gemau prawf dros Loegr, ond y gemau hynny yn Ne Affrica ddiwedd 1968 a dechrau 1969 na chwaraeodd ef na neb arall ynddynt a’i gwnaeth yn gricedwr mor bwysig a dylanwadol.  Daeth y gŵr hwn yn rhan o stori ddychrynllyd o drist trefn anghyfiawn Apartheid yn Ne Affrica.  A dim ond hanner can mlynedd sydd ers yr helynt! Ond yn fwy rhyfeddol fyth, dim ond ychydig dros ugain mlynedd sydd ers i’r drefn Apartheid gael ei dileu yn Ne Affrica. Mae anghyfiawnderau’r gorffennol yn llawer nes atom nag a sylweddolwn. Ond gall anghyfiawnderau’r presennol fod yn nes fyth. Ac oherwydd hynny, fe ddylai Cristnogion fod yn awyddus i wneud popeth posibl i warchod pobl a gaiff eu cam drin a’u gormesu mewn unrhyw ffordd.  Nid yw hynny’n rhwydd, yn arbennig os yw polisïau ein llywodraethau ni ein hunain, a hyd yn oed ein ffordd ni o fyw, yn rhannol gyfrifol am beth o’r gormes hwnnw. Gweddïwn, am gariad i sefyll o blaid y gwan, am ddewrder i herio pob math o anghyfiawnderau, ac am ras i newid ein hymddygiad, er clod i Dduw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Medi, 2018

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: