Feddylioch chi erioed gymaint y gellir ei wneud ag amser? Ymysg pethau eraill, gellir ei achub, ei basio, ei brynu, ei dreulio, ei ddifyrru, ei gael, ei golli, ei guro, ei gymryd, ei hela, ei ladd, ei lunio, ei oedi, ei osod a’i wastraffu. Mae Geiriadur y Brifysgol yn rhestru’r rhan fwyaf o’r geiriau hyn dan y gair ‘amser’. Fe soniwn hefyd am ‘ennill amser’ er nad yw’r Geiriadur, hyd y gwelaf, yn cynnwys yr ymadrodd hwnnw. Byddai rhai’n dweud ein bod wedi ennill amser heddiw wrth i ni droi’r cloc awr yn ôl. Ond go brin y medrwn honni i ni wneud hynny mewn gwirionedd a ninnau’n colli awr yn y gwanwyn wrth droi’r cloc ymlaen.
Beth bynnag arall y medrwn ei wneud ag amser, yr un peth sy’n sicr yw na fedrwn ei gael yn ôl. Weithiau, mae hynny’n gysur gan fod yna bethau a phrofiadau na fyddem am eu hail fyw. Mae yna bethau yr ydym yn falch o gael eu cefn, a phrofiadau na fyddem yn dymuno eu hwynebu eto. Bu cryn drafod yn ddiweddar wedi i Theresa May honni bod dyddiau ‘llymder’ wedi dod i ben. Nid oes arwyddion amlwg fod hynny’n wir, ond byddai’n dda gan filoedd lawer o bobl gredu ei fod. Does neb a ddioddefodd yn sgil polisi llymder y Llywodraeth yn dymuno ail fyw’r blynyddoedd caled diweddar.
Ond y mae hefyd bethau a phrofiadau eraill y byddem wrth ein bodd yn eu cael yn ôl. Gwyn ein byd os dyna yw ein profiad. Fe wyddom wrth gwrs na fedrwn gael hyd yn oed un diwrnod yn ôl; ac eto gwyn ein byd os yw bywyd wedi bod mor felys fel y byddem am ail fyw’r cyfan pe byddai modd. Er gwybod na chawn na diwrnod nac awr na munud yn ôl, does dim i’n rhwystro rhag breuddwydio am hynny wrth i ni drysori ein gwahanol atgofion.
Mae’r sylweddoliad na allwn ail fyw’r profiadau ac ail gerdded llwybrau ein bywydau yn ein hatgoffa mai rhodd werthfawr i’w thrysori yw amser. Rhywbeth i wneud yn fawr ohono, ac nid i’w afradu, yw amser. Y mae pob eiliad i’w gwerthfawrogi, a phob dydd yn destun diolch i Dduw am ei roi i ni. Gweddïwn am ras i fwynhau pob dydd a’i fendithion. Gweddïwn hefyd am nerth bob dydd i wneud y cyfan y mae Duw yn ei ofyn gennym.
Nid oes dim newydd yn yr erthygl hon heddiw gan i mi ddweud pethau digon tebyg fwy nag unwaith adeg ‘troi’r cloc’. Ond o ddarllen rhai o’r hen erthyglau hynny’r wythnos ddiwethaf, roedd rhaid i mi gyfaddef i mi yn rhy aml fethu â dilyn fy nghyngor fy hun. Gwn i mi wastraffu gormod o lawer o amser; gwn na wnes i’r defnydd gorau o bob awr, ac i mi drwy hynny fethu â phrynu’r amser fel y dylwn. Gwn na wnes y gorau o bob munud a roddodd Duw i mi. Mae’r cyfan yn ofid i mi. Ond diolch byth fod y Duw Byw a roddodd i ni amser hefyd yn rhoi trwy Iesu Grist faddeuant am bob methiant i’w dreulio’n iawn. Heb sicrwydd o’r maddeuant hwnnw, mae’n beryg y byddai’r euogrwydd yn llethol.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Hydref, 2018